Mae Emily Burnett yn 23 oed ac yn dod o Gaerdydd. Ar hyn o bryd mae hi’n canolbwyntio ar sgriptio, er bod ganddi lawer o uchelgeisiau ar gyfer ysgrifennu yn y dyfodol. Mae hi wedi bod yn gweithio fel actores broffesiynol yn y byd theatr, radio, teledu a ffilm dros y chwe blynedd ddiwethaf, yn ogystal ag fel artist cain rhan amser sy’n arbenigo mewn portreadau wedi’u comisiynu. Yn 2019 enillodd wobr BAFTA am y perfformiad gorau mewn rhaglen i blant ar ôl chwarae rhan Charlie Morris yn The Dumping Ground ar CBBC. Drwy actio, sylweddolodd ei bod hi wrth ei bodd yn adrodd straeon newydd, ac mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar amrywiaeth o sgriptiau ar siawns a sgriptiau peilot i’r teledu, gan obeithio y bydd ei hysgrifennu’n dod yn fyw mewn cynhyrchiad.
Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?
Hyder yw popeth i mi wrth ystyried ysgrifennu. Dim ots faint o syniadau sydd gennych chi, os nad oes gennych chi’r hyder i’w rhoi ar bapur ac adrodd y straeon, dim ond syniadau fydden nhw fyth.
Rwy’n credu y bydd y rhaglen hon yn rhoi’r hyder i mi barhau i symud ymlaen fel awdur, a gobeithio y caiff fy ngwaith ei ddarllen, ei weld a’i brofi gan eraill. Rwy’n gobeithio parhau i ddysgu, a meddwl agored o ran fy ngwaith. Yn ogystal â hyn, rwy’n credu bod adeiladu rhwydwaith o bobl rydych chi’n ymddiried ynddynt yn holl bwysig i’ch cynorthwyo i gyrraedd eich nodau ysgrifennu ac i roi adborth gonest. Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen yn rhoi’r cyfle i mi gwrdd â phobl newydd a chreu cymuned newydd o awduron a fydd yn medru cefnogi’n gilydd, tra’n cyrraedd ein potensial fel unigolion.
Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?
Cael y cyfle i edrych ar wahanol fathau o grefftau ysgrifennu. Mae’r holl gyrsiau a grwpiau ysgrifennu rwyf wedi cymryd rhan ynddynt hyd yma wedi’u teilwra’n llwyr tuag at ysgrifennu sgrin, felly rwy’n edrych ymlaen at ddarganfod technegau ac arddulliau eraill. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael rhywfaint o fentora un-i-un gyda rhywun yn fy maes, rwy’n credu y bydd amser a chyngor yn amhrisiadwy. Bydd cael nodau ac amcanion clir o fudd mawr i mi wrth symud ymlaen. Byddai cael darn o ysgrifennu sy’n teimlo’n gyflawn ac â bwriad pendant iddo erbyn diwedd y rhaglen yn anhygoel. Gan ganolbwyntio ar fy mhrosiectau teledu, byddai’n wych cael cwmnïau cynhyrchu ddarllen darn o ngwaith, a gobeithio ei ddatblygu ymhellach. Byddai cael darllen bwrdd yn amcan posib ar gyfer un o’m sgriptiau. Byddai clywed fy ngwaith yn cael ei ddarllen mewn gosodiad proffesiynol yn wych. Yn bennaf oll, rwy’n gobeithio magu hyder a datblygu mwy o berthnasau proffesiynol drwy gydol y rhaglen.
Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?
Y mewn pum mlynedd, hoffwn gael rhai credydau ysgrifennu proffesiynol. Byddwn wrth fy modd yn gweld darn o’m gwaith wedi ei ddatblygu i deledu, ffilm, neu radio. Erbyn hynny byddai’n hyfryd bod wedi ffurfio perthynas gref gydag asiant a chael rhywfaint o gynrychiolaeth broffesiynol ar gyfer fy ngwaith ysgrifennu. Rwy’n gweld ysgrifennu fel marathon nid ras, hoffwn feithrin fy nghrefft fel rhan o’m gyrfa a dros gyfnod hir. Rwyf hefyd yn actor ac yn artist, a’r gobaith yw bod y tri yn chwarae rhan gyfartal yn fy ngwaith.