Dewislen
English
Cysylltwch

Encil Preswyl Kathod: Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Kathod?

Prosiect dielw sy’n datblygu sgiliau menywod yn niwydiant cerddoriaeth Cymru trwy rannu syniadau, cydweithio’n greadigol, a chreu cyfanweithiau celfyddydol yw Kathod.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Kathod.

Beth yw barddoniaeth llafar?

Yn fras – math o farddoniaeth sydd wedi’i greu i’w berfformio ar lafar ac sy’n pwysleisio sain a rhythm iaith. Gall y ffurf hwn gynnwys elfennau o chwedleua, areithio, ymsonau, rap, hip-hop, theatr, a cherddoriaeth.

Os hoffet ddysgu mwy am wreiddiau ac hanes y ffurf, dyma ambell i ffynhonnell all fod o ddiddordeb:

BBC – Spoken Word Explained 

Poetry Foundation Glossary – Spoken Word 

Oes rhaid i mi allu chwarae offeryn i fynychu’r cwrs?

Nac oes! Does dim disgwyl dy fod yn chwarae offeryn, neu o reidrwydd gyda phrofiad cerddorol, os wyt ti’n bennaf yn fardd. Sut bynnag, os wyt ti’n chwarae offeryn ac yn gallu ei drosglwyddo i Dŷ Newydd, mae croeso i ti ddod ag ef i’w chwarae yn ystod yr wythnos.

Am ba fath o brofiad ydych chi'n chwilio?

Mae’r cyfle hwn ar agor i unrhyw fenyw neu unigolyn o ryw ymylol sydd â diddordeb mewn arbrofi gyda barddoniaeth ar lafar a cherddoriaeth. Mae croeso i unigolion sydd heb llawer o brofiad ysgrifennu neu gyfansoddi ymuno, yn ogystal ag unigolion sydd eisoes yn meddu ar brofiad ond sy’n chwilio am gyfle creadigol newydd.

Y gobaith yw dod â grŵp talentog, llawn potensial at ei gilydd o gefndiroedd a lefelau profiad gwahanol a gweld beth yw’r canlyniad.

 

Beth fydd yn digwydd wedi i mi fynegi diddordeb yn y cyfle hwn?

Bydd yr holl ebyst a fideos gyflwynir yn cael eu hystyried gan aelodau presennol Kathod, gyda chefnogaeth staff Llenyddiaeth Cymru.

Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd o’r canlyniad erbyn diwedd mis Ionawr 2024. Byddwn yn dewis hyd at ddeg cyfranogwr llwyddiannus ar gyfer yr encil.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn llwyddiannus?

Byddwn yn darparu rhywfaint o adborth ysgrifenedig i bawb sy’n mynegi diddordeb yn yr encil, a byddwn yn cynghori ar gyfleoedd eraill gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid. Bydd gwahoddiad gwresog i pob ymgeisydd ymwneud â gwaith pellach Kathod yn y dyfodol hefyd.

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth am geisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch llesiant. Rydym yn rhoi ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob e-bost unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.

Beth yw Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd?

Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd y ganolfan yn 1990 ac mae wedi’i leoli yn Llanystumdwy yng Ngwynedd. Ceir rhagor o wybodaeth am y ganolfan ar y wefan.

Oes yna gost ynghlwm â’r cyfle hwn?

Nac oes.

Fel arfer, mae angen talu ffi i fynychu’r rhan fwyaf o gyrsiau Tŷ Newydd, ond mae rhywfaint o’n gweithgarwch mwy strategol yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i unigolion drwy broses ymgeisio.

Oes yna gefnogaeth ariannol ar gael i gyfrannu tuag at gostau teithio?

Oes.

Mae cyfraniad ariannol o hyd at £70 ar gael i bob cyfranogwr.

Bydd gofyn darparu talebau os y byddwch yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu os yn defnyddio car, y raddfa yw 45c y filltir o’ch cartref i Dŷ Newydd hyd at £70.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am deithio i ac o Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, gallwch gysylltu â ni ar e-bost (tynewydd@llenyddiaethcymru.org) neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd).

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Tŷ Newydd.

Pwy all ymgeisio?

Mae’r cynllun hwn yn agored i unrhyw fenyw neu unigolyn o ryw ymylol dros 18 oed a gyda diddordeb arbrofi gyda barddoniaeth ar lafar a cherddoriaeth ac ymwneud gyda gwaith Kathod eto’n y dyfodol. Bydd mwyafrif y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd yn addas i ddysgwyr hyderus yn ogystal â siaradwyr Cymraeg rhugl.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â : Miriam.Sautin@llenyddiaethcymru.org

Nôl i Encil Preswyl Kathod