Dylai ysgolion ddilyn y camau canlynol i drefnu gweithdai a gwneud cais am nawdd trwy gynllun Cymru Ni / Our Wales:
- Dod o hyd i awdur i gyflawni’r gweithdy. Gellir dod o hyd i awduron o liw sy’n arwain gweithdai ysgol dyfeisgar ac ysbrydoledig ar ein gwefan, Rhestr Awduron Cymru, neu mae croeso i chi gysylltu ag awdur yr ydych wedi gweithio â hwy yn y gorffennol, neu y mae rhywun wedi eu hargymell i chi.
- Trefnu dyddiad ac amser gyda’r awdur, a chytuno ar eu ffi am y gweithdy. Gweler ein tudalen gwefan, Cyngor i Drefnwyr Digwyddiadau, am gyngor ar ffioedd awduron. Noder, rhaid i’r gweithdai ddigwydd cyn diwedd Mawrth 2023.
- Gwneud cais am 50% o ffi yr awdur trwy Ffurflen Gais ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau. Os gwelwch yn dda, ysgrifennwch Gweithdy Cymru Ni / Our Wales yn y blwch sy’n gofyn am Deitl y Digwyddiad ar y ffurflen gais ar-lein.
- Aros am gadarnhad gan Llenyddiaeth Cymru. Byddwn yn cysylltu â chi ar ôl derbyn eich cais i ddarparu gwybodaeth am y camau nesaf.
Nodwch bod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi pasio ar ddydd Gwener 13 Ionawr 2023.