Dewislen
English
Cysylltwch

Mae The LUMIN Syllabus ar y groesffordd rhwng curadu, cydweithio ac ymgynnull. Wedi’i sefydlu gan Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse, mae LUMIN yn cynnig gofod i ystyried iaith, print, radio, addysgeg a lle. Maent yn cyhoeddi’r LUMIN Journal, sy’n cynnig lle ar gyfer ysgrifennu a chelf gwrth-drefedigaethol ac arbrofol; yn darlledu fel Local 37 o bryd i’w gilydd; ac maent yn ymgymryd â chyfnodau preswyl, ymchwil a phrosiectau hirdymor eraill.

Nod The LUMIN Syllabus yw archwilio’r cysylltiadau â’r argyfwng hinsawdd a natur a gwladychiaeth. Bydd y Lumin Syllabus yn cefnogi pobl o liw a’r rheini o gefndir incwm isel yn ardal Abertawe i greu a chyhoeddi ymatebion i’r argyfwng hinsawdd a natur o’r gorffennol, y presennol, a’r dyfodol. Bydd gweithdai yn cael eu cynnal mewn gerddi cymunedol, caffis, ac orielau lleol. Bydd y cyfranogwyr yn arwain y gwaith o lunio datrysiadau ar lefel leol.

Wrth drafod y prosiect, dywedodd Sadia Pineda Hameed:

Quote: ‘Nod y prosiect hwn yw galluogi mwy o fynediad a hawl i lenyddiaeth, i ofod cyhoeddus, ac i’r drafodaeth am gyfiawnder hinsawdd. Nid yw grymuso yn ymwneud â mynediad breintiedig i ganolfan ddiwylliannol, sefydliad neu gwrs ond yn hytrach deall potensial democrataidd llenyddiaeth o fewn amgylchedd lleol.’

Cefnogir y prosiect hwn yn lleol gan Ffyrdd o Weithio ac yn genedlaethol gan Llenyddiaeth Cymru a WWF.

Nôl i Llên mewn Lle