Dewislen
English
Cysylltwch
Meleri Davies
Cymru
Mwy
Hywel Griffiths
Cymru
Mwy
Elinor Gwynn
Cymru
Mwy
Mererid Hopwood
Cymru
Mwy
clare e. potter
Cymru
Mwy
Gianna Olinda Cadonau
Aelod EUNIC (Y Swistir)
Mwy
Pol Guasch
Aelod EUNIC (Catalonia, Sbaen)
Mwy
Kristin Höller
Aelod EUNIC (Yr Almaen)
Mwy
Maarja Pärtna
Aelod EUNIC (Estonia)
Mwy
Tina Perić
Aelod EUNIC (Slofenia)
Mwy
Ligija Purinaša
Aelod EUNIC (Latfia)
Mwy
Mónika Rusvai
Aelod EUNIC (Hwngari)
Mwy
Kim Simonsen
Aelod EUNIC (Ynysoedd Ffaröe)
Mwy
Syds Wiersma
Aelod EUNIC (Ffrisia, Yr Iseldiroedd)
Mwy
Meleri Davies
Cymru

Bardd a datblygwr cymunedol o Ddyffryn Ogwen yw Meleri Davies. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Rhuo ei distawrwydd hi (Cyhoeddiadau Stamp) ym mis Tachwedd 2024. Mae ei barddoniaeth wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau fel Poetry Wales a Ffosfforws, ac enillodd y Gadair yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen a chystadleuaeth Llên Micro yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Am ddegawd, bu Meleri yn Brif Weithredwr Partneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol yn Nyffryn Ogwen. Mae hi’n parhau i fod yn rhan weithredol o fentrau ynni cymunedol fel cyfarwyddwr gwirfoddol gydag Ynni Ogwen ac Ynni Cymunedol Cymru. Yn 2019, derbyniodd gydnabyddiaeth cenedlaethol am adfywio amgylcheddol, gan ennill gwobrau Pencampwr Cynaliadwyedd Cynnal Cymru ac Arloeswr Gwobrau Green Energy Regen.

Caiff ei gwaith creadigol ei ysbrydoli gan ei magwraeth, ei theulu, a’r gymuned lle mae’n byw ac yn magu ei theulu.

Cau
Hywel Griffiths
Cymru

Mae Hywel Griffiths yn fardd, daearyddwr, ac awdur sy’n gweithio fel Darllenydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi cyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth, gyda’i ddiweddaraf – Y Traeth O Dan y Stryd – yn cyrraedd rhestr fer Categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Mae Hywel wedi ennill sawl gwobr lenyddol gan gynnwys Coron Eisteddfod Genedlaethol 2008 a’r Gadair yn 2015.

Mae tirwedd a pherthynas pobl â lle yn themâu canolog yn ei waith. Mae gan Hywel ddiddordeb arbennig mewn dulliau cydweithredol, gan ymgysylltu â gwyddonwyr, awduron ac artistiaid i archwilio heriau amgylcheddol cyfoes.

Cau
Elinor Gwynn
Cymru

Mae Elinor Gwynn yn amgylcheddwraig sy’n mwynhau ysgrifennu. Mae ei gyrfa yn cyfuno’n gywrain sawl diddordeb ac arbenigedd yn cynnwys cadwraeth natur, rheoli treftadaeth tirwedd, a phrosiectau creadigol. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau amrywiol gan gynnwys Earth Heritage, Natur Cymru, Planet, Y Naturiaethwr, Golwg, Barn, O'r Pedwar Gwynt, a Bwletin Enwau Lleoedd Cymru.

Mae Elinor wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill gwobrau am erthyglau gwyddonol ac amgylcheddol, a barddoniaeth, gan gynnwys Y Goron yn 2016. Fe enillodd wobr gomisiwn hefyd i ysgrifennu llyfr cerdded Cymraeg a chwaraeodd ran allweddol yn y prosiect ‘Living Language Land’ a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig fel rhan o weithgaredd COP26, gan archwilio’r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a dealltwriaeth amgylcheddol.

Fel hwylusydd dwyieithog, mae Elinor yn cyflwyno’n gyson ar themâu amgylcheddol a diwylliannol. Ymhlith ei anerchiadau diweddar mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2023 a Gŵyl Bro’r Preseli yn 2024. Mae ei gwaith yn parhau i archwilio’r croestoriad rhwng yr amgylchedd, iaith, a diwylliant trwy brosiectau amrywiol sydd yn aml yn cynnwys cydweithio ag artistiaid eraill.

Cau
Mererid Hopwood
Cymru

Mererid Hopwood (Cymru)

Mae Mererid Hopwood yn Athro Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn ymroddedig i ddysgu ieithoedd a llenyddiaeth i bobl o bob oed. Hi yw’r Archdderwydd cyfredol ac Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.

Enillodd sawl gwobr gan gynnwys Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015, Medal Glyndŵr am gyfraniad llenyddol a Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli.

