Dewislen
English
Cysylltwch

Tu draw i furiau’r ysgol 

ac i gloriau trwm y gwaith, 

mae yna ffordd wahanol 

o brofi hwyl y daith. 

Tu draw i furiau’r ysgol

ac i gloriau trwm y gwaith,

mae yna ffordd wahanol

o brofi hwyl y daith.

 

Tu draw

i’r tudalennau,

tu draw

i’r holl lythrennau,

mae criau llym brawddegau’n

datod

ar dafodau,

yn rhubanau o ysgafnder

rhwng y lliwiau

glas a phinc,

mi grëwn siapiau hyder

ym mlerwch du yr inc.

 

Mae fan hyn yn gynfas ifi

ar y papur gwyn a glân,

mi dasgaf fy syniadau

i greu curiad cŵl i nghân.

Cân sy’n dathlu,

cân i garu

mod innau’n drysor drud,

a chofleidio

nad yw pawb r’un fath,

ac mai fel hyn

dwi’n gweld y byd.

Casi Wyn, Bardd Plant Cymru a phlant prosiect Llais Dyslecsia 2023

 

Y Prosiect

Mae Llais Dyslecsia yn brosiect a sefydlwyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddyslecsia yng Nghymru drwy ddod â phlant gyda dyslecsia ynghyd i rannu a rhoi llwyfan i’w profiadau – i roi llais i ddyslecsia yng Nghymru.

Gydag arian cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru; Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor; Llenyddiaeth Cymru a chefnogaeth Ysgol Tryfan, Bangor, cynhaliodd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru 2021 – 2023 gyfres o weithdai yn Pontio dros hanner tymor Chwefror 2023. Fe’u cynlluniwyd yn ofalus i godi hyder y plant gan ddathlu eu cryfderau, eu lleisiau creadigol a’u llwyddiant.

Cynhyrchwyd ffilm ddogfen fer a welir isod gan Ffion Jon Williams o’r gweithdai, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda’r plant, rhieni a phartneriaid y prosiect. Mae’r fideo ‘Tu Draw’ uchod yn cynnwys Casi Wyn a Nanw Jones, un o’r plant fu’n cymryd rhan yn y prosiect, yn adrodd cerdd gan Casi yn ymateb i eiriau’r plant yn y gweithdai. Gwelir hefyd haen o animeiddio gan y dylunydd Dan Parry Evans wedi ei blethu gyda darluniadau Shari Llewelyn.

Mae’r wybodaeth yn aml yn gamarweiniol o gwmpas y cyflwr a phrin iawn yw’r sylw a’r cysondeb sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Yn aml mae pryderon o fethu ymysg plant ac oedolion, all achosi cyflyrau eraill. Nid oes digon o ddealltwriaeth am ddyslecsia ar gael, gyda’r wybodaeth a’r adnoddau yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn aml yn anodd ei gyrraedd ac yn gostus. At hynny, mae angen sicrhau hyfforddiant am ddim i holl athrawon Cymru a hynny’ n ddwyieithog yn lle fod yn rhaid i athrawon dalu eu hunain am hyfforddiant a hynny yn amser prin eu hunain.

Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn adnabod problemau ynghlwm â diagnosis hwyr i blant a diffyg adnoddau a hyfforddiant i addysgwyr, a hynny’n benodol yn y Gymraeg. Yn sgîl y prosiect mae’r Ganolfan yn gwahodd pobl sydd â dyslecsia; pobl sydd â phlant, partneriaid, ffrindiau neu rieni sydd â dyslecsia; a phobl sy’n gweithio gyda rhai sydd ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia i rannu eu profiadau. Gellir rhannu profiadau trwy ddilyn y ddolen hon. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cefnogi gwaith Canolfan Miles i wneud y llwybr tuag at ddiagnosis a chael mynediad at gefnogaeth yn haws.

 

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru