Dewislen
English
Cysylltwch

Mae stori yn gyfaill sydd wastad ar gael,

yn ddoniol, yn ddifyr, yn driw ac yn hael.

 

Mae stori yn gysur wrth swatio ar lin,

does dim cystal moddion pan ddaw salwch blin.

 

Mae’n amser am stori! Un, dau, tri! 

Mae’n amser arbennig i ti ac i mi.

 

Yn dawel, cyn cysgu, tra’n swatio yn glyd,

wrth wrando ar stori cei weld yr holl fyd.

 

Os bydd glaw yn disgyn a’r awyr yn ddu,

daw stori â heulwen i ffenest dy dŷ.

 

Mae’n amser am stori! Un, dau, tri! 

Mae’n amser arbennig i ti ac i mi.

 

Lle bynnag yr wyt ti, ar fws neu ar drên,

does dim cystal cwmni â stori fach glên.

 

Mae stori’n fwy gwerthfawr nac arian nac aur;

ar ôl clywed stori cei gadw bob gair.

 

Mae’n amser am stori! Un, dau, tri! 

Mae’n amser arbennig i ti ac i mi.

 

 

Casia Wiliam

 

 

Nôl i Cerddi Comisiwn Bardd Plant Cymru

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru