Y Rhaglen
Rhaglen 12 mis yw hon, sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn rhoi cyfleoedd datblygu i’r rheini sy’n awyddus i ysgrifennu’n broffesiynol yn y sector llenyddiaeth, drama ac ysgrifennu i’r sgrîn. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio drwy ymgynghori â chymunedau, awduron ac ymgynghorwyr sy’n rhan o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru, gan fynd i’r afael â’r rhwystrau presennol yn y sector. Bydd y rhaglen yn cefnogi 12 o awduron i ddatblygu eu gwaith drwy gymorth ariannol a mentora, yn ogystal â thrwy ddod â’r proffesiwn ysgrifennu yn nes at bobl drwy gyfleoedd i rwydweithio a dosbarthiadau meistr yng ngofal comisiynwyr ac awduron profiadol.
Bydd rhagor o wybodaeth am gynnwys y rhaglen, ac uchafbwyntiau, yn cael ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn.