Dewislen
English
Cysylltwch

 

Rhy fach!

 

Rhy fach?

 

Rhy fach i fod yn fachwr!

 

Rhy fyr!

 

Rhy fyr?

 

Rhy fyr…

 

Fe yw fy arwr.

 

Rhy gloi

I’r boi

Sy’n troi, ac mae Shane trwodd!

 

Rhy sionc

Ei sbonc

I’r ionc sy’n fud lle pranciodd!

 

Dy fron,

Yn hon

Mae calon hirgron o hyd.

 

Cawr iach

Di-strach

A Chymro bach mwya’r byd.

 

 

Eurig Salisbury

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru