Dewislen
English
Cysylltwch

Yr Oes Sydd Ohoni | In These Times

Lansiodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ymgyrch #GwleddyGwanwyn eleni mewn digwyddiad yn y Senedd nos Fercher 16 Mawrth. Mae’r ymgyrch yn annog pobl i rannu llawenydd gwledd y gwanwyn ac i ddathlu’r ennyd allweddol hon yng nghalendr byd natur. I ddathlu’r lansiad yng Nghymru, comisiynwyd Children’s Laureate Wales, Connor Allen, i gyfansoddi cerdd newydd. Ceir cyfieithiad Cymraeg o’r gerdd isod gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Mae rhagor o fanylion am y comisiwn ar gael yma.

 

In These Times

In these times of great uncertainty

2050 will have more plastic than fish in the sea

Humanity focused on deforestation and cutting down trees

We have to dream big and think smart

 

In these times of life below water and life on land

Let’s protect the future, come take our hand

plant blossoming trees from Snowdonia to Gower sands

And let’s all make an impactful start

 

In these times where nature can be our friend

Exploring the hidden charm puts our souls on the mend

There are pockets of Welsh beauty I cannot comprehend

We need future generations to take part

 

In these times where connections to each other and outside is essential

And all across Wales, across generations there’s a sea of potential

Where if we come together the impact on the climate can be influential

There’s hopefulness that fill my heart

 

***

 

Yn yr Oes Sydd Ohoni

Yn yr oes sydd ohoni, sy’n llai sicr nac erioed,

a’r môr â mwy o blastig nac o bysgod hyd yn oed;

a dyn yn mynnu clirio’r tir a thorri lawr y coed,

breuddwydiwn heb gyfyngiad ond rhaid meddwl yn gall…

 

Yn yr oes sydd ohoni, cyn i’r môr ein llyncu’n llwyr,

gallwn daclo newid hinsawdd, ’dyw hi ddim yn rhy hwyr;

a phlannwn goed blodau o’r Wyddfa i Benrhyn Gŵyr,

gan rannu’r neges bwysig hon, o’r naill i’r llall…

 

Yn yr oes sydd ohoni, mae gan natur ryw hen rin

mewn llefydd hardd cuddiedig, sy’n falm i enaid blin;

a harddwch cyfrin Cymru fydd yn helpu ni rhoi min

ar ein gweledigaeth amgen wrth arwain y dall…

 

Yn yr oes sydd ohoni mae cydweithio yn hanfodol

ac ar draws Cymru gyfan, bydd pob oed yn ddylanwadol;

gyda’n gilydd, dros ein planed, gallwn warchod ein dyfodol

a daw gobaith i lenwi’n calonnau’n ddi-ball

 

Connor Allen,
Children’s Laureate Wales 2021-2023

 

Nôl i Cerddi Comisiwn Children’s Laureate Wales