Pelydrau o Heddwch
Cyfansoddwyd y gerdd hon ar y cyd â Menna Rhys a chriw o Ferched blwyddyn 8 Ysgolion Ceredigion i agoriad swyddogol y Babell Lên, Eisteddfod Ceredigion 2022, mewn partneriaeth â Chyngor Ceredigion.
Sŵn yr afonydd
yn gerddoriaeth i gyd,
sŵn y lliwiau’n llifo
o hyd ac o hyd,
alaw barhaus
yr awdur mwyn
a luniodd y ddawns,
a roddodd flodau
yn y llwyn.
Pelydrau o heddwch,
pelydrau sy’n torri drwy’r llwch,
dyma ddawns
ein goleuni.
A flaswch chi
iasau hallt
ein hawelon?
A fentrwch chi
dros ein tiroedd geirwon
heibio cymoedd y cread,
mynyddoedd y cewri
sy’n goflaid
o gariad?