Dewislen
English
Cysylltwch
Marvin Thompson

Ganwyd Marvin Thompson yn Llundain i rieni o Jamaica.  Mae ganddo MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Middlesex, ac ar hyn o bryd mae’n dysgu Saesneg i blant ysgol uwchradd yng nghymoedd y De.

Roedd yn un o dri bardd a ddewiswyd gan The Poetry School a Nine Arches Press ar gyfer ‘Primers Volume 2: Mentoring Scheme’.  Mae adolygwyr wedi disgrifio gwaith Marvin fel cynnyrch ‘dramatig’, ‘egnïol’ a ‘meistrolgar’.  Mae hefyd wedi cyhoeddi yn The Poetry Review, Poetry Wales a Red (Peepal Tree Press).

Yn 2017, cafodd Marvin Thompson y drydedd wobr yng nghystadleuaeth barddoniaeth ryngwladol Ambit Magazine.  Yn 2019, cafodd ‘The Many Reincarnations of Gerald, Oswald Archibald Thompson’, sef cerdd ryfel mewn arddull realaeth fodern, ei chyflwyno gan y Long Poem Magazine am Wobr Forward am y Gerdd Orau.

Bydd Road Trip, casgliad cyntaf Marvin o gerddi, yn cael ei gyhoeddi gan Peepal Tree Press ym mis Mawrth 2020.

 

Project Name: Perfformio Barddoniaeth

Project Location: Llundain

 

Cefndir y Prosiect:

Bydd Marvin Thompson yn defnyddio cyllid Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli i gysgodi Debris Stevenson, y bardd-berfformwraig a’r actores nodedig. Bydd hyn yn cynnwys ei chyfarfod a’i chysgodi cyn ac ar ôl ei pherfformiad, Poet in Da Corner yn y Royal Court Theatre. Drwy’r gweithgarwch hwn, nod Marvin yw meithrin dealltwriaeth am dechnegau perfformio barddoniaeth a phresenoldeb ar lwyfan.

Cefndir Deborah ‘Debris’ Stevenson

Awdur dyslecsig yw Deborah ‘Debris’ Stevenson, sydd hefyd yn fardd Grime, yn academydd dosbarth gweithiol, yn gyn-Formon panrywiol, ac yn ymgyrchydd cymdeithasol sy’n hoff o ddawnsio Bashment. Mae’n hanu o Ddwyrain Llundain ac Essex. Nid oes gan Debris ddewis ond ysgrifennu am y bethau sy’n croestorri, am yr annisgwyl a’r anghyfiawn – nid dyna’n unig pwy yw hi; dyna’i chyfrifoldeb mewn byd sy’n ceisio’n troi yn rhy aml yn ddiffiniadau twt.

Cafodd Poet in da Corner, gwaith y mae Debris wedi’i greu ac yn perfformio ynddo ar y cyd â’r MC Grime, Jammz, 4-5 seren gan adolygwyr lu. Enwebwyd hi am Wobr Egin Dalent y Flwyddyn yng Ngwobrau Theatr yr Evening Standard.

 

Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni drwy’r prosiect hwn?

“Drwy gysgogi bardd-berfformiwr proffesiynol, rwy’n gobeithio mireinio fy sgiliau fel darllenwr a rhywun sy’n perfformio’i farddoniaeth ei hun. Rwy’n gobeithio gallu hoelio sylw cynulleidfaoedd drwy fy ngeiriau.”

Pa effaith yn eich barn chi a gaiff y cyfle ar eich gyrfa fel awdur/artist?

“Drwy ddatblygu fy sgiliau perfformio barddoniaeth, byddaf yn cael cyfle i fod yn rhan o nifer o brosiectau a chyfleoedd gwahanol. Gallai hyn gynnwys digwyddiadau perfformio barddoniaeth, darlleniadau a hyd yn oed sioeau ar fy mhen fy hun.”

Nôl i Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli