Dewislen
English
Cysylltwch
Catrin Herbert
Mwy
Elen Ifan
Mwy
Nia Jones
Mwy
Keziah
Mwy
Megg Lloyd
Mwy
Melda Lois
Mwy
Martha Owen
Mwy
clare e. potter
Mwy
Elan Rhys
Mwy
Kayley Roberts
Mwy
Catrin Herbert

Cantores/cyfansoddwraig/cerddor o Gaerdydd yw Catrin Herbert (hi/ei). Mae hi wedi bod yn cyfansoddi ac yn gigio ers yn ei harddegau, ac yn ôl yn 2011 rhyddhaodd ei EP cyntaf ‘Y Gwir y Gau a Phopeth Rhwng y Ddau’, gyda chaneuon fel ‘Disgyn Amdana Ti’, ‘Ar y Llyn’ ac ‘Ar Goll yng Nghaerdydd’. Yn 2013 cyrhaeddodd Catrin rownd derfynol Cân i Gymru gyda ‘Ein Tir Na N’Og Ein Hunain’. Wedi seibiant, ar ôl metro i’r byd cyflwyno teledu (Cyw, S4C) a threulio cyfnod yn byw a gweithio yn Barcelona, dychwelodd Catrin i’r stiwdio recordio, gan gydweithio gyda Mei Gwynedd y tro yma, i ryddhau ‘Dere Fanhyn’, ‘Cerrynt’, a ‘Nadolig ‘Da Fi’ ar label JigCal. Cafodd y pleser llynedd o gyd-weithio gyda Catrin Finch, i gyfansoddi ‘anthem’ LHDTC+ prosiect Mas ar y Maes (‘Cariad yw Cariad’) – mi greodd hynny awch ynddi i wneud mwy o gyd-weithio. Ei huchelgais nawr yw i rannu mwy o’i cherddoriaeth, gan recordio, rhyddhau a pherfformio mwy o gerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n gobeithio cael y cyfle i wneud mwy o gyd-weithio gyda menywod creadigol Cymru. Y tu hwnt i’w phrosiectau cerddorol ei hun, mae cerddoriaeth yn ran annatod o’i bywyd dydd i ddydd fel cynhyrchydd BBC Radio Cymru 2. Mae Catrin hefyd wrth ei bodd yn chwarae pêl-droed, yn dringo, ac yn teithio i lan y mor yn y camper i syrffio.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Teimlad o berthyn! Pan ddechreuais i berfformio, roedd hi’n teimlo fel bod y sîn gerddoriaeth Gymraeg wedi ei ddominyddu’n llwyr gan fechgyn. Yn fy arddegau ac ugeiniau cynnar, allan o’r degau a degau o gigs nes i berfformio ynddyn nhw, prin erioed oedd yna ferch arall yn camu ar y llwyfan ar yr un noson. Mae pethau, diolch i’r drefn, wedi newid gymaint erbyn hyn (diolch i brosiectau fel Kathod a Merched yn Gwneud Miwsig am eu rhan yn hynny!). Dwi’n edrych ymlaen gymaint at gael dod i nabod a meithrin perthynas gyda merched creadigol eraill, a phobl o rywiau ymylol, i gyd-rannu cyngor, creadigrwydd ac anogaeth. Dw’i hefyd yn gobeithio y bydd yr encil yn rhoi hwb hyder i fi, fel y byddai’n fwy parod gymryd cyfleoedd ac i fentro ymhellach gyda fy ngherddoriaeth. Dw’i wir yn edrych ymlaen at glywed am broses creadigol a chyfansoddi pobl eraill ar yr encil, a chael clywed eu gwaith nhw.”

Twitter: @catrinherbert
Instagram: @catrinherbert

Cau
Elen Ifan

Mae Elen Ifan (hi/ei) yn fardd, cerddor a darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi’n cyhoeddi ei gwaith ar ei chyfrif Instagram @ystlum, a cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Ystlum, yn 2021 gyda Chyhoeddiadau'r Stamp. Mae hi’n chwarae’r cello yn Rogue Jones a Cherddorfa Symffoni’r Rhondda, ac hefyd wedi bod yn rhan o brosiectau Saron a Cofiwch Roswell (Klep Dim Trep ). Yn ei gwaith ymchwil, mae hi’n ymddiddori yn y berthynas rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth, gan arbenigo ar waith T. Gwynn Jones. Yn fwy diweddar mae hi wedi gweithio ar brosiect ymchwil sy’n ymchwilio i iaith a hunaniaeth o fewn cerddoriaeth poblogaidd sy’n defnyddio Cymraeg a te reo Māori, gan gynhyrchu ymatebion creadigol fel rhan o’r ymchwil.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Dwi wir yn edrych ymlaen at gael y cyfle i gydweithio gyda gwahanol artistiaid, cael fy ysbrydoli gan unigolion creadigol eraill, a dysgu a rhannu am greadigrwydd a cherddoriaeth.”

