Dewislen
English
Cysylltwch
Nasia Sarwar-Skuse a Taylor Edmonds

Mae Nasia Sarwar-Skuse yn byw yng Nghaerdydd ac yn ddiweddar wedi cwblhau ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Nassia wedi cael Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru i egin awduron ac mae’n gweithio ar ei nofel gyntaf.

 

Bardd a pherfformwraig o’r Barri yw Taylor Edmonds. Cwblhaodd ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddar. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi gan BBC Sesh, Wales Arts Review, Butcher’s Dog Magazine, The Cheval Anthology a mwy. Hefyd yn ddiweddar mae hi wedi gweithio ar brosiectau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Nescio Ensemble a The Severn Estuary Partnership. Mae Taylor hefyd yn aelod o dîm ‘Where I’m Coming From’ – digwyddiadau meic agored yng Nghaerdydd sy’n rhoi llwyfan i awduron BAME yng Nghymru.

 

Enw’r Prosiect: Llais

Lleoliad y Prosiect: Ardal Glan yr Afon, Caerdydd

 

Cefndir y Prosiect:

Bydd Taylor Edmonds a Nasia Sarwar-Skuse yn cynnal cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol yn rhad ac am ddim i unigolion o gefndiroedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn edrych ar thema llais. Mae ganddynt ddiddordeb mewn grymuso pobl drwy ysgrifennu creadigol – grymuso pobl y mae angen hynny fwyaf arnynt. Pobl a allai, yn sgil ffactorau cymdeithasol ac economaidd amrywiol, gredu nad yw ysgrifennu creadigol yn rhywbeth iddynt hwy.

Bydd y gweithdai wedi’u cynllunio i annog pobl i ddatblygu eu lleisiau creadigol ac i deimlo’n ddigon hyderus i fynegi eu meddyliau, gan astudio gwaith awduron croenliw ar yr un pryd. Bydd Nasia a Taylor yn cynnal gweithgareddau barddoniaeth a rhyddiaith drwy’r holl weithdai mewn awyrgylch cynhwysol a chyfforddus, a’r cyfan yn agored i bobl o bob gallu.

Mae astudio wedi rhoi’r sgiliau angenrheidiol i Taylor a Nasia arwain eu gweithdai eu hunain, ar ôl cynllunio a hwyluso’u sesiynau’u hunain i israddedigion a phlant ysgol. A hwythau’n awduron ar ddechrau’u gyrfaoedd, bydd y gweithdai’n rhoi mwy o brofiad iddynt o hwyluso gweithgareddau i bobl, ac yn enwedig i gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Bydd hyn yn fodd o feithrin eu hyder fel tiwtoriaid ysgrifennu creadigol ac yn rhoi hwb i ddatblygiad eu gyrfa.

Ar ddiwedd y gweithdai, byddant yn creu pamffled sy’n cynnwys gwaith y cyfranogwyr. Bydd gan y gynulleidfa gyfle hefyd i fynd i noson ‘Where I’m Coming From’ – noson meic agored yng Nghaerdydd – i berfformio’u gwaith.

 

Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni drwy’r prosiect hwn?

Nasia:

“Ennyn diddordeb pobl BAME mewn ysgrifennu creadigol a’u hannog i adrodd eu straeon, gan greu amrywiaeth cyfoethog o leisiau.”

 

Taylor:

“Helpu pobl BAME i fwynhau ysgrifennu creadigol ac astudio gwaith awduron BAME, gan feithrin eu hyder yn eu llais creadigol a’u hannog i greu rhywbeth y gallant deimlo’n falch ohono.”

 

Pa effaith yn eich barn chi a gaiff y cyfle ar eich gyrfa fel awdur/artist?

Nasia:

“Dim ond mewn prifysgol ac ysgol gynradd yr ydym ni wedi dysgu ysgrifennu creadigol hyd yma. Bydd cynnal gweithdai yn y gymuned yn rhoi profiad gwerthfawr inni a mwy o hyder wrth arwain gweithdai yn y gymuned yn y dyfodol.”

Taylor:

“Bydd cynnal y gweithdai yn rhoi cyfle inni ddatblygu fel hwyluswyr ysgrifennu creadigol a chael profiad gwerthfawr sy’n golygu rhoi mwy o gyfleoedd ysgrifennu creadigol i’n cymunedau, a hoffem ddatblygu ar hynny ymhellach yn y dyfodol.”

 

Nôl i Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli