Dewislen
English
Cysylltwch

Ysgogwyr Creadigol

Mike Parker
Mwy
Melda Lois
Mwy
Gareth Evans-Jones
Mwy
Mike Parker

Mae Mike Parker yn awdur dros ddwsin o lyfrau, gyda’r rhan fwyaf yn naratifau poblogaidd am lefydd, gwleidyddiaeth, hanes a hunaniaeth. Yn eu plith mae Map Addict (Collins, 2009 ac argraffiad newydd 2023) a’i ddilyniant, The Wild Rover (Collins, 2011). Mae ei gyfrol, On The Red Hill (William Heinemann, 2019) yn darlunio tirwedd canolbarth Cymru mewn ffordd dra angerddol, a hynny wrth chwilio am y cwiar gwledig. Enillodd y gyfrol hon Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2020 a daeth yn ail yng Ngwobr Wainwright ar gyfer ysgrifennu natur yn y DU. Mae ei lyfr newydd, All the Wide Border (Harper North, 2023) yn ymateb personol i’r rhwyg rhwng Cymru a Lloegr, fel rhywbeth ar fap ac yn rhan o hanes, ond hefyd fel rhywbeth yn ein pennau ac yn ein calonnau.

Gwefan: www.mikeparker.org.uk

Cau
Melda Lois

Mae Melda Lois yn gerddor/gyfansoddwraig o ardal Llanuwchllyn. Trwy gefnogaeth Cronfa Lansio BBC Gorwelion a Recordiau I KA CHING, rhyddhawyd ei EP cyntaf Symbiosis yn 2024. Mae’r EP yn rhannu enw gyda’i chân olaf a ysgrifennwyd ar encil Llyfrau Lliwgar, ac a gyhoeddwyd yn y flodeugerdd Curiadau. Perfformiodd Lois ei cherddi am y tro cyntaf yn ystod noson ‘Be sy’n odli efo miaw?’ Prosiect Kathod yn Y Babell Lên yn 2022, ac mae mynychu encilion Llyfrau Lliwgar a Kathod yn Nhŷ Newydd wedi bod yn hwb mawr iddi.
Yn ogystal a rhyddhau ei EP, yn 2024 mae Lois wedi cyfrannu at arddangosfa Yr Ysgwrn yn Ysbrydoli, creu fideo a cherddoriaeth i gyd-fynd gyda cherdd Megan Lloyd / Papur ‘Clywa dy lais’ yng nghylchgrawn ripe a chyfrannu at y gyfrol Cymry Balch Ifanc.

Cau
Gareth Evans-Jones

Un o Ynys Môn ydi Gareth Evans-Jones. Mae'n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn awdur. Gareth sefydlodd Llyfrau Lliwgar. Mae Gareth yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau, yn benodol rhyddiaith a drama. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (2019 a 2021), a gwobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023 am ei gyfrol o lên micro a ffotograffau, Cylchu Cymru (Y Lolfa, 2022). Mae wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, un gyfrol i blant, ac wedi golygu cyfrol o straeon byrion newydd, Ar Amrantiad (Sebra, 2024) eleni. Gareth hefyd olygodd Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ (Cyhoeddiadau Barddas, 2023), y gyntaf o'i math yn y Gymraeg.

Cau