Mae ei gwaith yn rhychwantu barddoniaeth, llenyddiaeth plant, cyfieithu rhyngwladol, a’r celfyddydau cydweithredol, gan ymgysylltu â cherddorion, artistiaid gweledol, dramodwyr, actorion a dawnswyr.

Yn angerddol dros amrywiaeth ieithyddol, mae Mererid yn eiriol dros gadw a datblygu amrywiaeth ieithyddol y byd a thros ddeall y cysylltiad dwys rhwng iaith a’r amgylchfyd naturiol.

Cau
clare e. potter
Cymru

Mae clare e. potter yn fardd, cyflwynydd radio, ac ymarferydd celfyddydol, a astudiodd ac a addysgodd yn New Orleans. Wedi'i hysgogi gan y gred y gall barddoniaeth fod yn rym ar gyfer newid personol a chymdeithasol, mae hi'n hwyluso prosiectau creadigol gyda grwpiau cymunedol. Mae clare wedi derbyn dwy ysgoloriaeth awdur gan Llenyddiaeth Cymru, mae wedi derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer prosiectau, ac enillodd Wobr Barddoniaeth Jerwood y RSL dros Gymru yn 2024.

Mae llwyddiannau amrywiol clare potter yn cynnwys cyfieithu ar gyfer Ifor ap Glyn Bardd Cenedlaethol Cymru (2016-22), cael ei derbyn ar garfan Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, a chyfarwyddo rhaglen ddogfen gan y BBC a ysbrydolodd weithredu cymunedol. Mae ei gwobrau hefyd yn cynnwys derbyn cyllid ar gyfer prosiect barddoniaeth/jazz yn ymateb i drawma yn sgil Corwynt Katrina.

Yn dynn ar sawdl cyhoeddi ei chasgliad barddoniaeth diweddar Healing the Pack, bydd ei phamffled Cymraeg Nôl Iaith yn cael ei gyhoeddi eleni gan barhau â'i hymrwymiad i waith llenyddol arloesol a chymdeithasol.

Cau
Gianna Olinda Cadonau
Aelod EUNIC (Y Swistir)

Mae Gianna Olinda Cadonau yn awdur amlieithog sy'n creu barddoniaeth a rhyddiaith yn yr iaith Romansh ac Almaeneg. Mae ei chasgliadau barddoniaeth Ultim'ura da la not / Letzte Stunde dêr Nacht (2016) a Pajais in uondas / wiegendes Land (2020) yn ymdriniaethau cynnil o themâu yn cynnwys tirwedd, newidiadau cymdeithasol, a phrofiadau personol. Mae ei nofel gyntaf Feuerlilie (2023) yn ymchwilio ymhellach i themâu o berthyn, unigedd, a newid.

Fel pennaeth adran ddiwylliannol Lia Rumantscha, mae Gianna yn hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Romansh. Wedi'i mabwysiadu o India ac yn byw yn rhanbarth Engadine, mae hi'n dod â phersbectif unigryw i lenyddiaeth Romansh, gan fynd i'r afael â themâu cartref, mudo, a hunaniaeth ddiwylliannol. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu nofel newydd ac yn cyd-ysgrifennu drama theatr, gan barhau â’i chenhadaeth i ddod â diwylliant Romansh i gynulleidfaoedd ehangach.

Noddir ymweliad Gianna Olinda Cadonau â Chymru gan Lysgenhadaeth Y Swistir yn y DU.

Cau
Pol Guasch
Aelod EUNIC (Catalonia, Sbaen)

Mae Pol Guasch yn awdur sy’n brysur ennill ei blwy a mae ei waith gwreiddiol yn y Gatalaneg wedi'i gyfieithu i ddeg iaith. Mae ei nofel ddiweddaraf, Ofert a les mans, el paradís crema (2024), yn archwilio trychineb newid hinsawdd trwy naratif o dân a goroesiad, tra bod ei waith blaenorol Napalm al côr wedi'i gydnabod yn rhyngwladol fel alegori dwfn o ormes ieithyddol a diwylliannol. Fel derbynnydd ieuengaf Gwobr Anagrama am Lyfrau Mewn Catalaneg, mae Pol yn adrodd straeon sy’n aml yn ymdriniaeth beirniadol o faterion cyfoes megis cwymp hinsawdd, trais, a gormes diwylliannol.

Eisoes wedi ei addasu ar gyfer theatr, mae gwaith Pol Guasch yn cael ei ddatblygu ar gyfer ffilm ar hyn o bryd. Mae ei gampau llenyddol wedi ennill cydnabyddiaeth yn rhyngwladol, gan gymryd rhan mewn preswyliadau uchel eu parch yn cynnwys gyda Sefydliad Santa Maddalena ac Art Omi Ledig House. Ei nod yw pontio’r rhaniadau rhwng cenedlaethau, gan greu llenyddiaeth sy’n siarad â chynulleidfaoedd iau wrth herio safbwyntiau byd-eang ar argyfyngau cyfoes a sefydlu ei hun fel llais blaenllaw ym myd llenyddiaeth gyfoes Gatalaneg a Sbaeneg.

