Dewislen
English
Cysylltwch
Anirban Mukhopadhyay

Artist o Gaerdydd yw Anirban Mukhopadhyay. Mae’n awdur ffuglen, actor, dramodydd, cyfarwyddwr a chwaraewr tabla. Mae’n gweithio fel cyfreithiwr cymwysedig yng Nghymru a Lloegr ac fel cyfrifydd.

Mae Anirban yn credu bod adrodd straeon yn gallu dod â phobl ynghyd, a’i fod yn fodd o  fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol; dyma pam iddo fod yn weithgar mewn cymunedau lleol dros y naw mlynedd ddiwethaf drwy ffyrdd gwahanol o adrodd straeon, e.e. ysgrifennu creadigol cymunedol, grwpiau llenyddol a grwpiau theatr. O ganlyniad, mae Anirban wedi gallu ysgrifennu a chyfarwyddo dramâu mewn Bengaleg a Saesneg, a’r rheini wedi’u llwyfannu yn y Deyrnas Unedig ac India.

 

Enw’r Prosiect: Ffuglen Trosedd: Ddoe a Heddiw

Lleoliad y Prosiect: Caerdydd

 

Cefndir y Prosiect:

Ac yntau’n awdur ffuglen trosedd ar ddechrau’i yrfa, bydd Anirban yn defnyddio cyllid Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli i wella’i wybodaeth am y genre.

Bydd Anirban yn cynnal 10 sesiwn lenyddol a gweithdai gyda grŵp ffocws o 15 o ddarllenwyr, awduron a phobl sy’n frwd dros lenyddiaeth yng Nghymru, a’r rheini o gefndiroedd cymdeithasol a galwedigaethol amrywiol. Drwy’r trafodaethau hyn, nod Anirban yw deall diddordebau darllenwyr y genre ar raddfa eang.

Bydd Anirban wedyn yn cael ei fentora gan Mr Gunjan Dasgupta, awdur trosedd o India, sydd wedi ysgrifennu mewn ffurfiau gwahanol ac i ddarllenwyr Indiaidd a phobl nad ydynt o India. Bydd hyn yn fodd iddo edrych ar arddulliau ysgrifennu amrywiol o dan adain awdur arbenigol sydd wedi ennill ei blwyf. Bydd hefyd yn bresennol mewn sgwrs gyda’r awduron a’r newyddiadurwyr llwyddiannus, Duncan Campbell a Joanna Jolly, a fydd yn trafod ysgrifennu am droseddau go iawn er mwyn deall eu technegau ysgrifennu a rhwydweithio â’r gynulleidfa.

I wella’i dechneg gyffredinol, ac i baratoi portffolio ysgrifennu, bydd Anirban yn cynnal cyfres o weithdai Ysgrifennu Ffuglen Trosedd er mwyn ei helpu â’i ddatblygiad yn y dyfodol.

 

Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni drwy’r prosiect hwn?

“Bydd y prosiect hwn yn rhoi imi wybodaeth a dealltwriaeth o ffuglen trosedd o safbwynt awdur. Bydd yn gymorth i ddeall meddyliau a disgwyliadau darllenwyr, a’r gwaith caib a rhaw sy’n gallu hawlio sylw darllenwyr.”

 

Pa effaith yn eich barn chi a gaiff y cyfle ar eich gyrfa fel awdur/artist?

“Bydd yn gymorth imi ddeall y ffurf dderbyniol ar gyflwyno llenyddiaeth i ddarllenwyr ar raddfa eang.  Bydd y sgwrs adeiladol yn gwella fy mynegiant a’m harddull wrth ysgrifennu. Byddaf hefyd yn cael adroddiad gan y tiwtor sy’n asesu fy ysgrifennu, a fydd yn fy helpu’n arw fel awdur ffuglen trosedd.”

Nôl i Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli