Dewislen
English
Cysylltwch

Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych gwestiynau am raglen Cynrychioli Cymru, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Os na allwch weld yr ateb i’ch cwestiwn, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd).

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dau sesiwn digidol anffurfiol, rhwng 6.00 pm – 7.00 pm Ddydd Iau 29 Awst a Dydd Mawrth 10 Medi 2024. Cliciwch ar y dyddiadau er mwyn archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite.

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w hislwytho ac mae ar gael mewn fformat print bras a fformat dyslecsia-gyfeillgar.

 

Y Broses Ymgeisio

Sut mae gwneud cais?

I wneud cais am le ar raglen Cynrychioli Cymru, bydd angen i chi gyflwyno:

  1. Ffurflen gais wedi’i chwblhau 

Bydd y ffurflen gais yn gofyn am eich manylion personol, gan gynnwys manylion a fydd yn ein helpu i asesu cymhwystra a gwybodaeth am eich gyrfa fel awdur hyd yn hyn. Byddwn hefyd yn holi am eich uchelgeisiau fel awdur a pham y credwch y gall rhaglen Cynrychioli Cymru eich helpu ar y pwynt yma yn eich gyrfa. Os hoffech weld y ffurflen gais cyn i chi ddechrau ei llenwi ar SurveyMonkey, cliciwch yma i lawrlwytho copi.

  1. Sampl o waith creadigol sydd heb ei gyhoeddi.

Bydd y ffurflen gais yn gofyn ichi uwchlwytho un o’r opsiynau canlynol:

4-6 cerdd; NEU

Sampl o lawysgrif ffeithiol greadigol yr hoffech ei datblygu yn ystod y rhaglen hon (uchafswm o 1,000 o eiriau) NEU

Sampl o lawysgrif ffuglen yr hoffech ei datblygu yn ystod y rhaglen hon (uchafswm o 1,000 o eiriau) NEU

– Os yw eich gwaith ar y gweill yn nofel graffeg, gofynnwn i chi uwchlwytho crynodeb o’r stori gyda’ch cais ac e-bostio sampl o hyd at 10 dudalen bwrdd stori wedi’u cwblhau (gyda thestun a darluniau) i post@llenyddiaethcymru.org.

-Os yw eich gwaith ar y gweill yn un a berfformir, gofynnwn i chi nodi hyn o fewn y ddogfen yr ydych yn uwchlwytho. Fel arall, rydym hefyd yn croesawu perfformiadau fideo hyd at 2 funud, ac fe ellir eu hanfon trwy ddolen WeTransfer i post@llenyddiaethcymru.org

Pa gategorïau o ysgrifennu creadigol ydych chi'n eu derbyn y flwyddyn hon?

Ar gyfer rhaglen 2025-2026, rydym yn croesawu gwaith creadigol ar gyfer oedolion.

Mae hyn yn cynnwys y genres canlynol:

  • Barddoniaeth
  • Ffuglen (nofelau, straeon byrion, nofela)
  • Ffeithiol greadigol. (yn cynnwys cofiannau, bywgraffiadau, hanes cymdeithasol, ysgrifennu teithio)
  • Nofelau graffeg
  • Perfformiadau llafar a/neu rap

Nodwch fod y canlynol yn anghymwys, ac nid ydynt yn cael eu cefnogi gan raglen Cynrychioli Cymru eleni: Sgriptiau ar gyfer Teledu, Ffilm a Theatr; Adrodd Straeon Llafar; Ysgrifennu academaidd; Ysgrifennu ar gyfer plant a/neu oedolion ifanc; Cyfieithiadau

Os ydych yn ansicr a yw eich gwaith creadigol yn gymwys ai peidio, cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org  i sgwrsio gydag aelod o staff.

Pam nad ydych yn derbyn gwaith creadigol ar gyfer Plant ac Oedolion Ifanc eleni?

Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu bod ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yn hynod o bwysig. Gyda charfan o ddim ond 14 o awduron yn cymryd rhan bob blwyddyn, rydym am sicrhau bod ein harlwy hyfforddi wedi’i dargedu mor dda â phosibl. Er mwyn osgoi lledaenu arbenigedd yn rhy denau, byddwn (fel y gwnaethom gyda rhaglen 2023-24) yn ymroi blwyddyn gyfan i ddatblygu llenyddiaeth plant a phobl ifanc yn y dyfodol agos.

Yn y cyfamser, mae rhaglenni rhagorol eraill yng Nghymru wedi’u sefydlu ar gyfer awduron newydd ym meysydd ysgrifennu plant a phobl ifanc, megis rhaglenni Ignite Firefly ac AwDUra Mudiad Meithrin.

Rwy'n nofelydd graffeg neu'n artist gair llafar - sut mae anfon sampl o fy ngwaith atoch? 

Os mai nofel graffeg yw eich gwaith ar y gweill, gofynnwn i chi anfon crynodeb un dudalen a sampl o hyd at 10 tudalen bwrdd stori wedi’u cwblhau (gyda thestun a darluniau) dros e-bost at post@llenyddiaethcymru.org.

Os ydych yn artist gair llafar a byddai’n well gennych anfon perfformiad fideo o’ch gwaith creadigol gwreiddiol, gofynnwn i chi anfon dolen WeTransfer at post@llenyddiaethcymru.org Ni ddylai ceisiadau fideo fod yn hirach na dau funud.

Sylwch os gwelwch yn dda, bydd angen i chi hefyd gwblhau a chyflwyno ffurflen gais ochr yn ochr â’r cyflwyniadau e-bost hyn o’ch gwaith creadigol. 

Pryd mae'r dyddiad cau? 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer rhaglen Cynrychioli Cymru 2025-26 yw: 12.00 pm hanner dydd, Dydd Iau 10 Hydref 2024. 

Cymhwystra

Pwy sy’n gymwys i wneud cais? 

Rydym wedi ymrwymo i helpu i greu diwylliant llenyddol sydd wir yn cynrychioli amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru.

Eleni, byddwn yn croesawu ceisiadau gan awduron sy’n dod o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli. Rydym yn awyddus iawn i gefnogi awduron sy’n uniaethu fel un neu sawl un o’r canlynol:

  • Byddar a/neu drwm eu clyw
  • O   gefndir incwm isel*  

*Mae ein meini prawf ar gyfer cefndir incwm isel yn cynnwys unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau (gan gynnwys lwfansau anabledd) pan oedd yr ymgeiswyr yn 14 oed.

  • Perthyn i gymunedau Sipsiwn, Roma a/neu Deithwyr  
  • LHDTC+  
  •  Niwroamrywiol*  

*Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, Dyspracsia, Syndrom Tourette ac OCD 

  • Pobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig 
  • Unigolion sy’n byw gydag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor*  

*h.y. wedi parhau neu y disgwylir i barhau am o leiaf 12 mis ac yn cael effaith andwyol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Rydym yn gwerthfawrogi fod unigolion a chymunedau eraill heb gynrychiolaeth deg yn y sector lenyddol, a bydd hefyd awduron nad ydynt yn uniaethu â’r categorïau uchod, felly bydd cyfle i ymgeiswyr egluro yn eu geiriau eu hunain pam eu bod yn credu eu bod yn gymwys i wneud cais.

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed a rhaid iddynt fod yn byw yng Nghymru ar adeg gwneud y cais a thrwy gydol y rhaglen 12 mis, heblaw am awduron sydd yn ymgeisio i ddatblygu eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwy sydd ddim yn gymwys i wneud cais?

Mae’n ddrwg gennym nad yw’r rhaglen ar agor i fyfyrwyr llawn-amser na gweithwyr Llenyddiaeth Cymru a’i noddwyr na’r rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru yn y gorffennol.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ai peidio, cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org i sgwrsio gydag aelod o staff.

Rwy'n Ffoadur a/neu'n Geisiwr Lloches, a allaf wneud cais?

Cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org i drafod eich sefyllfa gydag aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru. 

Pa lefel o brofiad dylwn i gael i wneud cais? 

