Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfranogwyr: Pobl dros 60 oed

Artistiaid sy’n arwain: Gwion Hallam a Cai Tomos

Lleoliad: Galeri, Caernarfon

 

Gwybodaeth bellach: “Nid o’r pen y mae cerddi’n dod, ond o’r esgyrn – o’r corff. O rythmau a symudiadau ein byw.”  Mae ‘Geiriau’n dawnsio: Cerddi’r corff’ yn gywaith rhwng y bardd Gwion Hallam a’r dawnsiwr Cai Tomos. Bydd y ddau yn arwain cyfres o weithdai dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Galeri, Caernarfon, gan weithio â Cain, grŵp dawns i rai dros 60 oed. Byddant yn creu arddangosfa ddawns unigryw ynghyd â phamffledyn barddoniaeth, lle bydd y farddoniaeth a symudiadau’r corff yn ysbrydoli’r naill a’r llall. Mae’r prosiect mewn partneriaeth â Galeri, Caernarfon lle caiff digwyddiad ei gynnal ar 20 Mai.

Ynglŷn â Gwion Hallam: Fel bardd mae Gwion wedi cyhoeddi cyfrolau i blant a cherddi i oedolion. Mae wedi cystadlu mewn sawl stomp a thalwrn dros y blynyddoedd a chynnal gweithdai barddoni lu gydag oedolion a phlant. Yn ddiweddar fe enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am y bryddest ‘Trwy Ddrych’, cerdd hir wedi ei hysbrydoli gan gyfnod yn barddoni gyda phobl yn byw hefo dementia fel rhan o brosiect a drefnwyd gan Llenyddiaeth Cymru.

Ynglŷn â Cai Tomos: Mae Cai Tomos yn artist symud, coreograffydd a seicotherapydd celf integreiddiol, sydd hefyd yn artist cyswllt yn Galeri. Wedi’i ysbrydoli gan ei amser yng Nghaliffornia gyda’r arloeswr dawns ôl-fodern, Anna Halprin, mae Cai wedi bod yn archwilio ac yn datblygu arfer gyda phobl dros 60 oed yn Galeri ers 2011.

Geiriau'n dawnsio: Cerddi'r Corff | Words Dancing: Singing Bones

Geiriau'n dawnsio: Cerddi'r CorffProsiect arbennig a newydd yn cyfuno barddoni a symud gyda'r bardd Gwion Hallam a'r coreograffydd Cai Tomos./Words Dancing: Singing BonesA fantastic new project combining poetry and movement with poet Gwion Hallam and choreographer Cai Tomos.

Posted by Llenyddiaeth Cymru / Literature Wales on Thursday, 27 September 2018

Llyfryn Cerddi'r Corff

Llyfryn Cerddi'r Corff
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 4170KB
Nôl i Cynllun Nawdd Llên er Lles 2018