Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfranogwyr: LGBT+ 18+

Artistiaid sy’n arwain: Helen Sandler a Karen Gemma Brewer

Lleoliad: Aberystwyth a Chaerfyrddin

Gwybodaeth bellach: Gweithdai ysgrifennu creadigol gyda phobl LGBT+ yn Aberystwyth gyda Helen Sandler ac yng Nhaerfyrddin gyda Karen Gemma Brewer. Bydd y gweithdai yn archwilio lleisiau’r gymuned LGBT mewn awyrgylch ddiogel, a datblygu mynegiant creadigol, cynyddu hunanhyder a hunanwerth, a chynyddu eu cysylltiad â’r gymuned ehangach.

Gwybodaeth am Karen Gemma Brewer: Mae Karen Gemma Brewer yn fardd llwyddiannus, perfformwraig a storïwraig o ddyffryn Grannell, rhwng Llanybydder ac Aberaeron, ble mae hi’n byw ar fferm ynysig. Y mae o linach glowyr a ffermwyr, ac mae ei gwaith creadigol yn cyfuno emosiwn a chyffredinedd gydag ymdeimlad cryf o’r absẃrd. Mae Karen wedi perfformio mewn gwyliau cerddorol, theatrau, tafarnau, clybiau, colegau, ysgolion, siopau ac ar y stryd.

Dywedodd Karen: “Rwy’n angerddol am eiriau a’r defnydd creadigol ac rwy’n ymwybodol iawn y gall celfyddydau llenyddol chwarae rhan allweddol wrth ddatblygiad, mynegiant a dealltwriaeth o hunaniaeth a chymuned. Y pynciau amlycaf sy’n poeni unigolion trawsrywiol a rhai sy’n trawswisgo yng nghanolbarth Cymru, yw unigedd, camddealltwriaeth, anallu rhwystredig i fynegi eu teimladau a’r farn nad yw eu stori yn cael ei adrodd wrth eraill.”

Gwybodaeth am Helen Sandler: Awdur a golygydd sy’n byw yn ardal Machynlleth yw Helen Sandler. Y mae wedi cyhoeddi dwy nofel, Big Deal a The Touch Typist, ac wedi golygu casgliadau o straeon byrion gan lesbiaid i Diva, a enillodd Wobrau Lambda. Y mae’n cydweithio gyda ffrindiau i greu rhaglen ac arwain nosweithiau ‘Aberration’, y nosweithiau celfyddydol LGBT yn Aberystwyth. Mae Helen wedi rhedeg prosiectau ysgrifennu yn Lerpwl a Llundain ac mae hi’n edrych ymlaen at rannu ei brwdfrydedd gyda grŵp newydd yng nghanolbarth Cymru.

Dywedodd Helen: “Fel un o drefnwyr Aberration yn Aberystwyth, rwy’n gwybod fod llawer o bobl LGBTQI  yn yr ardal sy’n mwynhau clywed ac adrodd straeon. Rwy wrth fy modd fod y grant yma gan Lenyddiaeth Cymru yn fy ngalluogi i gynnal prosiect ysgrifennu creadigol ble gall pobl lunio straeon a cherddi am eu bywydau nhw – a straeon o’u dychymyg gwyllt, queer!”

Nôl i Cynllun Nawdd Llên er Lles 2018