Dewislen
English
Cysylltwch

Awduron 2024

Hedd Edwards
Mwy
Iwan Kellet
Mwy
Lis Parsons
Mwy
Lois Gwenllian
Mwy
Lowri Hedd
Mwy
Lowri Morgan
Mwy
Mair Jones
Mwy
Kallum Weyman
Mwy
Menna Siân
Mwy
Sara Huws
Mwy
Steffan Wilson-Jones
Mwy
Hedd Edwards

Mae Hedd Edwards yn fyfyriwr MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth ond sy’n byw gartref yn Chwilog bellach. Ar ôl tair blynedd yn astudio Cymraeg Proffesiynol yn Aberystwyth, fe benderfynodd aros i wneud MPhil Ysgrifennu Creadigol, am ei fod yn mwynhau ysgrifennu yn ei amser rhydd ers iddo fod yn ifanc iawn. Fel rhan o’i bortffolio creadigol mae’n ysgrifennu nofel ffantasi gwiar wreiddiol yn y Gymraeg sy’n gyfuniad o’i hoff genres mewn llenyddiaeth. Wrth fynychu’r encil yma mae’n edrych ymlaen at archwilio ymhellach i sut mae hunaniaethau cwiar a Chymreig yn croesdorri wrth adrodd straeon.

Cau
Iwan Kellet

Un o Fôn ydi Iwan Kellett (fo/ei) ac mae newydd ddychwelyd i’r famynys ar ôl astudio yng Nghaerdydd am bedair mlynedd. Mae ar fin gorffen gradd meistr mewn Gwyddoniaeth Archeolegol ar ôl cael gradd mewn Cemeg. Ymchwilio hanes bro Marian-glas yw un o’i hoff bethau ac mae hoel yr ymchwil hwn yn dangos yn aml yn ei sgwennu. Mae’n mwynhau rhyddid y papur a’r beiro ac yn ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth. Roedd yn falch o gael cyhoeddi cerddi yn Curiadau, Ffosfforws 5 a rhych newydd.

Cau
Lis Parsons

Athro a sgrifenwr ffuglen a ddrama yw Lis Parsons (eu/nhw), person anneuaidd, cwiar a niwro-amrywiol o Abertawe. Ar ôl degawdau o deimlo rhy swil i fod yn ddoniol a gwneud ‘improv’ o flaen cynulleidfa, mae nhw’n datblygu eu hyder efo gweithdai perfformio Queer Tawe.
Eu uchelgais yw gweld mwy o’u storiau’n cael eu perfformio ar lwyfan, neu hyd yn oed yn cael eu ffilmio. Mae’n nhw’n edrych ymlaen at dreulio amser yng Gwynedd, lle’r odden nhw’n byw am bedair blynedd, a datblygu cymeriad a darn unllais ar gyfer Gwyl Queer Tawe ym mis Rhagfyr.

Cau
Lois Gwenllian

Un o Ynys Môn yw Lois (hi/ei) ond mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers symud yno i’r brifysgol yn 2006. Cynhyrchydd cynnwys yw Lois wrth ei gwaith gyda BBC Cymru. Mae ei gwaith o ddydd-i-ddydd yn amrywio o ysgrifennu erthyglau ffeithiol i greu cynnwys fideo byr. Yn ystod y cyfod clo fe gynhyrchodd a golygu ddwy ddrama feicro i BBC Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru. Ers 2016, mae’n ysgrifennu i gylchgrawn Y Selar ac wedi holi rhai o artistiaid mwyaf poblogaidd y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Yn 2023 cafodd ei gwaith ffuglen ei gyhoeddi am y tro cyntaf yng nghyfrol Curiadau (Barddas).

Cau
Lowri Hedd

Mae Lowri Hedd (hi/ei) yn ymarferydd adfywiol o Fôn sy'n gweithio yn Eryri. Mae hi’n angerddol tros wyrdroi ymddygiad a systemau ymraniadol ac echdynnol, adfer cylchoedd bywyd naturiol a cheisio datrysiadau cymdeithasol cyfiawn. Mae hi’n mwynhau cyfuno ei barddoniaeth telynegol a rhethregol gyda ffotograffau, ffilm a cherddoriaeth.
Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi ym mlodeugerdd Y Stamp 2020; ym mhrosiect Triongl, Pontio yn 2021; cylchgrawn digidol Cynfas, Celf ar y Cyd (Amgueddfa Cymru) a phrosiect rhyngwladol Gwrthbwynt, Literature Across Frontiers/Llenyddiaeth dros Ffiniau. Bu Lowri yn fardd y mis, Radio Cymru ym mis Awst 2024.

Yn fam i dri ac yn nain i un, mae’n mwynhau dianc i’r mynydd, i ddŵr oer, i lyfr neu i ddawns pan gaiff gyfle. Mae hi'n Awenydd Urdd Derwyddon Môn, yn wrach, yn aelod balch o Llyfrau Lliwgar Bangor ac wrthi’n magu uchelgais i ysgrifennu nofel.

Cau
Lowri Morgan

Mae Lowri Morgan yn awdur, gwneuthurwr theatr a chyfieithydd o Gaernarfon yng Ngogledd Cymru sy’n byw ar hyn o bryd yng Nghaerdydd gyda’i phartner Miryam a’u cath Eevee. Mae Lowri yn rhan o garfan Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2024/25 a bu’n rhan o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru a Grŵp Dramodwyr Ifanc Cwmni’r Frân Wen. Cynhyrchwyd drama gyntaf Lowri ‘Cuddio’ gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer eu carfan raddedig yn 2021. Ers hynny mae hi hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer yr opera sebon Rownd a Rownd ac ar hyn o bryd mae hi o dan gomisiwn gan Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Mae Lowri hefyd yn gweithio fel Cydymaith Llenyddol yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth cwîar a rhywedd, niwroamrywiaeth a themâu ffeministaidd. Mae gan Lowri hefyd ddiddordeb mawr ym mytholeg Cymru, ffantasi a'r celfyddydau esoterig.

Cau
Mair Jones

Mae Mair Jones (hi/nhw) yn ysgrifennwr ac hanesydd llawrydd o Lanbedr Pont Steffan, sydd hefyd yn rhedeg Queer Welsh Stories/Straeon Cwiar Cymru (@QueerWelshStories ar Instagram a @QueerWelsh ar X). Ar hyn o bryd, mae hi'n olygydd Cymraeg i Poetry Wales a'n trefnu a rhedeg gweithdai LHDTC+ i Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol. Hefyd, mae ei gwaith wedi bod yn Planet, zine rhych newydd ac mewn casgliadau lleol.

Cau
Kallum Weyman

Mae Kallum Weyman (nhw) yn awdur a chyfarwyddwr niwroamrywiol anneuaidd sydd wedi gweithio'n bennaf yn y theatr Gymreig. Mae nhw wedi gweithio gyda Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol, The Sherman a The Other Room.
Yn fwyaf diweddar mae Kallum wedi cyfarwyddo drama queer yn Llanymddyfri fel rhan o’r Heart Of Wales Fringe. Mae Kallum ym gweithio ar wahanol brosiectau ysgrifennu annibynnol o hyn o bryd.

Cau
Menna Siân

Actor a dramodydd o Bontypridd yw Menna Siân (Hi/Ei) Mae Menna yn ysgrifennu ar gyfer y theatr yn bennaf. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar ddrama un fenyw am dyfu i fyny yn y cymoedd yn y 2000au fel merch cwiar, dosbarth gweithiol gyda ADHD.
Ailhyfforddodd Menna fel myfyriwr aeddfed gyda gradd BA mewn Actio o UWTSD ar ôl gyrfa fel cynorthwyydd addysg. Mae Menna hefyd yn gweithio fel tiwtor drama i Dimensions Performance Academy, ac yn rhedeg Clwb Drama Garth Olwg lle mae hi’n ysgrifennu nifer o sioeau gwreiddiol.

Mae’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl greadigol LHDTCA+ eraill ac am gael yr amser, y rhyddid a'r llonyddwch i ddatblygu syniadau, yn ogystal â gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd.

Cau
Sara Huws

Mae Sara Huws yn byw yng Nghaerdydd, ble mae’n gweithio gydag archifau a llyfrau prin - a’n astudio yn Abertawe, ble mae’n ymchwilio PhD ar ymgyrchu ac amgueddfeydd. Rhwng hynny, mae’n teithio ar draws Prydain yn anturio, fel cyd-sefydlydd y fenter Every Body Outdoors, a fel codwraig pwysau gystadleuol.

Mae’n ddarlledydd a cholofnydd profiadol, sydd wedi cyfrannu at Golwg, y Guardian, The Great Outdoors, BBC Radio 4 a BBC Radio Cymru - yn gyflwynydd Waliau’n Siarad i S4C, a’n westai rheolaidd ar bodcastau, fel Kicking Back with the Cardiffians gyda Charlotte Church, ac Esgusodwch Fi? Fel cyd-sefydlydd yr East End Women’s Museum, mae wedi cynghori Llywodraeth Cymru a swyddfa Maer Llundain ar gynrychiolaeth menywod mewn celf gyhoeddus.

Cau
Steffan Wilson-Jones

Mae Steffan Wilson-Jones (fo/ei) yn gweithio fel Cynhyrchydd Cynorthwyol i Theatr Genedlaethol Cymru. Ers graddio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn gradd MA Cyfarwyddo yn 2021, mae wedi byw yn ei filltir sgwâr yn Rhuthun ac am gyfnod yn Manceinion, lle bu’n astudio Ysgrifennu Creadigol. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn mwynhau ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhedeg, chwarae’r piano, canu mewn côr, a chyfansoddi yn ei amser rhydd, yn ogystal a’i waith cynhyrchu ym myd theatr Cymru. Mae’n gweithio ar nofel a sioe gerdd ar hyn o bryd.

Insta - @steffanwilsonjones / @steff.wilson.music

Cau