Cyfranogwyr: Pobl sy’n gwella yn dilyn problemau camddefnyddio sylweddau
Artist sy’n arwain: Christina Thatcher
Lleoliad: Solas Cymru (Pobl Group), Caerdydd a Little Man Coffee Company, Caerdydd
Gwybodaeth bellach: Bu y bardd a’r arweinydd gweithdai Christina Thatcher yn cynnal chwe gweithdy ysgrifennu creadigol yng Nghaerdydd i bobl sy’n gwella yn dilyn problemau camddefnyddio sylweddau. Roedd y gweithdai’n dilyn amcanion Footsteps to Recovery i gynorthwyo rhai sy’n adfer i ail-ymdoddi i fyd gwaith a’r gymdeithas a chanolbwyntio ar ddysgu crefft, datblygu llythrennedd, gwella hyder a datblygu sgiliau dadansoddi ac ysgrifennu, yn ogystal â gweithio tuag at ddigwyddiad yn Little Man Coffee Company, lle gwahoddwyd cyfranogwyr i ddarllen ac arddangos eu gwaith i’r gymuned ehangach.
Gwybodaeth am Christina Thatcher: Mae Christina’n athrawes rhan amser ac yn astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, ble mae hi’n edrych ar sut y gall ysgrifennu creadigol effeithio bywydau pobl sydd wedi dioddef colled yn sgil dibyniaeth. Mae Christina yn cadw’n brysur hefyd gyda’i gwaith fel golygydd barddoniaeth cylchgrawn llenyddol y Brifysgol, The Cardiff Review, ac fel arweinydd gweithdai a threfnydd gwyliau ar ei liwt ei hun.
Mae ei barddoniaeth a’i straeon byrion wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys The London Magazine, Planet Magazine, The Interpreter’s House a mwy.
Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf, More than you were, a gyhoeddwyd gan Parthian Books yn 2017, restr fer Cystadleuaeth Bare Fiction 2015 ar gyfer Casgliad Barddoniaeth Cyntaf.