Dewislen
English
Cysylltwch
Gordon Anderson
Mwy
Llinos Anwyl
Mwy
Gosia Buzzanca
Mwy
Lal Davies
Mwy
Merlin Gable
Mwy
Joshua Jones
Mwy
Bethany Handley
Mwy
Theresa Mgadzah Jones
Mwy
Theo Malings
Mwy
Martha O'Brien
Mwy
Gwenno Robinson
Mwy
Silvia Rose
Mwy
Talulah Thomas
Mwy
Rebecca Wilson
Mwy
Gordon Anderson

Mae Gordon Anderson yn ysgrifennu cerddi, monologau a ffuglen fer, weithiau am gariad, weithiau am ddiwedd y byd. Mae ei EP digidol 'Hotel Familiar' yn 2022 yn cynnwys cerddi yng nghwmni'r cerddor Spencer Segelov, tra bod ei gyfres fideo adolygu llyfrau diweddar 'Gord Reads' yn gydweithrediad â sianel YouTube Just Another Poet. Mae'n berfformiwr meic agored rheolaidd ac yn byw yng Nghaerdydd, lle mae'n trefnu digwyddiadau llenyddol trwy ei waith mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.

Cau
Llinos Anwyl

Mae Llinos Anwyl (nhw/nhw) yn ymchwilydd creadigol a threfnydd llawr gwlad sydd wrthi'n undebu tenantiaid yn Aberystwyth a Machynlleth ar hyn o bryd. Mae eu gwaith ysgrifenedig yn cael ei yrru gan ymrwymiad i ddwyn hanesion radical i’r golwg a rhannu dadansoddiadau anarchaidd. Gyda nifer o weithiau gwleidyddol yn anhygyrch, mae Llinos yn gobeithio ysbrydoli eraill trwy rannu creadigaethau aml-gyfrwng am gymundodaeth heb ddefnyddio jargon. Maen nhw hefyd yn gwneud gwaith fel @henbapurnewydd ar Instagram.

Cau
Gosia Buzzanca

Mae Gosia Buzzanca yn awdur sy'n gweithio ar draws genres i greu darnau o waith cyfoethog ac unigryw y gellid ymgolli ynddynt. Mae’r themâu sy’n ymddangos yn ei gwaith yn cynnwys mamolaeth, plentyndod, dosbarth, atgofion a pherthyn. Mae'n enillydd Gwobr Awduron Dosbarth Gweithiol W&A 2022. Graddiodd gyda rhagoriaeth mewn MA Ysgrifennu Creadigol. Cyhoeddwyd Gosia yn y flodeugerdd 'Places Like Home' yn ogystal ag yn y flodeugerdd 'Where I'm Coming From'. Cafodd ei geni yng Ngwlad Pwyl a symudodd i'r DU yn 19 oed, gan ymgartrefu yn y pen draw yn ne Cymru lle mae bellach yn byw ac yn gweithio.

Cau
Lal Davies

Mae Lal Davies yn wneuthurwr ffilmiau, ffotograffydd a bardd arobryn ac sydd â threftadaeth De India a De Iwerddon. Mae tair cenhedlaeth o'i theulu o India wedi cael eu geni yng Ngogledd Cymru ers dod i'r DU yn 1919. Mae gwaith Lal yn cynnwys ffilmiau dogfen byr person cyntaf, a gwaith amlddisgyblaethol sy’n ddefnyddio ffilm, ffotograffiaeth a barddoniaeth fel disgyblaethau unigol ac yn y gofod lle maent yn cwrdd. Yn 2023 bydd Lal yn: dangos gwaith yn arddangosfa ‘Benywaidd’ Oriel C A R N; yn gweithio fel Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd (Amgueddfa Cymru) gan archwilio rhan Cymru yn yr Ymerodraeth Brydeinig, gwladychiaeth, gwrth-wladychiaeth, hil, cynrychiolaeth a hunaniaeth genedlaethol; Ymarferydd Creadigol ar Cynefin yn ddiwylliannol ac amrywiol yng Nghymru (Cyngor Celfyddydau Cymru); Gwneuthurwr Ffilmiau ar gyfer Stronger Together Tŷ Pawb Multicultural Hub; gwneuthurwr ffilmiau/ymchwilydd ar Pobl Fel Ni (NWREN/Anti-Racist Wales Action Plan) ac yn un o awduron dethol cwrs Ail-ysgrifennu Cymru gan Llenyddiaeth Cymru.

