Dewislen
English
Cysylltwch

Ti yw’r un sy’n dweud ‘mae’n iawn’,
yn tynnu coes i basio’r p’nawn.

Ti yw’r un sy’n sychu’r gwaed,
yn gosod baglau wrth fy nhraed.

Ti yw’r llenni lliwgar braf
sy’n lliwio oriau hir yr haf.

Ti yw’r tiwb sy’n cario aer
i mi gael sgwrsio gyda’m chwaer.

Ti yw bîp y peiriant mawr
sydd wrth fy ngwely bach bob awr.

Ti yw’r un sy’n canu cân
pan fyddai wedi blino’n lân.

Ti yw’r un sy’n creu cast gwych
ac aros nes bod dagrau’n sych.

Ti yw’r doctor ddaw â gwên
a llygaid doeth a geiriau clên.

Ti yw’r nyrs sy’n ’nabod Mam,
yn ’nabod fi, yn gwybod pam.

Ti yw’r un sy’n gwagio’r pot,
yn gwagio’r bin, yn chwerthin lot.

Ti yw’r dwylo, meddal, mud,
sy’n dod â chysur, cynnes, clyd.

Ti yw’r curiad, cyson, iach
sy’n dawnsio lond fy nghalon fach.

Ti yw’r ffrind sydd fyth ymhell,
yn ffrind am oes pan fyddai’n well.

 

 

Casia Wiliam

 

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru