Mae Llyfrau Lliwgar yn glwb llyfrau cynhwysol, diogel a chyfeillgar LHDTC+ a sefydlwyd ym Mangor ym mis Medi 2021, ac a ddatblygodd gangen yng Nghaerdydd ym mis Medi 2022. Mae criw Bangor a chriw Caerdydd yn cyfarfod unwaith bob mis i drafod gwahanol destunau gan awduron LHDTC+ neu sydd yn cynnwys cynrychiolaeth gwiyr.
Ynghyd â chyfarfodydd misol, mae’r clwb llyfrau yn cynnal nosweithiau cymdeithasol, o deithiau i’r sinema, i baneidiau mewn caffi, i gwis tafarn a phartïon Dolig. Ac mae’n gyson yn rhan o nifer o ddigwyddiadau Balchder, gan gynnwys Balchder Gogledd Cymru a Pride Cymru.
E-bost: llyfraulliwgar@gmail.com
Instagram: llyfraulliwgar
Facebook: Llyfrau Lliwgar
Ffeithiol greadigol yn bennaf dan ofal Mike, ond bydd gweithdy barddoniaeth a geiriau caneuon gan Melda Lois yn cynnig mewnwelediad i genre cwbl wahanol. Mae Gareth Evans-Jones wedi cyhoeddi mewn sawl maes gwahanol. Felly yn fras: byddwn yn arbrofi â sawl genre, ac mae’r gwahoddiad i ymuno â’r encil yn mynd i awduron sydd hefyd yn arbrofi mewn amrediad eang o genres.
Mae croeso i unigolion sydd heb llawer o brofiad ysgrifennu ymuno, yn ogystal ag unigolion sydd eisoes yn meddu ar brofiad ond sy’n chwilio am gyfle creadigol newydd.
Y gobaith yw dod â grŵp talentog, llawn potensial, ac o gefndiroedd a lefelau profiad gwahanol at ei gilydd a gweld beth yw’r canlyniad.
Bydd yr holl geisiadau a gyflwynir yn cael eu hystyried gan gynrychiolwyr o Llyfrau Lliwgar, gyda chefnogaeth staff Llenyddiaeth Cymru.
Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd o’r canlyniad erbyn canol Hydref 2024. Byddwn yn dewis hyd at 14 cyfranogwr llwyddiannus i gymryd rhan yn yr encil.
Efallai y bydd raid i ni flaenoriaethu awduron sydd heb gael cyfle ar encil, cwrs rhad ac am ddim, neu raglen ddatblygu awduron gan Llenyddiaeth Cymru o’r blaen.
Byddwn yn darparu rhywfaint o adborth ysgrifenedig i bawb sy’n mynegi diddordeb yn yr encil, a byddwn yn cynghori ar gyfleoedd eraill gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid perthnasol. Bydd gwahoddiad gwresog i pob ymgeisydd ymwneud â gwaith pellach Llyfrau Lliwgar yn y dyfodol hefyd.
Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth am geisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch llesiant. Rydym yn rhoi ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob e-bost unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.
Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd y ganolfan yn 1990 ac mae wedi’i leoli yn Llanystumdwy yng Ngwynedd. Ceir rhagor o wybodaeth am y ganolfan ar y wefan.
Byddwn yn darparu cyfarwyddiadau i’r awduron llwyddiannus o flaen llaw. Gallwch ddal trên i Fangor (ac yna tacsi i Dŷ Newydd), neu i Gricieth. Mae bysus hefyd yn pasio drwy’n pentref – Llanystumdwy. Byddwn hefyd yn annog y rheiny fydd yn gyrru i rannu lifftiau lle bo’n bosib. Os yw’r gost o deithio i Dŷ Newydd yn peri trafferthion i chi, mae croeso i chi gysylltu i drafod cyfraniad tuag at y costau yma (trên, bws neu yrru). Gallwch gysylltu â ni ar e-bost (post@llenyddiaethcymru.org ) neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd).
Mae llety cyffyrddus a phrydau bwyd yn gynwysedig yn y cyfle hwn. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer unigolion ag anghenion diet arbennig – rhowch wybod i ni o flaen llaw.
Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod unrhyw fater sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi wneud cais am y cyfle hwn.
Gallwch gysylltu â ni ar e-bost ( post@llenyddiaethcymru.org ) neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd).
I ddarllen am hygyrchedd Tŷ Newydd ewch draw i’n gwefan. Gallwch hefyd wylio taith o amgylch Tŷ Newydd yma.
Byddwn yn croesawu pawb o 3.00 pm ar brynhawn Gwener 8 Tachwedd, a bydd y cwrs yn dod i ben ar ôl cinio am 3.00 pm brynhawn Sul 10 Tachwedd 2024.
Nac oes.
Mae’r cynllun hwn yn agored i unrhyw unigolion LHTDC+, dros 18 oed ac sydd â diddordeb mewn ysgrifennu creadigol. Bydd mwyafrif y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd yn addas i ddysgwyr hyderus yn ogystal â siaradwyr Cymraeg rhugl.
Am fwy o wybodaeth, neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: post@llenyddiaethcymru.org