Sali Mali, un, dau, tri,
ffrind i mi a ffrind i ti!
Heddiw yw ei phen-blwydd hi,
dewch ‘da ni i ddathlu!
Jac y Jwc a Jac Do,
Un yn dal, un ar y to!
Gyda nhw cawn hwyl bob tro,
dewch ‘da ni i ddathlu!
Jeli coch a hufen iâ,
dyna beth yw parti da!
Dawnsio, chwerthin, hahaha!
Dewch ‘da ni i ddathlu!
Sali Mali, ffrind i mi,
Sali Mali, ffrind i ti,
ym mhob ysgol, ym mhob tŷ,
dewch ‘da ni i ddathlu!
Casia Wiliam