Heledd Watkins
MwyTegwen Bruce-Deans
MwyLlio Maddocks
MwyBethan Mai
Artist aml-gyfrwng o'r Gorllewin Gwyllt ydy Bethan Mai. Enillodd ei band Rogue Jones y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023 gyda'u albwm Dos Bebés. Mae Bethan yn cyfansoddi, creu a chynhyrchu cerddoriaeth yn ogystal a bod yn arlunydd. Mae ei darluniau wedi'i gyhoeddi mewn sawl llyfr. Mae wedi actio mewn sawl cyfres deledu a sioe theatr ar draws y wlad. Hyfforddodd ar y cwrs Actio yn Central School of Speech and Drama yn Llundain, a chyn hynny cwrs celf UWE Bryste a Choleg Celf Caerfyrddin.
Mae'n byw wrth y môr ac yn caru natur a mynd am antur gyda'i chi Myfi Mŵg a'i theulu bach.
Heledd Watkins
Astudiodd Heledd Watkins fel crëwr theatr cyn symud i weithio fel gitarydd fâs sesiwn, yn teithio efo Emmy the Great, Chloe Howl a Paper Aeroplanes. Fe gychwynodd gyfansoddi ei cherddoriaeth ei hun fel prif-leisydd y band celf-roc HMS Morris, efo uchafbwyntiau’r band yn cynnwys, perfformio on Glastonbury, rhyddhau tri albwm a derbyn dau enwebiad i’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Tegwen Bruce-Deans
Cafodd Tegwen Bruce-Deans ei magu yn Llandrindod, Maesyfed ar ôl symud yno o Lundain gyda’i rhieni di-Gymraeg yn ddwy oed. Ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, bellach mae hi wedi ymgartrefu ym Mangor ac yn gweithio fel cynhyrchydd cynnwys i BBC Radio Cymru. Mae hi hefyd yn creu amrywiaeth o gynnwys llawrydd am gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys 'sgwennu adolygiadau, geiriau caneuon a chyfrannu at bodlediadau.
Cyhoeddodd ei chyfrol cyntaf o gerddi, 'Gwawrio', fel rhan o gyfres 'Tonfedd Heddiw' Cyhoeddiadau Barddas yn 2023. Mae ei gwaith hefyd wedi’u cyhoeddi mewn amrywiaeth o gasgliadau fel Ffosfforws 2 (gol. Mari Elen Jones, Y Stamp), Sain Ffagan yn 75 (gol. Ifor ap Glyn, Gwasg Carreg Gwalch) a Cariad (gol. Mari Lovgreen, Barddas). Hi hefyd enillodd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 gyda chyfres o gerddi dan y teitl ‘Rhwng dau le’.