Mae’r cyfle hwn yn bennaf ar gyfer egin awduron, gyrfa gynnar neu gyrfa ganolig.

Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth yw egin awdur, gyrfa gynnar neu ganolig, a lle maent yn credu eu bod ar eu taith fel awdur. Fel canllaw:

  • Ni ddylai ymgeiswyr fod â chynrychiolaeth gan asiant llenyddol ar hyn o bryd
  • Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi cyhoeddi casgliad hyd llawn o farddoniaeth neu lawysgrif yn y genre/iaith y maent yn ymgeisio ynddi. Serch hynny, rydym yn croesawu awduron mwy profiadol sy’n mentro i genre newydd neu iaith newydd.

Bydd y Panel Asesu yn edrych ar botensial, uchelgais a gwreiddioldeb ymgeiswyr. Os ydych yn ansicr ai dyma’r rhaglen iawn i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa ysgrifennu, cysylltwch â ni i drafod gydag aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru.

Rwyf wedi hunan-gyhoeddi o'r blaen, a allaf wneud cais?  

Gallwch, cyhyd â bod y gwaith a gyflwynir gyda’ch cais heb ei gyhoeddi ar hyn o bryd.

Ym mha iaith y caiff y rhaglen hon ei chynnal?

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i awduron sydd â diddordeb mewn dechrau ysgrifennu yn y Gymraeg am y tro cyntaf, yn ogystal ag awduron sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn dibynnu ar ddewis iaith y garfan. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael lle bo angen.

Os byddwch yn ysgrifennu’n greadigol mewn unrhyw iaith arall, byddwn yn ceisio’ch cynorthwyo drwy eich paru â Mentor addas sydd hefyd yn rhugl yn yr iaith honno.

Sylwch mai dim ond enghreifftiau o ysgrifennu creadigol yn Gymraeg neu Saesneg y gallwn eu hasesu. Os byddwch yn cyflwyno gwaith creadigol gwreiddiol mewn iaith arall, bydd angen i chi hefyd gyflwyno cyfieithiad o’r gwaith i’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi partneru â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i annog ein hawduron i ddechrau, neu barhau, ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Os yw hyn o ddiddordeb i aelodau’r garfan, darperir mwy o wybodaeth ar ddechrau’r rhaglen.

Rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth gan Llenyddiaeth Cymru neu wedi cymryd rhan mewn cynlluniau Mentora yn y gorffennol, a allaf wneud cais?

Gallwch – rydym am i’r rhaglen fod yn agored i gynifer o awduron cymwys â phosibl. 

Y Rhaglen

Beth yw Cynrychioli Cymru?

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sydd â’r nod o helpu awduron i gyflawni eu huchelgeisiau hirdymor. Bob blwyddyn, rydyn ni’n creu rhaglen ddatblygu bwrpasol i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn niwylliant llenyddol Cymru.

Mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn cynnwys:

  • Nawdd ariannol o £3,000
  • Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau  
  • Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr, gydag un ohonynt yn benwythnosau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
  • Mentor personol  
  • Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
  • Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein ac mewn person
  • Cefnogaeth benodol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
  • Rhaglen ôl-ofal bwrpasol 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i gyd-greu elfennau o’r rhaglen gyda thîm Llenyddiaeth Cymru, drwy awgrymu siaradwyr, tiwtoriaid a themâu yn ystod eu cyfarfodydd croeso.

A allaf wneud cais os oes gennyf gyflogaeth a/neu gyfrifoldebau gofalu?

Yn bendant. Bydd pob awdur llwyddiannus yn cael cyfarfod cychwynnol i drafod eu hanghenion unigol. Gwahoddir awduron hefyd i rannu eu gofynion mynediad gyda ni neu gallwn eich cefnogi i greu un. Mae staff Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gydag awduron i sicrhau y gallwch chi gymryd rhan lawn yn y rhaglen.

Faint o fy amser sydd angen i mi ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglen?

Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau’n cael eu cynnal yn rhithiol gyda’r nos neu ar benwythnosau. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r garfan i benodi amseroedd a dyddiadau cyfleus i bawb. Rydym yn amcangyfrif y byddwn yn trefnu gweithgareddau ac yn gosod tasgau a fydd angen rhwng 10-12 diwrnod cyfan o’ch amser yn ystod y flwyddyn, ond bydd llawer o’r digwyddiadau hyn wedi’u hamserlennu i osgoi ymyrryd ag oriau swyddfa. Chi sydd i benderfynu faint o oriau ychwanegol y byddwch wedyn yn gallu eu neilltuo ar gyfer datblygu eich prosiectau ysgrifennu creadigol eich hun yn ystod y flwyddyn.

Disgwyliwn i bob aelod o’r garfan fynychu pob digwyddiad. Anfonir amserlen at y garfan gyda dyddiadau ar gyfer digwyddiadau i’w helpu i gynllunio. Os bydd rhywbeth brys yn atal awdur rhag mynychu, bydd Llenyddiaeth Cymru yn anelu at recordio’r sesiwn er mwyn sicrhau y gallwch wylio’r rhain yn nes ymlaen. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru bob amser wrth law i gefnogi’r awduron a helpu i sicrhau bod pob aelod o’r garfan yn elwa o’r rhaglen.

Pryd fydd y rhaglen yn cael ei chynnal? Oes gennych chi fwy o fanylion a dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau?

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfarfod croeso ym Mawrth 2025. Bydd y rhaglen yn cychwyn ddechrau Ebrill 2025 a gorffen ym Mawrth 2026. Cynhelir o leiaf un digwyddiad y mis.

Bydd yr awduron yn trefnu 4 sesiwn un-i-un gyda’u Mentor personol i gwrdd wyneb yn wyneb (os yw’r mentor yn byw gerllaw) neu’n rhithiol, ar amser/dyddiad sydd yn gyfleus iddynt.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r rhaglen ddod i ben?

Ar ôl y rhaglen 12 mis, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r garfan drwy gadw mewn cysylltiad, cynnig cyngor, a gwahodd yr awduron i gyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi pellach. Mae’r rhaglen yn fuddsoddiad hirdymor yn natblygiad yr awduron.

A fydd gofyn i mi deithio ar gyfer digwyddiadau? 

Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau craidd y rhaglen (e.e., ystafelloedd ysgrifennu) yn cael eu cynnal ar-lein er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mynychu, waeth beth fo’u lleoliad. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys o leiaf un penwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd – ein canolfan ysgrifennu genedlaethol yn Llanystumdwy, Gwynedd.

Bydd gennych fynediad at gyllideb ychwanegol i’w gwario ar eich taith i Dŷ Newydd, ac ar docynnau ar gyfer cyrsiau ychwanegol, digwyddiadau a gwyliau llenyddol o’ch dewis.

Mae gennyf anabledd neu gyflwr iechyd a allai ei gwneud yn anodd i mi gymryd rhan, allwch chi helpu? 

Wrth gwrs. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion cyn a thrwy gydol y rhaglen. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae Cronfa Fynediad ar gael i alluogi cyfranogiad llawn mewn digwyddiadau i awduron ag anableddau neu salwch a allai fod â gofynion mynediad ychwanegol.

I gael gwybodaeth am hygyrchedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ewch i wefan Tŷ Newydd.

A fydd gofyn i mi gyflwyno darn o waith gorffenedig ar ddiwedd y 12 mis?  

Byddwn yn gweithio gyda chi i osod nodau ar ddechrau’r rhaglen, ac yn eich helpu i’w cyflawni. Dylai un o’ch nodau fod yn gysylltiedig â datblygu eich gwaith creadigol ar y gweill yn ystod y rhaglen. Bydd yr ystafelloedd ysgrifennu yn rhoi’r cyfle i chi rannu eich gwaith gyda’r garfan ac efallai yr hoffech ddefnyddio’r cyfarfodydd anffurfiol hyn fel nod personol i gynhyrchu gwaith bob mis. Bydd cyfleoedd yn ystod y flwyddyn hefyd i drafod eich cynnydd a dal i fyny gydag aelod o staff Llenyddiaeth Cymru yn ogystal â sesiwn wirio hanner ffordd drwy’r rhaglen.

