Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Llenyddiaeth Cymru am i ddiwylliant llenyddol Cymru gynrychioli amrywiaeth y boblogaeth. Nid yw’r cyfleoedd sydd ar gael yn y byd llenyddol yn gyfartal, ac mae nifer o awduron yn wynebu rhwystrau sylweddol yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi.

Bob blwyddyn, mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn cefnogi carfan newydd o awduron sy’n dod o gefndir sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector ar hyn o bryd. O hyn allan, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ysgrifennu i awduron ac i blant a phobl ifanc am yn ail, gan roi sylw penodol i’r ddau.

O ganlyniad i’r broblem barhaus o ddiffyg cynrychiolaeth ymysg llyfrau i blant, bydd Llenyddiaeth Cymru yn buddsoddi ei adnoddau bob-yn-ail flwyddyn i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd yma.

Mae helpu creu diwylliant llenyddol amrywiol i blant a phobl ifanc yn waith hollbwysig. Mae’r llyfrau y mae plant yn eu darllen yn dylanwadu sut y maent yn gweld eu hunain a’r byd o’u cwmpas, a dylai’r arlwy ar eu cyfer gynnwys llyfrau a chymeriadau y gallent uniaethu â hwy.

Mae ymchwil o fewn adroddiadau CLPE Reflecting Realities a Book Trust Represents yn dangos bod diffyg cynrychiolaeth ethnig ar y dudalen ac ymysg yr rheiny sy’n creu llyfrau i blant. Er bod yr ymchwil yn gyfyng, rydym yn ymwybodol fod lleisiau eraill hefyd ar goll ym maes llyfrau plant.

Darllen pellach: Pam canolbwyntio ar lenyddiaeth i blant a phobl ifanc?

 

Nôl i Cynrychioli Cymru