Dewislen
English
Cysylltwch

Cwestiynau Cyffredin

Cymhwysedd a Chwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys i wneud cais am y cyfle hwn?

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru.

Rhaid i chi allu ymrwymo’n llawn i fynychu’r cwrs cyfan o 5.00 pm ddydd Llun 27 i 10.00 am ddydd Gwener 31 Mawrth 2023 i wneud cais.

Gan mai nod y cwrs yw datblygu a dyrchafu lleisiau a phrofiadau newydd ac unigryw o Gymreictod, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn awduron sydd â nodweddion heb gynrychiolaeth ddigonol, ac/neu awduron sy’n teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli o fewn llenyddiaeth Gymraeg gyfredol. Byddwn yn eich gwahodd i rannu’r gwybodaeth yma yn eich geiriau eich hun yn y ffurflen gais.

Mae enghreifftiau o nodweddion heb gynrychiolaeth ddigonol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • O gefndir incwm isel*

*Mae ein meini prawf ar gyfer incwm isel yn cynnwys unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu a oedd eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel, yn ddi-waith neu’n derbyn budd-daliadau (gan gynnwys lwfansau anabledd) pan oedd ymgeiswyr yn 14 oed.

  • Cymunedau sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Byddar a/neu trwm eu clyw
  • LHDTC+
  • Niwroamrywiol – gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, Dyspracsia, Syndrom Tourette ac OCD
  • Person o liw
  • Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
  • Awduron sydd ag anableddau a/neu faterion iechyd hir-dymor – h.y. wedi para neu mae disgwyl iddo bara o leiaf 12 mis ac mae’n cael effaith andwyol ar eich gallu i gynnal gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi eich tangynrychioli ond heb fod yn siŵr, mae croeso i chi gysylltu â ni, neu gallwch egluro yn eich geiriau eich hun ar y ffurflen gais.

Oes angen profiad arnaf i ymgeisio? Neu ydw i'n rhy brofiadol?

Rydym yn chwilio yn bennaf am egin awduron (awduron newydd) ac awduron â pheth profiad, felly awduron nad ydynt wedi cyhoeddi o gwbl, neu’r rhai sydd wedi cyhoeddi rhywfaint o waith mewn blodeugerdd neu gylchgrawn. Does dim angen profiad blaenorol o ysgrifennu arnoch chi o reidrwydd, dim ond syniadau da ac agwedd bositif a phenderfynol. Potensial sydd bwysicaf. Fel unrhyw grefft arall, mae ysgrifennu yn gallu bod yn heriol ac mae angen llawer o ymdrech ac ymroddiad. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu’r dulliau a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau, a pharhau ar eich taith fel awdur. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu cefnogaeth hir-dymor i’r awduron llwyddiannus i gyd.

Fodd bynnag, os ydych eisoes yn awdur profiadol, er enghraifft efallai eich bod wedi cyhoeddi llyfr neu bamffled, efallai y byddwch yn dal i ganfod bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf lenyddol neu iaith wahanol. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth mae profiad yn ei olygu, a lle mae nhw’n credu y maent wedi eu gyrraedd ar eu taith fel awdur. Os nad ydych yn siŵr os mai dyma’r cwrs cywir i chi ar yr adeg hon o’ch gyrfa ysgrifennu, cysylltwch â ni i drafod.

Beth yw Ffeithiol-Greadigol?

Darn ffeithiol o ysgrifennu, sydd wedi ei seilio ar ffeithiau ac/neu farn, ond dylai fod â naratif creadigol cryf i gario’r darn. Gall eich darn ffeithiol-greadigol fod yn hunangofiannol, neu gall fod yn ysgrif creadigol sy’n archwilio pwnc neu syniad. Noder nad ydym yn chwilio am draethodau neu ysgrifennu mewn arddull academaidd.

A oes cost ar gyfer y cwrs hwn?

Nag oes. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau yn Nhŷ Newydd yn rhai sy’n codi ffi, ond mae rhywfaint o’n gweithgarwch mwy strategol yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i unigolion trwy broses ymgeisio gystadleuol. Fodd bynnag, bydd angen i chi dalu eich costau teithio i’r ganolfan ac oddi yno. Os bydd hyn yn heriol, rhowch wybod i ni.

