Dewislen
English
Cysylltwch
Darren Chetty

Ganwyd Darren Chetty yn Abertawe, ac mae’n byw yn Llundain. Cyfrannodd at The Good Immigrant (Unbound, 2016), a The Mab (Unbound, 2022). Bu’n gyd-olygydd Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022) a Critical Philosophy of Race and Education (Routledge, 2019). Darren oedd cyd-awdur How to Disagree: Negotiate Difference in a Divided World (White Lion Publishing, 2019) a What is Masculinity? Why Does it Matter? And Other Big Questions (Wayland, 2021).

 

Iestyn Tyne

Magwyd Iestyn Tyne ym Moduan, Llŷn, ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda’i deulu. Mae’n gyd-sylfaenydd a chyd-olygydd Cyhoeddiadau’r Stamp, tŷ cyhoeddi annibynnol sy’n rhoi llwyfan i leisiau newydd yn y Gymraeg. Gyda Darren Chetty, Grug Muse a Hanan Issa, mae’n gyd-olygydd Welsh (Plural) y gyfrol o ysgrifau ar ddyfodol Cymru, a chyrhaeddodd ei gasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Stafelloedd Amhenodol, restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022. Ar y cyd â Leo Drayton, ef yw awdur Robyn (Y Lolfa, 2021), nofel i oedolion ifanc yng nghyfres Y Pump, enillydd categori yng ngwobrau Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn yn 2022.

 

Yn ogystal, byddwn yn croesawu darllenwyr gwadd i gynnig trafodaeth bellach ar y pwnc – Grug Muse, ac Hanan Issa – Bardd Cenedlaethol Cymru.

Grug Muse

Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. O ddydd i ddydd, mae hi’n gweithio fel hwylusydd cymunedol ar weithredu hinsawdd, ond yn ei gwaithsgwennu mae hi’n ysgrifennu am natur, yr amgylchedd, dŵr, a ffeminyddiaeth. Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth diweddarafmerch y llyngan Gyhoeddiadau’r Stamp yn 2021, ac mae eu hysgrifau wedi ymddangos mewn cylchgronau yn cynnwys Planet ac O’r Pedwar Gwynt. Mae hi hefyd yn olygydd gyda Chyhoeddiadau’r Stamp, a bydd casgliad o ysgrifau am ddyfodol Cymru o’r enw Welsh (plural) a gyd-olygwyd ganddi yn ymddangos yng ngwanwyn 2022 gyda gwasg Repeater.  

Hanan Issa

Hanan Issa yw Bardd Cenedlaethol Cymru 2022-25, ac maen fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig o Gaerdydd. Mae ei gweithiau diweddar yn cynnwys ei chasgliad barddoniaeth MyBody Can HouseTwoHearts(BurningEyeBooks, 2019) a’i chyfraniadau i Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales(Repeater Books, 2022) aThe Mab (Unbound, 2022), ailadroddiad o straeon y Mabinogi i blant. Mae ei gwaith wedi’i berfformio a’i gyhoeddi ar blatfformau fel BBC Wales, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza, Poetry Wales, Y Stamp, Wales Arts Review, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council.  Cyd-sefydlodd Hanan y noson meic agored Where I’m Coming Fromyng Nghaerdydd. 

Nôl i Cwrs Egin Awduron 2023: (Ail)Sgwennu Cymru