Cyfranogwyr: Merched mewn peryg/sydd wedi goroesi trais yn y cartref
Artist: Mel Perry a Maya Waldman
Lleoliad: Caerfyrddin
Gwybodaeth bellach: Cyfres o chwe gweithdy ysgrifennu creadigol yng Nghaerfyrddin i ferched sydd wedi goroesi trais yn y cartref, gyda’r awdur Mel Perry, write4word. Bydd y ffocws ar gael y cyfranogwyr i fynegi eu hunain drwy farddoniaeth a chân er mwyn annog cymhathiad gyda’r gymuned ehangach, hunanhyder a datblygiad personol. Bydd pamffledyn a pherfformiad i ddathlu gwaith y merched ar ddiwedd y prosiect.
Gwybodaeth am Mel Perry: Mae Mel yn awdur ac ymarferydd creadigol o Lansteffan. Mae hi’n gyd-gyfarwyddwr write4word ac yn cyd-redeg prosiect ysgrifennu i bobl ifanc yn Sweden, Kultivera. Mae Mel yn astudio ar gyfer MSc mewn Ysgrifennu Creadigol at Ddiben Therapiwtig ac yn teimlo’n gryf fod gan farddoniaeth rôl wrth hunan-fyfyrio, gwella a datblygu.