Un Dydd Llun diflas llwyd, doeddwn i ddim awydd fy mrechdan gaws, felly, bwytais y bydysawd.
Doedd dim byd haws, llyncais y planedau a’r sêr, eu golau fel morfilod yn nofio yn fy mol.
Yna, dyma gnoi y galaethau fesul un a llyfu fy ngweflau wrth iddynt sglefrio lawr fy ngwddf.
Egni, amser a gofod; claddais y cwbl mewn cegiad.
Y byd, yr haul a phob lleuad yn llithro ar fy llwy, i mewn â nhw!
Dawnsiodd llwch gofodol aur ar fy nhafod. Ac yna cefais afal i bwdin.
Nawr, dwi’n gwybod y galla i wneud unrhyw beth, mynd i unrhyw le,
oherwydd mae’r bydysawd i gyd y tu mewn i mi’n barod. Edrych, dacw fe.
Casia Wiliam