Y Broses Asesu

Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu? 

Bydd eich cais yn cael ei asesu gan banel annibynnol o arbenigwyr a fydd yn asesu:

Potensial creadigol ac ansawdd yr ysgrifennu a gyflwynwyd, yn ogystal â’r gwreiddioldeb a ffresni’r syniadau a llais a amlygir yn eich gwaith.

Addasrwydd y rhaglen hon i chi ar y pwynt hwn yn eich gyrfa fel awdur.

Sgrinio Proffil

 

Bydd pob cais yn cael ei wirio gan dîm Llenyddiaeth Cymru i sicrhau bod yr awdur yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

 

Sylwch fod y wybodaeth a ddarperir yn eich cais yn gyfrinachol ac y caiff ei defnyddio er mwyn asesu mewnol yn unig.

 

Bydd Cadeirydd y Panel yn didoli’r ceisiadau cymwys ac yn dewis rhestr fer i’r Panel Asesu gyfan ei hystyried.

 

Bydd y Panel Asesu yn darllen pob cais ar y rhestr fer ar wahân ac yn dyfarnu marc i bob ymgeisydd, yn defnyddio meini prawf gan edrych ar botensial ac ansawdd y darn ysgrifennu creadigol a gyflwynwyd gennych, yn ogystal ag addasrwydd y rhaglen hon ar eich cyfer. Bydd y penderfyniad terfynol yn digwydd yn ystod cyfarfod Panel lle bydd yr 14 awdur llwyddiannus yn cael eu dewis.

Mae ein statws fel sefydliad dwyieithog, cenedlaethol yn ein hymrwymo i sicrhau bod ystod o awduron yn gallu elwa o’n cyfleoedd. Gall y Panel Asesu hefyd ystyried cydbwysedd ieithyddol a daearyddol, a chynrychiolaeth wrth ddewis ymgeiswyr.

Pwy yw'r Panel Asesu? 

Mae’r Panel Asesu yn cynnwys pedwar unigolyn sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o genres creadigol, a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.

Caiff manylion am Banel Asesu 2025 eu cyhoeddi mewn ychydig wythnosau.

Faint o lefydd fydd ar gael ar raglen Cynrychioli Cymru 2024-25? 

Mae 14 o lefydd ar gael ar raglen Cynrychioli Cymru 2024-25.

Os byddaf yn aflwyddiannus, a fyddaf yn cael adborth?

Gan ein bod yn disgwyl nifer uchel o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu darparu adborth manwl ar gyfer pob ymgeisydd. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i ddarparu adborth byr, personol i bob ymgeisydd a lle bo’n berthnasol, rhoi cyngor ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid.

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch lles. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.

Bydd pob ymgeisydd yn cael eu gwahodd i sesiwn ar-lein rhad ac am ddim sy’n rhan o raglen Cynrychioli Cymru ym mis Ebrill 2025, ac mae croeso iddynt ymuno ag unrhyw un o’n sesiynau ar-lein rhad ac am ddim, sy’n rhan o waith ehangach Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu awduron.

Pryd byddaf yn clywed a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus? 

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i hwyluso proses asesu drylwyr, ofalgar a manwl. I sicrhau bod gan y panel asesu ddigon o amser i adolygu pob cais ac asesu’r gweithiau creadigol, ac i staff Llenyddiaeth Cymru ddarparu adborth a chyngor defnyddiol, disgwyliwn y bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am benderfyniad y Panel Asesu erbyn diwedd mis Chwefror 2025.

Ymholiadau Cyffredinol

Nid wyf yn gymwys ar gyfer y cyfle hwn, ond mae gennyf ddiddordeb mewn datblygu fy ngyrfa fel awdur. Sut gallwch chi helpu?

Mae ein gwefan yn rhoi gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i ni i helpu awduron i ddatblygu eu crefft a’u gyrfaoedd. Fel arall, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion unigol. Lle bo modd, byddwn yn cyfeirio awduron at gyfleoedd eraill yn y sector llenyddiaeth.

Nôl i Cynrychioli Cymru 2025-2026