Cau
Merlin Gable

Mae Merlin Gable yn awdur, academydd annibynnol ac undebwr llafur o'r Mynyddoedd Duon. Mae'n olygydd sy'n cyfrannu ar The Welsh Agenda, lle mae wedi ysgrifennu ar hunaniaeth y ffin, diwylliant a chwedloniaeth Gymreig, a Raymond Williams.

Cau
Joshua Jones

Mae Joshua Jones yn awdur ac artist cwiar, awtistig o Lanelli, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi gan Poetry Wales, Gutter Magazine, Broken Sleep Books, Welsh Arts Review, ac eraill. Fe'i cymeradwywyd gan y Poetry Society, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies, a daeth yn drydydd yn y Reflex Fiction Fiction Prize yn 2021. Ef yw Cyfarwyddwr Dyddiau Du, llyfrgell gymunedol DIY a gofod celf/llên yng Nghaerdydd. Yn 2022, rhyddhaodd bamffled cydweithredol o farddoniaeth a chelf gyda Caitlin Flood-Molyneux, a bydd ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, ‘Local Fires’, yn cael ei gyhoeddi gan Parthian yn Hydref 2023.

Cau
Bethany Handley

Mae Bethany Handley (hi/ hi) yn awdur ac yn actifydd anabledd o Sir Fynwy. Mae ei barddoniaeth wedi'i gyhoeddi yn POETRY, Poetry Wales a'r Institute of Welsh Affairs a'r Poetry Foundation, ymhlith cyhoeddiadau eraill. Roedd Bethany yn un o'r awduron ar raglen Lleisiau nas Clywir Theatr y Sherman, ac yn ddiweddar datblygodd encil ysgrifennu ar gyfer awduron ifanc Byddar ac Anabl gyda’r nofelydd Megan Angharad Hunter diolch i gomisiwn gan Lenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Fel arfer mae gwaith Bethany yn archwilio ablaeth, hygyrchedd a'i pherthynas â natur fel menyw anabl. (Twitter- @Bethany1Handley)

Cau
Theresa Mgadzah Jones

Mae Theresa Mgadzah Jones yn fam a nain o Simbabwe sy'n byw yng Nghaerdydd. Hyfforddodd fel athrawes ysgol gynradd a bu'n dysgu yn Llundain. Ym mis Rhagfyr 2022, ymddeolodd ar ôl 16 mlynedd yn gweithio i Wasanaethau Cymorth i Ffoaduriaid y Groes Goch Brydeinig yng Nghymru. Mae'n ddarllenwr brwd gydag uchelgais i ysgrifennu llyfrau plant, ac mae'n gobeithio y bydd ymddeol yn rhoi cyfle ac amser iddi ganolbwyntio ar ysgrifennu, ynghyd â gofalu am ei hŵyr.

Cau
Theo Malings

Mae Theo Malings (hi/ei) yn awdur Eingl-Gymreig dyslecsig a gofalwr di-dâl sy'n byw mewn pentref pert yng ngogledd Cymru sydd wir yn haeddu ei bensiynwr datrys troseddau ei hun. Mae hi'n ysgrifennu ffuglen digrif yn bennaf, am fenywod deallus – wastad y person callaf yn yr ystafell – ond gellid ei chanfod weithiau yn datgan ei barn ar amrywiol bynciau yn ‘The Bookseller’. Yn haf 2020, cyrhaeddodd restr hir rhaglen #WriteNow Penguin Random House ar gyfer pobl sy'n cael eu tangynrychioli yn y byd cyhoeddi; mae hi'n agored am yr effaith mae dyslecsia yn ei gael ar ei bywyd ac yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r heriau a ddaw yn ei sgil. Mae ei phrosiect presennol wedi ei osod yn nhrefi arfordirol Sir y Fflint/Sir Ddinbych er nad yw'n siŵr y byddant yn diolch iddi am hynny!

