1. Trefnwch eich digwyddiad
Dyma dasg sy’n hwyl! Pan fydd gennych syniad clir o’r math o ddigwyddiad rydych am ei gynnal, bydd angen i chi gysylltu gydag awdur addas. Os ydych angen ysbrydoliaeth, porwch drwy ein Rhestr Awduron Cymru.
Cyn cyflwyno cais, bydd angen i chi gadarnhau’r awdur mewn egwyddor, a chadarnhau amser a lleoliad eich digwyddiad, pwnc/thema’r digwyddiad, a thrafod ffi a chostau teithio yr awdur. A wnewch chi sicrhau bod y ffioedd a gynigir i bob awdur yn deg ac ystyriol, a bod eu costau teithio wedi eu hystyried yn ogystal. A wnewch chi gyfeirio at ein canllaw ar drefnu digwyddiadau cymunedol da am ragor o wybodaeth ar ffioedd a argymhellir.
Rydym yn dymuno noddi digwyddiadau ble mae’r rhaglen yn gynhwysol ac yn gynrychioladol – gan sicrhau cydbwysedd o ran rhywedd, awduron o ystod o oedrannau, awduron Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, awduron sy’n byw gydag anableddau neu sydd â chyflwr iechyd hirdymor, awduron o gefndir incwm isel ac awduron o’r gymuned LHDTC+
2. Cymhwystra
Sicrhewch fod eich digwyddiad a’ch sefydliad yn gymwys i wneud cais am gyllid o Gronfa Ysbrydoli Cymunedau, trwy ddarllen y Canllaw Cymhwystra. Os nad ydych yn sicr bod eich digwyddiad yn gymwys, cysylltwch â ni.
Mae Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yn gystadleuol iawn, ac ni fydd pob digwyddiad cymwys yn derbyn cynnig nawdd. Mae ein Cyngor i Drefnyddion Digwyddiadau yn nodi rhagor o fanylion ynglŷn â’r math o ddigwyddiadau sy’n flaenoriaeth i Llenyddiaeth Cymru, ac rydym yn eich annog i fanylu yn eich cais sut rydych yn cynnwys y blaenoriaethau hyn.
3. Gwneud cais am nawdd
Mae’n rhaid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio’r ffurflenni ymgeisio arlein. Mae dwy ffurflen gais:
- Ffurflen ar gyfer digwyddiadau i’r cyhoedd
- Ffurflen ar gyfer digwyddiadau wedi’u hanelu’n benodol at blant a phobl ifanc
Os rydych yn ymgeisio am nawdd ar gyfer gŵyl, sy’n cynnwys digwyddiadau ar gyfer oedolion a phlant/pobl ifanc, a wnewch chi ddefnyddio’r ffurflen ar gyfer y cyhoedd.
A wnewch chi sicrhau bod gennych yr holl fanylion perthnasol wrth law cyn dechrau eich cais, gan na fydd yn bosib i arbed eich cais a dychwelyd ato yn hwyrach.
Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni os ydych angen cymorth i gwblhau’r ffurflen, neu gael mynediad at y ffurflen gais arlein. Er enghraifft, gallwn drefnu bod copi hygyrch yn cael ei anfon atoch chi.
Amserlen dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau:
Digwyddiadau yn ystod mis Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Chwefror 2026 31 Rhagfyr 2025
Mawrth 2026 31 Ionawr 2026
Ebrill 2026 28 Chwefror 2026
4. Ymateb
Rydym yn asesu yr holl geisiadau mewn cyfarfod panel mewnol a byddwn yn ymateb a rhoi gwybod i chi os bydd eich cais yn llwyddiannus o fewn deuddeg diwrnod gwaith i’r dyddiad cau.
Os na fyddwch chi’n clywed gennym o fewn yr amser hwn, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru i sicrhau ein bod wedi cael eich cais.
Mae galw uchel am y gronfa hon, felly ni allwn drafod ceisiadau unigol sy’n cael eu gwrthod. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio darparu adborth ysgrifenedig clir, a byddwn yn eich cefnogi i ymgeisio eto, os yn gymwys
5. Cynnig nawdd
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn anfon llythyr cynnig manwl atoch yn cynnwys manylion sut i gydnabod ein nawdd, ynghyd â Ffurflen Adborth a Hawlio y mae’n rhaid ei gwblhau cyn gellir rhyddhau’r nawdd. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i dynnu’r cynnig yn ôl os nad yw’r nawdd yn cael ei hawlio ymhen mis o gynnal y digwyddiad(au). Cyfrifoldeb y trefnyddion yw sicrhau bod eu Ffurflen Adroddiad Digwyddiad yn ein cyrraedd o fewn yr amserlen hon.
6. Cydnabod nawdd Llenyddiaeth Cymru
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhaid cydnabod nawdd Llenyddiaeth Cymru ym mhob cyhoeddusrwydd cyn eich digwyddiad (deunydd hyrwyddo print a digidol), yn ogystal yn ystod y digwyddiad ei hun. Gweler y Telerau ac Amodau am fanylion sut i gydnabod nawdd Llenyddiaeth Cymru. Gellir islwytho logo Llenyddiaeth Cymru yma. Fe all methu â chydnabod nawdd effeithio ar geisiadau gan eich sefydliad yn y dyfodol.
7. Talu awduron
Mae talu awduron yn brydlon yn amod hanfodol o’n cynnig nawdd. A wnewch chi sicrhau bod yr awdur yn cael ei dalu’n llawn cyn gynted â phosib ar ôl y digwyddiad. Fe all methu â gwneud hyn effeithio ar lwyddiant ceisiadau gennych yn y dyfodol.
A wnewch chi sicrhau bod y ffioedd a gynigir i awduron yn deg ac ystyriol, a bod eu costau teithio wedi eu hystyried. Cyfeiriwch at ein canllaw Cyngor i Drefnyddion am fanylion ar drefnu digwyddiadau cymunedol am ragor o wybodaeth ynglŷn â ffioedd.
8. Hawlio nawdd
Rhaid i chi hawlio eich nawdd Ysbrydoli Cymunedau o fewn 1 mis o gynnal y digwyddiad, trwy gwblhau a dychwelyd y Ffurflen Adborth a Hawlio a anfonwyd atoch gyda’r llythyr cynnig. Telir nawdd yn uniongyrchol i gyfrif banc y grŵp/sefydliad ar ôl i ni dderbyn y ffurflen hon sy’n cynnwys eich adborth. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i dynnu’r cynnig yn ôl os nad yw’r nawdd yn cael ei hawlio ymhen mis o gynnal y digwyddiad(au). Cyfrifoldeb y trefnyddion yw sicrhau bod eu Ffurflen Adroddiad Adborth a Hawlio yn ein cyrraedd o fewn yr amserlen hon.