Instagram: @e_ifan / @ystlum

Cau
Nia Jones

Mae Nia Jones (hi/ei) yn dod o Abertawe'n wreiddiol, ond wedi bod yn byw yng Ngwynedd ers dros ddegawd. Dim ond yn ddiweddar mae hi wedi gallu dechrau ysgrifennu yn greadigol, wedi iddi gael ei hysbrydoli yn bennaf gan lên menywod traws fel Imogen Binnie a Casey Plett. Ma ei barddoniaeth, ei gwaith yn creu a datblygu zines, yn rhan annatod o’i gweithgarwch yn creu a chefnogi'r gymuned draws yn Ngogledd Cymru.

Meddai, “Mae creu diwylliant, yn enwedig ar y cyd, mewn cyd-destun gymdeithasol elyniaethus ac anodd yn hollbwysig i'n bodolaeth fel pobol.” Mae gofodau barddoniaeth cyhoeddus, fel nosweithiau meic agored Blue Sky Bangor a tafarn yr Harp, wedi bod yn hollbwysig i’w datblygiad fel awdur hefyd.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Cwrdd ag awduron a cherddorion eraill a darganfod ffyrdd i gydweithio a dysgu o'n gilydd! Fi wastod di cael diddordeb yn y grefft o sgrifennu caneuon, yn enwedig lyrics, a licsen i ddysgu mwy am 'ny. Gofod i feddwl ond hefyd y cynnwrf o gwrdd a phobol newydd, creadigol!”

Cau
Keziah

Gyda cherddoriaeth wedi ei wehyddu trwy pob elfen o’i bywyd, magwyd Keziah (hi/ei) yn Llanelli; lle’r oedd hi’n chwarae dryms, canu, cyfansoddi caneuon, creu fideos cerddoriaeth ac yn perfformio’n fyw. Gorffennodd ei MA ym Mhrifysgol Caerdydd mewn Ieithoedd ac Ieithyddiaeth ac yn ystod COVID creodd y cymeriad ‘Miss O’Hare yn Dysgu Cymraeg’ i annog fwy o bobl i gael hyder mewn siarad Cymraeg trwy ganeuon rap a fideos comedi byr. Trwy’r profiadau yma, cafodd yr amser i ddeall fwy am Gymru a’i phobl mewn ffordd ddyfnach ac yn gryfach gan sylweddoli bod hi eisiau buddsoddi yn y Gymraeg a’r wlad. Mae hi eisoes wedi cyd-greu'r prosiect ymchwil a datblygu ‘Amlen’ ar agweddau pobl ifanc o fewn y sîn cerddoriaeth Cymraeg. Mae hi’n ddrymiwr sesiwn i nifer o artistiaid ac yn creu caneuon solo o dan yr enw 'Kawr'.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Y caniatâd â'r amser i greu. I allu godi gan wybod yr unig peth sydd angen i fi neud y dydd yna yw i fynd lawr y grisiau ac i sgwennu rhywbeth ar babpur. Mae'n fraint i gael y cyfle i neud hyn. Hefyd, wrth gwrs, i fod mor agos i'r môr.”

Cau
Megg Lloyd

Mae Megg Lloyd (hi/ei) yn ysgrifennydd a pherfformiwr farddoniaeth lafar, o Eryri. Mae ei chariad at farddoniaeth yn dyddio o'i harddegau ac yn parhau i siapio ei bywyd. Mae hi'n ysgrifennu barddoniaeth i'r bobl, yn aml am ei hunaniaeth fel merch cwîar Gymraeg, iechyd meddwl a'i chariad tuag at fyd natur ei bro. Mae Megg yn artist aml-gyfrwng ac yn arbrofi gyda ffiniau cerddoriaeth a barddoniaeth. Ei phrosiect diweddaraf yw 'Q-fforia', prosiect theatr ddawns cwîar, bywiog a dwyieithog sydd yn cyfuno dawns, barddoniaeth a cherddoriaeth. Mae hi'n rhannu ei gwaith ar Instagram o dan yr enw ‘Gwaith Papur’.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Rwy’n edrych ymlaen fwyaf at rannu gofod hefo artistiaid eraill a dysgu ar y cyd, wrth gael y cyfle i gau allan gweddill y byd. Dim yn aml mae artistiaid yn cael y cyfle i gau allan y cyfan a chanolbwyntio ar eu crefft, felly bydd hyn yn gyfle gwych i wneud hynny. Edrychaf ymlaen hefyd at ddysgu gan artistiaid profiadol a rhannu fy ngwaith hefo cerddorion a beirdd rwy’n edmygu gymaint. Bydd yn bleser llwyr i mi gael y cyfle i fynychu’r encil yma yn Nhŷ Newydd, i gyfarfod mwy o bobl yn y byd celfyddydol a chael y cyfle i gyd-greu mewn gofod mor arbennig.”

Instagram: @gwaithpapur

Cau
Melda Lois

Mae Melda Lois (hi/ei) yn gerddor / gyfansoddwraig o Gwm Croes ger Llanuwchllyn, ond yn byw yng Nghaerdydd ers rhyw ddegawd bellach. Dechreuodd berfformio ei gwaith ar ôl cyrraedd ffeinal Cân i Gymru hefo dwy gân yn 2021. Aeth yna ymlaen i gydweithio ar ddau brosiect cydweithredol yn 2022 - EP cyntaf prosiect Kathod, ac EP prosiect Sbardun. Yn 2023, cystadlodd ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol, a chafodd ei dewis fel un o artistiaid Cronfa Lansio Gorwelion y BBC, gan dderbyn cyllid i recordio EP yn Stiwdio Sain. Roedd sengl gyntaf y prosiect, Bonne Nuit Ma Chérie, yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru. Ochr yn ochr â chanu a chyfansoddi, mae hi wedi bod yn gwneud gwaith ysgrifenedig yma ac acw. Ysgrifennodd gerdd o'r enw Symbiosis ar encil Llyfrau Lliwgar 2022, a gafodd ei chyhoeddi fel rhan o'r flodeugerdd Curiadau yn 2023. Bydd yn cyfrannu at gyfrol o’r enw Cymry Balch Ifanc eleni hefyd. O 9 tan 5, mae hi’n gweithio fel ymchwilydd, yn archwilio gwahanol ffactorau sy'n siapio iechyd cyhoeddus.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Dwi hapusaf pan ‘dw i’n cael amser rhydd i chwarae hefo sŵn, a chwarae hefo geiriau, felly mi fydd yr encil yma’n gyfuniad perffaith o’r ddau! Dw i hefyd wrth fy modd yn cymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol – dwi’n edrych ymlaen at gyfarfod gweddill y criw, a gweld be’ fydd canlyniad taflu’n syniadau ni gyd at ei gilydd. Mae mynd i Dŷ Newydd i sgwennu wastad yn brofiad mor hyfryd, a bydd cael cyfansoddi ar yr un pryd tro ‘ma yn ei wneud o’n encil bythgofiadwy dwi’n siŵr.”

Twitter: @meldaloisg
Instagram: @meldalois

Cau
Martha Owen

Mae Martha Owen (hi/eu) yn 22, yn wreiddiol o'r Felinheli ond yn byw yng Nghaerdydd bellach ers graddio o'r brifysgol haf diwethaf Mae ganddi radd mewn Seicoleg, ag er iddi fwynhau'r cwrs, roedd hi’n gweld colled mawr am waith mwy creadigol yn ystod y bedair mlynedd fel myfyrwraig. Ers graddio felly mae hi wedi mwynhau cael y cyfle am y tro cyntaf ers amser maith i fod yn greadigol drwy ysgrifennu geiriau a chyfansoddi caneuon - rhywbeth mae hi’n mwynhau gwneud ers yn ifanc. Mae hi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o Encil Kathod i gael dysgu sgiliau newydd ag i ddatblygu hyder i ysgrifennu a chyfansoddi mwy yn y dyfodol.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Dwi erioed 'di bod ar gwrs preswyl o'r blaen felly dwi'n edrych ymlaen at y profiad newydd yma o roi amser i fod gyda bobl eraill, i fod yn greadigol, ag i ddysgu sgilia' newydd - a hyn i gyd yn rwla mor lyfli â Thŷ Newydd! Dwi'n edrych ymlaen fwyaf at gyfarfod pobl newydd, dysgu sut ma nhw'n mynd ati i sgwennu a chyfansoddi, a pa fath o betha sy'n ysbrydoli nw - a dwi'n gobeithio fydd hyn wedyn yn ysbrydoli finna i sgwennu a chreu mwy yn y dyfodol.”

