Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfranogwyr: Carcharorion sy’n siarad Cymraeg yng Ngharchar y Berwyn, Wrecsam

Artist: Sian Northey

Lleoliad: Wrecsam

Gwybodaeth bellach: Cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gyda charcharorion sy’n siarad Cymraeg yng Ngharchar y Berwyn, Wrecsam. Bydd y cyfranogwyr yn arbrofi gyda’u lleisiau creadigol gyda’r awdur Sian Northey.

Ynglŷn â Sian Northey: Magwyd yr awdur a’r bardd Sian Northey yn Nhrawsfynydd ac y mae hi bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf o gerddi, Trwy Ddyddiau Gwydr (Gwasg Carreg Gwalch) ar Restr Rer Llyfr y Flwyddyn yn 2013. Y mae Sian hefyd wedi cyhoeddi sawl llyfr i blant. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Yn y Tŷ Hwn (Gomer) yn 2011. Rhyd y Gro (Gomer, 2016) yw ei hail nofel i oedolion. Y mae newydd gwblhau Doethuriaeth Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, dewiswyd hi ar gyfer cynllun Awduron Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn 2016 ac y mae wedi bod yn India yn ddiweddar gyda chynllun Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.

 

Nôl i Cynllun Nawdd Llên er Lles 2018