Mae Jaffrin Khan yn 28 oed ac yn dod o Gaerdydd. Mae hi’n awyddus i ddilyn gyrfa fel artist sy’n perfformio barddoniaeth, ar ôl dechrau ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth fel ffordd o ddygymod â thrawmâu personol a thrafod pynciau sy’n cael eu hystyried yn dabŵ yng nghymunedau pobl o Dde Asia, fel perthnasau, delwedd y corff, ffeministiaeth, anghyfiawnder a chrefydd. Mae hi wedi perfformio ledled y Deyrnas Unedig ac wedi cyhoeddi ar sawl platfform, gan weithio hefyd ar y cyd â sefydliadau lleol i ddarparu gweithdai a chymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil a datblygu. Mae Canolfan Mileniwm Cymru a’r BBC wedi comisiynu fideos barddoniaeth ganddi ar gyfer Gŵyl y Llais, a’r rheini wedi’u cyhoeddi ym mis Mawrth 2021. Yn ddiweddar, cafodd Jaffrin ei dewis fel un o Gymdeithiol Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn gyfrifol am gynorthwyo i ail-adeiladu’r celfyddydau yng Nghymru, mewn ffordd newydd, gwydn a phwrpasol. Mae hi hefyd wedi curadur arddangosfa ar-lein fel rhan o breswyliad ar-lein Arcade Campfa.
Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?
Rwy’n gobeithio y bydd yn ehangu fy nealltwriaeth o’r diwydiant cyhoeddi yn ogystal â rhoi arweiniad a mewnwelediad ar sut i ddatblygu fy ngyrfa fel artist sy’n perfformio barddoniaeth. Rwyf hefyd yn credu y byddai’n gwella ansawdd fy ysgrifennu yn ogystal ag ysbrydoli gwaith newydd gyda chymorth mentor a dosbarthiadau meistr. Byddai cael gwaith wedi ei lwyfannu hefyd yn wych ar gyfer fy hyder, ac yn fy ngalluogi i fod yn fwy cyfforddus gyda fy ngwaith a’i ddatblygu ymhellach.
Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda mentor a nifer o adnoddau defnyddiol i gefnogi fy natblygiad proffesiynol. Byddai cael mewnwelediad i’r diwydiant yn hynod werthfawr gan y byddai’n datgyfrinio sut mae’r byd cyhoeddi yn gweithio.
Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?
Byddwn wrth fy modd os byddai pobl yn medru cysylltu ag uniaethu â’m gwaith ar lefel rhyngwladol. Rwy’n gweithio tuag at fod yn awdur cyhoeddedig gydag enw da ac asiant llenyddol i’m cefnogi. Yn ogystal, hoffwn berfformio fy ngwaith yn fyd-eang, parhau i ddarparu gweithdai i gefnogi pobl ifanc gyda’u gwaith, a hefyd cyfuno fy ngwaith ysgrifennu gyda’m gwaith celf gweledol.