Twitter: @MarthaElenOwen
Instagram: @martha.elen

Cau
clare e. potter

Mae clare e. potter (hi/ei) yn fardd a chyflwynydd radio a astudiodd MA mewn llenyddiaeth Affro-Caribïaidd yn Mississippi. Mae hi hefyd wedi dysgu yn New Orleans. Mae’n hwyluso prosiectau creadigol gyda grwpiau cymunedol ac yn cael ei hysgogi gan y gred y gall barddoniaeth fod yn rym ar gyfer newid personol a chymdeithasol. Yn ddiweddar, ariannodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru daith i gymryd rhan mewn cynhadledd therapi barddoniaeth (UDA). Mae gwobrau eraill yn cynnwys bwrsari ysgrifennu gan Llenyddiaeth Cymru a chyllid gan Gyngor y Celfyddydau ar gyfer prosiect yn cyfuno barddoniaeth a jazz i ymateb i drawma Corwynt Katrina. Roedd hi yn Awdur ar Waith Gŵyl y Gelli a mae wedi creu gosodiadau barddoniaeth mewn mannau cyhoeddus gyda phobl leol. Cyfarwyddodd clare rhaglen ddogfen gan y BBC (The Wall and the Mirror) am ei barbwr lleol a fel canlyniad cafodd grŵp ei ffurfio i achub sefydliad glowyr y pentref. Bydd ei hail gasgliad Healing the Pack yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill, 2024. Ar ôl bod yn Fardd y Mis ar Radio Cymru, dechreuodd ysgrifennu mwy yn y Gymraeg ac fydd ei chasgliad gyntaf o farddoniaeth Cymraeg Nôl Iaith, yn dod allan gyda Y Stamp yn fuan. Ar hyn o bryd mae hi'n mentora artistiaid eraill ac yn gweithio ar sawl ddarn o ysgrifennu creadigol ar gyfer prosiectau llesiant.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Dwi'n edrych ymlaen at gael y siawns i gydweithio gyda menywod eraill, yn arbennig rhai sy'n canu, sy'n gerddorion. I gael yr amser i arbrofi a herio fy hun. Ac yna i dod nol at fy ngwaith fel bardd, gyda mewnwelediadau a sgiliau newydd. Bod yno fel cyfranogwr nid hwylusydd, i greu rhywbeth annisgwyl a thrio defnyddio fy llais, efallai. Fi wastad wedi eisiau canu (ond ddim wedi cael y cyfle i drio gwella fe). I gael hwyl! Ac i wneud cysylltiadau newydd yn y byd cerddoriaeth.”

Twitter: @clare_potter

Cau
Elan Rhys

Mae Elan Rhys (hi/ei) yn artist cerddorol a gweledol o Fethel, ger Caernarfon. Ond ers dros flwyddyn mae hi’n gwneud hynny ar y cyd â gweithio fel bydwraig cymunedol ac mae'r ddwy elfen, er yn wrthgyferbynniol, mor bwysig a'i gilydd iddi. Mae hi wedi bod yn ysgrifennu, recordio a pherfformio cerddoriaeth pop-gwerin gyda Plu ers dros ddegawd. Ond yn y blynyddoedd diwethaf mae bod yn ran o'r grŵp fusion-Lladin, Rio18, wedi bod yn ei chadw'n brysur iawn, ynghŷd â gofalu am ferched beichiog Arfon. Mae cael ei hamgylchynu â gymaint o ysbrydoliaeth, sy'n dod o'r gerddoriaeth o'i chwmpas yn ogystal â phrysurdeb bywyd, yn gwneud iddi awchu i greu cerddoriaeth ei hun. Mae archwilio hyn yn rywbeth cyffrous dros ben.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Yn bennaf, y rhyddid, amser a llonyddwch i archwilio a datblygu syniadau. Mae meddwl am hynny yn fy nghyffroi gymaint. Hefyd, y posibilrwydd o ddod i nabod pobl newydd, creu perthnasau newydd, rhannu syniadau ac o bosib cydweithio.”

Instagram: @elanrhys

Cau
Kayley Roberts

Mae Kayley Roberts (nhw/eu) yn gwnselydd ac yn lenor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Ar ôl cwblhau gradd is-raddedig ac MA mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor, dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth, ac aeth ymlaen i ail-hyfforddi fel cwnselydd ym Mhrifysgol Caer. Mae nhw bellach yn rhedeg gwasanaeth breifat. Yn ddiweddar mae nhw wedi ail-gydio mewn ysgrifennu creadigol, ac hefyd yn y sacsoffon, offeryn roeddynt arfer chwarae pan yn iau. Mae nhw’n gwirfoddoli i glwb ieuenctid LHDTC+ GISDA, ac yn rhan o'r pwyllgor sy'n trefnu Balchder Gogledd Cymru yn flynyddol - nhw yw'r rheolwr adloniant! Yn ogystal â hyn mae nhw’n mwynhau cerdded, nofio gwyllt, darllen, ymuno â chlwb Llyfrau Lliwgar ym Mangor, a mynd i gigs.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf ar Encil Kathod?
“Dwi'n edrych ymlaen i gwrdd â criw bach o grewyr, a rhannu syniadau a gobeithio cael siawns i greu rhywbeth newydd efo'n gilydd. Mae sgwennu a chreu yn medru bod yn beth unig, a dwi'n teimlo'n gryf fod angen creu cymuned cefnogol er mwyn medru dal ati efo prosiectau creadigol. Dwi'n gobeithio cael drafft bras o rywbeth newydd yn ystod yr encil, yn ogystal â chreu cysylltiadau newydd - a gwneud ffrindiau!”

Instagram: @kayleyroberts_

Cau