Dewislen
English
Cysylltwch

Ers 2023 mae’r artist a’r gweithiwr creadigol Iola Ynyr wedi bod yn cynnal cyfres o weithdai dan y teitl Gwledda yng nghymuned Rhosgadfan. Nod y prosiect yw cynyddu hunan-werth y cyfranogwyr, cynyddu hyder i gymryd risgiau creadigol, a hyrwyddo llesiant sydd wedi ei wreiddio yn y tir.

Mae Iola wedi bod yn cyflawni’r nodau hyn drwy gynnig gweithgareddau â phartneriaid lleol. O fewn chwe mis cyntaf Gwledda, plannodd Ysgol Rhosgadfan dros 20 o goed ar dir yr ysgol gyda Ymddiriedolaethau Natur Gogledd Cymru. Dysgodd y cyfranogwyr am y gylchred carbon gyda GwyrddNi ac ysgrifennu barddoniaeth mewn ymateb, a cafwyd eu rhannu mewn digwyddiad Gwledda ym mis Mawrth 2023.

 

Fel rhan o’r prosiect, mae’r ymarferwyr creadigol yn derbyn mentora i’w cynorthwyo â datblygu eu prosiectau. Disgrifiodd clare e potter, mentor Iola y profiad:

“Creu gofodau diogel er mwyn i bobl fod yn greadigol fregus ac yna datblygu nerth a defnyddio’r creadigrwydd fel grym a llais i wahodd eraill i mewn. Mae’n ddemocrataidd ac yn radical!”

Mae Iola yn parhau i gynnal y sesiynau yng Nghae’r Gors (cyn-dŷ’r nofelydd Kate Roberts) gyda grwp aml genhedlaeth ac mae’n croesawu dysgwyr Cymraeg. Gyda’u gilydd byddent yn adeiladu tai pryfaid, mynd ar deithiau cymunedol, ac ystyried y cyswllt rhwng yr iaith Gymraeg a’r tir.

Mae modd dysgu mwy am brofiadau Iola drwy ddarllen ei blog a gyhoeddwyd ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

I’r rheiny sydd yn ystyried gweithio â cymunedau ar thema’r Argyfwng Natur a Hinsawdd, mae modd darllen adnodd Iola ar ddatblygu a rhedeg prosiectau cymunedol ar yr argyfwng natur a hinsawdd.

Caiff y prosiect hwn ei gefnogi’n lleol gan GwyrddNiYsgol Rhosgadfan a Ymddiriedolaethau Natur Gogledd Cymru, ac yn genedlaethol gan Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru.

Photo credits: Lindsay Walker Photography

Nôl i Llên mewn Lle