Cau
Martha O'Brien

Mae Martha O'Brien yn awdures, ymchwilydd a golygydd o Gaerdydd. Mae'n gyd-sylfaenydd a chyd-olygydd cylchgrawn ‘nawr’, cyhoeddiad ar-lein sy'n arddangos gwaith newydd gan awduron, artistiaid a ffotograffwyr o Gymru a phobl sy'n byw yng Nghymru. Wedi'i reoli'n gwbl wirfoddol gyda thîm bach, mae ‘nawr’ wedi rhyddhau naw rhifyn ers ei sefydlu yn 2020, ac yn 2022 cynhaliwyd eu Gŵyl Haf gyntaf, oedd yn cynnwys arddangosfa a rhaglen o sgyrsiau am bythefnos. Ar hyn o bryd, mae Martha yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio ar gyfer ei PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg, ac yn arbenigo mewn darlleniadau Derridean o ysgrifennu Cymraeg yn Saesneg a ariennir gan SWW-DTP2. Yn 2022, cynhaliodd ddigwyddiad mewn sgwrs â'r ffotograffydd David Hurn yng Ngŵyl These3Streams a yn ymddangos ar raglen ‘Backstage’ ar ITV i siarad am ysgrifennu Cymraeg. Drwy gydol ei gwaith, mae'n angerddol dros hyrwyddo ac arddangos y celfyddydau a'r diwylliant mewn cymunedau sydd ar yr ymylon yn economaidd ac yn gymdeithasol.

Cau
Gwenno Robinson

Mae Gwenno yn 20 oed ac yn dod o ardal Abertawe. Mae hi'n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caergrawnt sy'n astudio ar gyfer gradd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Ers yn ifanc mae hi wedi mwynhau ysgrifennu yn greadigol yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau llenyddol yn ogystal â'r Eisteddfod. Ers symud i Loegr i astudio, mae'n wynebu cwestiynau am Gymreictod a hunaniaeth y tu hwnt i ffiniau Cymru, ac mae wedi canfod bod hyn yn thema sy’n amlygu ei hun drwy gydol ei hysgrifennu ffeithiol a newyddiadurol. Tra yn y brifysgol, mae wedi bod yn golygu cylchgrawn Cambridge Language Collective ac adran ryddiaith 'The Mays'. Mae hi'n cyfrannu erthyglau rheolaidd i bapur newydd y ‘Varsity’ yng Nghaergrawnt, gan drafod yn bennaf ei phrofiad o fod yn Gymraes yno. Mae hi hefyd yng nghanol cynhyrchu ffilm ddogfen ar gyfer y papur ar Cambridge Welsh, dan y teitl 'The Welsh from Home'.

Cau
Silvia Rose

Mae Silvia yn awdur a thiwtor a aned ac a fagwyd yn Eryri. Ar ôl graddio gyda BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol BA o Brifysgol East Anglia, teithiodd o amgylch Ewrop a De America gan ymgartrefu yn y pen draw yn Granada, Sbaen, lle bu'n byw am ddwy flynedd yn dysgu Saesneg. Bellach, mae wedi dychwelyd adref i'r mynyddoedd, ac yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol yn ei hardal leol ochr yn ochr â'i rolau llawrydd. Yn 2021, cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, ‘Spell into Being’, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar brosiectau ‘sgwennu ffeithiol. Mae ei gwaith wedi'i ysbrydoli i raddau helaeth gan deithio, chwedloniaeth, profiad amrwd a'i gwreiddiau Cymreig-Serbaidd.

Cau
Talulah Thomas

Mae Talulah yn hoffi gweithio gyda geiriau ar ffurf testun ac ar lafar, gan archwilio’r croestoriad rhwng iaith a dyfodoliaeth. Maent yn archwilio effaith eu tirwedd brodorol ar y ffordd y maent yn siarad ac yn ymwneud â’r Gymraeg. Mae Talulah yn myfyrio ar syniadau o alar a cholled - sut mae adrodd atgofion o iaith a gollwyd?

Cau
Rebecca Wilson

Mae Rebecca Wilson (Hi/Ei) yn Gymraes Iddewig o Ddinorwig sy’n actor, awdur, ac yn goreograffydd ymladd . Ers astudio yn ysgol actio Arts Ed ac East 15 mae hi wedi gweithio i Theatr Clwyd, Cwmni Theatr Arad Goch, Theatr Genedlaethol Cymru, MET Film School, , London Film School, BBC Radio Wales, Theatr y Sherman, Brixton House, National Theatre Productions a Frantic Assembly mewn rolau creadigol o bob math. Mae'n edrych ymlaen at weithio ar ei hysgrifennu ffeithiol a datblygu ei llais ymhellach.

Cau