Prosiect Murluniau Awr Ddaear: Llenyddiaeth Cymru x WWF Cymru
Ym mis Mawrth 2021, cafodd tair wal ar adeiladau mewn tair tref ar draws Cymru wedi eu gweddnewid fel rhan o brosiect barddoniaeth a chelf stryd, ar y cyd rhwng plant ysgolion lleol, WWF Cymru a Llenyddiaeth Cymru i nodi Awr Ddaear.
Gweithiodd Llenyddiaeth Cymru a’r elusen amgylcheddol, WWF Cymru, gyda disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Dewi Sant, Y Rhyl; Ysgol Gynradd Aberteifi ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci i ysgrifennu cerddi sydd wedi cael eu trawsnewid yn waith celf cyhoeddus gan yr artist stryd Bryce Davies o Peaceful Progress. Cafodd y gweithdai barddoniaeth eu hwyluso gan Fardd Plant Cymru 2019-21, Gruffudd Owen.
Mae’r dair cerdd yn unigryw, yn adlewyrchu’r ardaloedd lleol a dymuniadau’r plant ar gyfer dyfodol natur Cymru ac yn mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’r murluniau’n cynnwys darluniau trawiadol o fyd natur megis gwylanod, blodau gwyllt, gwenyn, dwrgi, crëyr adraig hyd yn oed.
Ym mis Hydref 2021, datblygwyd animeiddiadau unigryw o’r murluniau, sydd i’w gweld isod. Cafodd rhain eu harddangos gan WWF Cymru yng nghynhadledd COP26 a gafodd ei gynnal yn Glasgow.
Dywedodd Rhian Brewster o WWF Cymru:
“Mae Awr Ddaear yn foment pan mae miliynau o bobl o gwmpas y byd yn dod ynghyd dros natur a phobl, i alw am newid. Roeddem ni eisiau achub ar y cyfle hwn i roi llais i’r plant, cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, i ofyn iddyn nhw beth roedden nhw eisiau ei weld. Nid yn unig y bydd eu geiriau’n cael eu hanfarwoli fel murlun hardd yn eu tref leol, byddan nhw hefyd yn cael eu cyfleu i arweinwyr y byd wrth iddyn nhw benderfynu ar y camau nesaf at weithredu ar newid hinsawdd, yng Nghynhadledd COP26 yn Glasgow yn ddiweddarach eleni.
Hoffem ddiolch i ddisgyblion ac athrawon pob un o’r tair ysgol am fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn, yn ogystal â pherchnogion yr adeiladau am gynnig eu waliau ar gyfer y murluniau, a Chynghorau Sir Ceredigion, Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych am eu cefnogaeth barhaus wrth sicrhau ei lwyddiant.”
Rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi gyda murlun Aberteifi (Llun gan Julie John Photography)
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:
“Mae ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru yn ganolog i’n gwaith, a bu’n bleser mawr bod yn rhan o greu’r murluniau gwych yma trwy gynllun Bardd Plant Cymru. Mae prosiectau ysgrifennu creadigol a barddoniaeth fel hwn yn grymuso ein plant i fynegi eu hunain ac i gael hwyl gyda geiriau, a gall hynny gael effaith gadarnhaol iawn ar eu llesiant.”
Rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen gyda Murlun Treorci (Llun gan The Loft Studio)
Dywedodd Alec, disgybl yn Ysgol Gynradd Aberteifi:
“Wnes i wir fwynhau dysgu a chreu’r gerdd gyda Bardd Plant Cymru, Gruff yn ystod y sesiynau byw. Wnes i fwynhau trafod gwaith WWF Cymru ac rydw i’n edrych ymlaen at weld sut mae’r murlun yn edrych. Gobeithio fydd e’n dangos faint rydyn ni eisiau amddiffyn ein hinsawdd a natur yr ardal”.
Rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Dewi Sant gyda murlun Y Rhyl (Llun an Ginger Pixie Photography)
Dywedodd Mia, disgybl yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant:
“Fe wnes i garu’r profiad yma, rhywbeth mor wahanol. Rydw i’n edrych ymlaen at ei weld ac fe fydd yn fy atgoffa i o fy amser yn Ysgol Dewi Sant ac yn gwneud fi’n falch ohono. Mae gofalu am ein byd yn beth da i’w wneud ac mor bwysig, rydyn ni’n gobeithio bydd ein cerdd ni’n helpu pobl i ddeall hynny. Mae ein ardal ni mor brydferth!”
Mae’r murluniau i’w canfod yn y lleoliadau canlynol:
Aberteifi – ar Stryd Priory Street, nesa at Gaffi Sgwâr Finch
Y Rhyl – ar wal gefn siop B&M Bargains yn edrych dros Faes Parcio Canolfan y White Rose, West Parade
Treorci – ar wal ochr tafarn Y Lion, Stryd Bute