Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfranogwyr: Pobl ddigartref a rhai mewn peryg o gael eu cau allan gan gymdeithas (Street Football Swansea (SFS) a Gwalia)

Artist sy’n arwain: Frank Thomas

Lleoliad: Abertawe a Chasnewydd

 

Gwybodaeth bellach: Cyflwynodd y bardd Frank Thomas gyfres o weithdai Perfformio Barddoniaeth (spoken word) gydag unigolion sydd wedi profi digartrefedd neu sydd mewn peryg o gael eu cau allan gan gymdeithas yn ardaloedd Abertawe a Chasnewydd. Cynhaliwyd y prosiect mewn cydweithrediad â Street Football Swansea(SFS) a Gwalia. Cynhaliwyd digwyddiad ar ddiwedd y prosiect i ddathlu cyflawniadau’r cyfranogwyr.

Gwybodaeth am Frank Thomas: Mae Frank Thomas yn fardd a pherfformiwr barddoniaeth “gwalltog, barfog a braidd yn flêr” o dde Cymru, sydd ddim yn edrych fel petai’n gallu “swyno cynulleidfaoedd gyda’i fwydro carismataidd”. Y mae hefyd yn gwneud gwrth-fenwm nadroedd i dalu’r biliau (mewn labordy fferyllol, nid yn ei gegin).

Nôl i Cynllun Nawdd Llên er Lles 2018