Allwch chi roi mwy o wybodaeth ymarferol i mi am y Ganolfan a fy ymweliad?

Gallwch ddysgu mwy am Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd, ar ein gwefan. Yma gallwch bori drwy luniau a blogiau a ysgrifennwyd gan fynychwyr y gorffennol. Lleolir Tŷ Newydd yng Ngwynedd, a saif Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd – llai na deng munud yn y car o Barc Cenedlaethol Eryri ac o Ben Llŷn sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol swyddogol.

Ar gyfer y cwrs hwn, gwahoddir yr awduron i gyrraedd rhwng 2.00 pm – 5.00 pm ar ddydd Llun 27 Mawrth 2023, a daw’r cwrs i ben ar ôl brecwast, tua 10.00 am, ddydd Gwener 30 Mawrth. Gweler ein gwefan am wybodaeth teithio. Gallwn eich casglu o orsafoedd trên (Cricieth neu Fangor), ond cofiwch drafod hyn â ni ymlaen llaw.

Bydd pob awdur yn cael ystafell wely yr un. Mae rhai ystafelloedd gwely yn en suites, ac eraill lle mae’n rhaid rhannu ystafelloedd ymolchi. Bydd ystafelloedd gwely yn cael eu dyrannu ar hap, heblaw am ystafelloedd gwely hygyrch.

Bydd pob pryd yn cael ei ddarparu i chi gan ein cogydd preswyl, gan gynnwys brecwast, cinio ar ffurf bwffe, pryd gyda’r nos gyda phwdin, a byrbrydau cartref. Gallwn ddarparu ar gyfer pob math o ofynion dietegol gwahanol ac alergeddau bwyd.

Gobeithio y cewch chi ddigon o amser rhydd i fwynhau teithiau cerdded yn yr ardal, ac i ymlacio yn y ganolfan. Ond gofynnwn yn garedig i chi fynychu’r holl weithgareddau a drefnir fel rhan o’r cwrs. Darperir amserlen fanwl maes o law.

Mae gen i anabledd neu salwch a allai ei gwneud hi'n anodd cymryd rhan, allwch chi helpu?

Wrth gwrs. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion cyn a thrwy gydol y cwrs. Ar gyfer unigolion mewn cadair olwyn neu â phroblemau symudedd, mae gennym ystafell wely hygyrch, a gallwn groesawu cynorthwyydd personol. Cysylltwch â ni i drafod hygyrchedd, a byddwn yn cyhoeddi Holiadur Hygyrchedd i bob awdur llwyddiannus cyn eich ymweliad.

Pryd fydda i'n clywed os yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad cyn 10 Chwefror 2023.

Os ydw i'n aflwyddiannus, fydda i'n derbyn adborth?

Gan ein bod yn disgwyl nifer uchel o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu rhoi adborth manwl i bob cais. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl, byddwn yn darparu adborth byr, ac yn cynghori ar gyfleoedd posib eraill y gallai Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid eu cynnig.

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch lles. Rydym yn rhoi ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw gofalus iddo.

Bydd tîm bychan o aelodau staff Llenyddiaeth Cymru â mynediad at y gwaith creadigol a gyflwynir gyda’ch cais. Yn unol â’n strategaeth dod o hyd i, a chyfeirio talent, efallai y byddwn yn cysylltu yn y dyfodol gyda chyfleoedd wedi eu teilwra, yn seiliedig ar eich gwaith a’ch arbenigedd. Er mwyn galluogi Llenyddiaeth Cymru i gydymffurfio â chyfraith diogelu data (GDPR), llenwch yr adran berthnasol ar ddiwedd y ffurflen gais i roi gwybod os ydych chi eisiau derbyn negeseuon gan Llenyddiaeth Cymru ynglŷn â chynigion yn y dyfodol.

Os oes gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru am sgwrs anffurfiol dros ebost neu ar y ffôn.

Nôl i Cwrs Egin Awduron 2023: (Ail)Sgwennu Cymru