Dewislen
English
Cysylltu

Awdur yw Laolu Alatise ac mae’n gyd-sylfaenydd cymundod sy’n gweithio yng Nghaerdydd ac sydd wedi cyflawni ymchwil am Derfysgoedd Hil 2019 yn ne Cymru. Mae’r grŵp wedi darlunio’r digwyddiadau yng Nghaerdydd, Y Bari, a Chasnewydd mewn llinyn storiol ar Twitter, fel petai’n digwydd nawr.

 

Enw’r Prosiect: Almanac Terfysgoedd Hil 1919

Lleoliad y Prosiect: Caerdydd, Rhydychen

 

Gwybodaeth am y Prosiect:

Bydd Laolu Alatise yn defnyddio nawdd y cynllun Cynrychioli Pawb i gynhyrchu ‘chapbook’, The 1919 Race Riots Almanac,am yr hanes o amgylch Terfysgoedd Hil 2019 yn ne Cymru. Bydd yn creu ac yn cyflawni gweithdai i bobl yng Nghaerdydd. Mae’n dychmygu y bydd y gwaith hwn yn rhan o gorff gwaith cyflawn gan ymarferwyr creadigol eraill yng Nghymru.

I gefnogi hyn, bydd Laolu yn cyflawni cwrs byr mewn gwrthdaro Ethnig a Chrefyddol yn Rhydychen a fydd yn archwilio cysyniadau megis ethnigedd, cenedligrwydd a gwleidyddiaeth hunaniaeth. Gan fod ei waith creadigol a beirniadol cyfredol yn canolbwyntio ar brofiadau o geisio lloches, dadleoli, bod yn queer a bod yn groenddu, bydd y cwrs hwn yn berthnasol i’w waith, ond hefyd i unrhyyw sesiynau hyfforddiant a chyflwyniadau a allai godi o’i waith. Yna bydd yn ymweld ag Ysgol Astudiaethau Affricanaidd I wneud ymchwil ar gyfer yr antholeg.

Nod y prosiect yw archwilio holl gymlethdodau Terfysgoedd De Cymru (yn bennaf, fel cyfres o droseddau casineb yn erbyn dinasyddion na wnaethant ildio), adnabod ffurfiau grymusol o hunaniaeth a gwrthsafiad yn Butetown yn y gorffennol a heddiw. Bydd The 1919 Race Riots Almanac yn cyfuno gwybodaeth archifol, toriadau o bapurau newydd, ffotograffau, darluniau a damcaniaethau beirniadol.

Ysbrydolwyd y prosiect hwn gan syniadau Ngũgĩ wa Thiong o wasgariad, chapbooks darluniadol Djuna Barnes, ac mae’n defnyddio ymchwil a gwblhawyd gan haneswyr ac archifwyr o Gaerdydd megis Neil Sinclair a Chanolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown.

 

Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni drwy’r prosiect hwn?

 

“Rwy’n gobeithio bydd y prosiect yma’n mynd i’r afael â chwestiynau am hil, cynrychiolaeth a chof diwylliannol mewn cyd-destun Cymreig. Gobeithiaf hefyd wneud sylw ar lle hil mewn cof cyhoeddus e.e. sut y mae hil, ethnigrwydd a chenedligrwydd wedi effeithio digwyddiadau hanesyddol, a sut yr ydym yn eu cofio ac yn eu coffau. Yn draddodiadol, mae almanac yn edrych i’r dyfodol, felly rwy’n defnyddio’r ffurf i daflu golau ar ganlyniadau’r terfysgoedd hil, yn benodol alltudiaeth, boneddigeiddio Bae Caerdydd, ac ymyriadau eraill. Gobeithiaf ddangos sut y mae’r terfysgoedd wedi mowldio Caerdydd i’r ddinas y gwelwn heddiw.”

 

Pa effaith yn eich barn chi a gaiff y cyfle ar eich gyrfa fel awdur/artist?

“Byddaf yn gallu cyflawni ymchwil archifol manwl a chyflawni gwaith o ansawdd uchel. Rwyf hefyd yn falch o’r cyfle i greu cysylltiadau arloesol gyda chymunedau amrywiol yng Nghaerdydd trwy weithdai creu zine.

 

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i greu’r Almanac, ac yn llawn cyffro am y cyfle i rannu’r gwaith yn ogystal ag amlygu gwaddol y terfysgoedd a’u heffaith yng Nghymru a thu hwnt. Yn olaf, bydd hwn yn cyfranu at gorff o waith a fydd yn arddangos fy ngweledigaeth greadigol fel egin awdur.”

 

Nôl i Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli