Dewislen
English
Cysylltwch

Awdur, pherfformwraig a hwylusydd drama yw Sherrall Morris. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o sgriptiau byrion a monologau ar gyfer perfformiadau bras a digwyddiadau meic agored. Mae Sherral yn defnyddio profiadau go iawn bywyd yn syniadau; mae hi’n cadw dyddlyfr ac yn mwynhau creu straeon byrion. Am flynyddoedd lawer, mae Sherrall wedi ymwneud â grwpiau ysgrifennu amrywiol er mwyn hwyluso sesiynau ysgrifennu. Mae hi hefyd wedi cynnal cylchoedd stori i grwpiau cymunedol a theatrau pobl ifanc.

 

Enw’r Prosiect: ‘Slalom’

Lleoliad y Prosiect: De Cymru

 

Cefndir y Prosiect:

Bydd Sherrall Morris yn defnyddio cyllid Rhoi LIwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli i ddatblygu ei sgiliau fel awdur ac i wella’i gwybodaeth am fyd y ddrama. Mae’n bwriadu datblygu drafft newydd o sgript i Slalom, drama un-fenyw y mae hi’n ei chreu ar hyn o bryd. Mae’n bwriadu gweithio gyda’r dramaturg a’r dramodydd, Kelly Jones, a fydd yn fentor ysgrifennu iddi. Mae Kelly yn ddramodydd, yn berfformwraig ac yn ddramaturg a fydd yn cynghori Sherrall ar strwythur naratif, cymeriadu a datblygu sgript. Bydd Sherrall hefyd yn cyflogi cynorthwyydd personol/rhywun i’w helpu i wneud nodiadau, i gofnodi ac i ddogfennu’r broses.

Mae Slalom yn adrodd stori Amy, menyw anabl a freuddwydiai’n blentyn am gael bod yn Eddie the Eagle. Fodd bynnag, oherwydd ei hanabledd, dywedwyd wrthi y byddai hyn yn amhosibl. Felly, pan gaiff Amy ddyddiad ar gyfer llawdriniaeth ar ei chefn, mae hi’n penderfynu ei hel hi am y llethrau sgïo yn y Swistir. Yn ei chadair olwyn Salsa Quickie newydd, mae hi ar frig llethr sgïo ac ar fin igam-ogamu i lawr dibyn serth, brawychus. Ond a fydd hi’n ddigon dewr i fentro?

Bydd y prosiect hefyd yn rhoi mwy o broffil i Sherrall fel artist ac yn cyflwyno stori wahanol am anabledd i ganonau llenyddiaeth a theatr Cymru. Mae Sherrall yn credu bod cael y cyllid yn gryn gamp ac yn gam cadarnhaol yn ei gyrfa.

 

Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni drwy’r prosiect hwn?

“Rwy’n teimlo’n gyffrous o allu gweithio gyda Kelly Jones, y dramaturg a’r dramodydd, ac mae’n braf cyfle i ddysgu, archwilio a gwella fy sgiliau fel awdures sgriptiau.”

Pa effaith yn eich barn chi a gaiff y cyfle ar eich gyrfa fel awdur/artist?

“Bydd y cyfle hwn yn fodd imi weithio ar syniad newydd, datblygu fy sgiliau fel awdures, cryfhau fy mherthynas gydag artistiaid eraill sydd wedi ennill eu plwyf, a rhoi mwy o broffil creadigol imi.”

Nôl i Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli