Dewislen
English
Cysylltwch
Hammad Rind

Awdur, ieithydd ac athro a gafodd ei eni yn Punjab, Pacistan, yw Hammad Rind. Mae’n perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau meic agored a pherfformio barddoniaeth lleol, ac yn enwedig y llwyfan BAME, ‘Where I’m Coming From’.

Mae’r syniad o iaith fel dyfais naratif rymus a chyfrwng cyfathrebu o ddiddordeb mawr iddo. Mae’n gallu siarad wyth iaith a hanner, gan gynnwys Wrdw, Pwnjabeg, Hindi, Perseg, Twrceg, Eidaleg a Ffrangeg, ac mae’n ymgorffori elfennau o’r ieithoedd gwahanol hyn yn ei waith.

Mae ei nofel gyntaf, Four Dervishes, sef dychan cymdeithasol wedi’i seilio ar dastan gan Amir Khosrow, y bardd Persiaidd, a’r dychan hwnnw’n cynnwys elfennau o realaeth hudol, wedi ennyn cryn ddiddordeb ac ar hyn o bryd mae’n chwilio am y cyhoeddwr iawn iddo.

 

Enw’r Prosiect: Hamari Kahani: Ein Stori

Lleoliad y Prosiect: Caerdydd

 

Cefndir y Prosiect:

Bydd Hammad Rind yn defnyddio cyllid Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli i gynnal cyfres o weithdai ysgrifennu a darlunio i blant o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gyda’r nod o ddathlu amrywiaeth ardal amlddiwylliannol Grangetown.

Bydd Hammad yn gweithio gyda Charlotte Brown ac Adeola Dewis i gynnal gweithdai a fydd yn rhoi cymorth arbenigol a phrofiad ar y cyd i bobl sy’n siarad Wrdw, Pwnjabeg a Hindi, a chymunedau Affro-Garibïaidd. Bydd y sesiynau’n agored i bobl o bob cefndir ethnig, gan gynnwys y rheini sy’n eu hystyried eu hunain yn Gymry neu’n Brydeinwyr.

Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar bethau sy’n ysgogi plant i ysgrifennu, gan roi amser a chymorth iddynt feddwl am eu hanesion ac adrodd eu straeon eu hunain yn eu mamiaith. Byddant wedyn yn cael eu hannog i rannu’r hyn maent wedi’i greu â’r grŵp.

Bydd Hammad yn cwblhau’r prosiect drwy ysgrifennu stori sy’n targedu plant o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Bydd y stori hon, ynghyd â detholiad o ysgrifennu’r plant, i’w gweld yn Sŵ Grangetown.

Bydd y prosiect yn gyfle i Hammad ymdrwytho mewn diwylliant ysgrifennu, gan ddatblygu ei broffil ei hun yn y gymuned leol ac yn y diwydiannau creadigol. Bydd hefyd yn fodd iddo fireinio ei sgiliau ysgrifennu ei hun a chyflawni’i uchelgais o ddod yn awdur cyhoeddedig llyfrau â darluniau i blant.

Mae Charlotte Brown (BA, MSc, MPhil) wedi dysgu yn yr Adran Hanes yn Kings College Llundain ac ym Mhrifysgol Llundain Royal Holloway. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio yn yr archif yng Nghwrt Insole. Mae ganddi brofiad o ddysgu gweithdai cymunedol mewn celf a hanes ill dau. Hi yw prif drefnydd Llwybr Celf a Sŵ Grangetown.

Mae Dr Adeola Dewis yn ddarlunydd ac yn adroddwraig straeon sy’n gweithio ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi’n arbenigo mewn straeon gwerin a mynegiant diwylliannol brodorol, gan ganolbwyntio’n benodol ar bobl alltud, hunaniaeth a pherthyn.

 

Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni drwy’r prosiect hwn?

“Helpu i feithrin creadigrwydd a chynrychiolaeth ddiwylliannol sy’n croestorri ymhlith grwpiau BAME yn ardaloedd Grangetown a chanol dinas Caerdydd.”

 

Pa effaith yn eich barn chi a gaiff y cyfle ar eich gyrfa fel awdur/artist?

“Bydd yn fy helpu i ymdrwytho yn y diwylliant ysgrifennu a datblygu fy enw yn y gymuned leol ac yn y diwydiannau creadigol. Bydd hefyd yn fodd imi fireinio fy sgiliau ysgrifennu, gan fy helpu gyda fy uchelgais o ddod yn awdur cyhoeddedig llyfrau â darluniau i blant.”

Nôl i Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli