Cwestiynau Cyffredin
Y Children’s Laureate Wales presennol yw Alex Wharton
Nod gweithdy Children’s Laureate Wales yw ysgogi plant a phobl ifanc i fynegi eu hunain drwy farddoniaeth mewn modd rhyngweithiol a hwyliog. Mae croeso i ysgolion sy’n gwahodd y Children’s Laureate roi gwybod i ni o flaen llaw am unrhwy amcanion penodol ar gyfer y gweithdy, gan gynnwys themâu, drwy lenwi’r adran berthnasol yn y ffurflen gais.
Gwybodaeth Allweddol:
Gall gweithdai fod yn rithiol neu wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar gyfyngiadau COVID-19 a dymuniadau trefnwyr y gweithdy a’r Children’s Laureate Wales.
Gall ysgolion nodi ar y ffurflen ar-lein os ydych yn dymuno trefnu gweithdy rhithiol neu wyneb yn wyneb.
Nodwch, os gwelwch yn dda: Mae gweithdai rhithiol ar gael i Gyfnod Allweddol 2 a 3 yn unig.
Mae gan Connor Allen dystysgrif DBS cyfredol a gellir gweld prawf o’r DBS ar gais.
Nodwch: Ni ddylai awduron gwadd gael eu gadael ar eu pen eu hunain heb oedolyn arall o’r sefydliad pan fyddant yn gweithio gyda phlant neu oedolion bregus. Nid athrawon yw awduron, ac mae’n rhaid i un athro o leiaf aros gyda’r awdur bob amser yn yr ysgol.
Mae croeso i ysgolion a sefydliadau gysylltu gyda ni ar childrenslaureate@literaturewales.org os hoffech ddysgu mwy am ein polisïau diogelu.
Dylai ysgolion a sefydliadau sy’n dymuno trefnu ymweliad gan y Children’s Laureate Wales ddefnyddio’r ffurflen gais yma.
Mae’r Children’s Laureate Wales yn hapus i drefnu gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc tu hwnt i’r dosbarth, er enghraifft mewn llyfrgelloedd neu glybiau ieuenctid. Cysylltwch gyda Llenyddiaeth Cymru i drafod eich syniadau ar: childrenslaureate@literaturewales.org.
Unwaith fydd Llenyddiaeth Cymru wedi derbyn cais am ymweliad, gellir cymryd hyd at fis i dderbyn ymateb gan y bardd. Bydd y gweithdai yn digwydd yn llawrydd, ac yn cael eu trefnu’n uniongyrchol rhwng y bardd a’r ysgol. Dylid gwneud cais am ymweliad cyn gynted ag sy’n bosib. Os oes mwy na mis wedi bod ers hynny, ac nad ydych chi eto wedi clywed gennym ni, cysylltwch: childrenslaureate@literaturewales.org
Gall ffi ar gyfer gweithdy Children’s Laureate amrywio rhwng £100 a £200. Mae’r ffi yn ddibynnol ar hyd a chynnwys y sesiwn, ac os yw’r sesiwn yn digwydd yntau wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.
Gan mai yn llawrydd y trefnir ymweliadau ysgolion, y bardd fydd yn pennu’r ffi gyda’r ysgol wedi iddo dderbyn y gais ar-lein.
Mae gweithdai ysgolion yn gymwys ar gyfer Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 50% o’r ffioedd sy’n cael eu talu i’r bardd. Ymgeisiwch yma.
Mae galw mawr am ymweliad gan Children’s Laureate Wales, ac yn anffodus nid oes sicrwydd y bydd y bardd yn gallu cynnig dyddiad i bob ysgol. Bydd y bardd yn ystyried pob cais yn unigol, ac yn blaenoriaethu ymweliadau ar sail amcanion y cynllun a’r partneriaid.
Mae llawer o awduron a beirdd eraill yng Nghymru yn cynnig gweithdai mewn ysgolion, cysylltwch â ni am gyngor.
Er mwyn holi am y posibilrwydd o drefnu Cerdd Gomisiwn gan Children’s Laureate Wales, cysylltwch gyda ni ar childrenslaureate@literaturewales.org.
Rhai o flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru dros y tair blynedd nesaf fydd Cydraddoldeb a Chynrychiolaeth, yr Argyfwng Hinsawdd a Iechyd a Llesiant.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ar y cyd â Children’s Laureate Wales ar brosiect, yn enwedig os ydynt yn berthnasol i’r blaenoriaethau uchod, cysylltwch gyda ni ar childrenslaureate@literaturewales.org am sgwrs.