Noddir ymweliad Pol Guasch â Chymru gan yr Instituto Cervantes.

Cau
Kristin Höller
Aelod EUNIC (Yr Almaen)

Mae Kristin Höller yn awdur sydd â phortffolio llenyddol amrywiol, gan gynnwys dwy nofel a gyhoeddwyd gan Suhrkamp: Schöner als überall (Prydferthach nag Unrhyw Le) yn 2019 a Leute von früher (Pobl o'r Gorffennol) yn 2024. Mae hi hefyd yn ysgrifennu dramâu radio ar gyfer darlledwyr cyhoeddus ac mae ganddi ddrama theatr nodedig, Ein Wahnsinn was Menschen einander (Mae’n wallgof beth mae pobl yn ei wneud i’w gilydd), a ddangoswyd am y tro cyntaf yn y Schauspielhaus Leipzig yn 2021. Mae ei gwaith presennol yn archwilio themâu anghydraddoldeb ariannol mewn cyfeillgarwch, atgofion, a'r berthynas rhwng cynllunio gerddi a'r awydd dynol i ddofi natur.

Ers hydref 2024, mae Kristin wedi bod yn ddarlithydd yn Sefydliad Llenyddiaeth Leipzig, lle mae’n addysgu gweithdy ar Ysgrifennu Golygfeydd. Mae ei phrosiect drama radio presennol Wölfe (Bleiddiaid) yn adrodd hanes brwydr pentref anghysbell gyda byd natur, gan barhau â'i harchwiliad o’r berthynas gymhleth rhwng dyn a’r amgylchedd.

Noddir ymweliad Kristin Höller â Chymru gan y Goethe-Institut yn Llundain.

Cau
Maarja Pärtna
Aelod EUNIC (Estonia)

Mae Maarja Pärtna yn fardd, awdur ysgrifau a chyfieithydd medrus o Estonia. Mae ei thrioleg barddoniaeth ddiweddar - Vivarium (2019), The Living City (2022), ac On the Edge of Uprising (2024) - yn archwilio'n feirniadol profiadau personol o’r amgylchedd ynghyd â'r argyfwng hinsawdd yn ehangach. Wedi ei magu yng ngogledd-ddwyrain Estonia, rhanbarth a drawsnewidiwyd yn ddramatig gan brosesau diwydiannol, mae gwaith Maarja yn archwilio themâu trawma cyfunol, natur drefol, a dinistr ecolegol dan law systemau cyfalafol.

Bu iddi dderbyn cydnabyddiaeth gwobrau mawreddog am ei gwaith gan gynnwys Gwobr Farddoniaeth Gustav Suits a Gwobr Farddoniaeth Juhan Liiv. Mae Maarja Pärtna yn aelod o Undeb Ysgrifenwyr Estonia ac fe wasanaethodd fel Awdur Preswyl Dinas Tartu yn 2024. Mae ganddi radd meistr mewn llenyddiaeth y byd o Brifysgol Tartu ac mae ei chyfraniad llenyddol yn teithio yn bellach drwy gyfrwng ei gwaith cyfieithu, gan gynnwys ysgrifau gan awduron nodedig fel Margaret Atwood a Robert Macfarlane.

Noddir ymweliad Maarja Pärtna â Chymru gan Lysgenhadaeth Estonia yn Llundain.

Cau
Tina Perić
Aelod EUNIC (Slofenia)

Mae Tina Perić yn llais amlwg pan mae’n dod at lenyddiaeth gyfoes Slofenia. Mae ei gwaith yn rhychwantu gwahanol agweddau ar y celfyddydau a diwylliant. Yn 2024, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf Ćrtice, a enillodd y wobr am Lyfr Cyntaf Gorau’r Flwyddyn. Mae ei chasgliad o straeon yn cynnig golwg gynnil ar fywyd bob dydd, wedi’u cydblethu â myfyrdodau ar faterion cymdeithasol a phersonol. Yn adnabyddus am ei harddull sy’n cymell atgofion, mae’n archwilio themâu hunaniaeth, iaith, a chymhlethdodau bodoli yn y byd modern sydd ohoni, gan ymweld â naratifau sy’n ymwneud â’r cof unigol tra hefyd yn ymdrin â naratifau diwylliannol mwy eang.

Gyda gradd mewn ieithoedd De Slafaidd a Chymdeithaseg Diwylliant, mae Tina Perić yn gyfieithydd ac yn un o sylfaenwyr y Soglasnik Language Cooperative. Mae hi wedi ysgrifennu geiriau i ganeuon ac wedi canu yn y band electro-pync Ludovik Material, sydd wedi rhyddhau dwy albwm ac wedi teithio Ewrop. Ei nod yw parhau i archwilio ffurfiau llenyddol newydd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd byd-eang, gan gyfrannu at y sgwrs barhaus am rôl llenyddiaeth wrth lunio deialog ddiwylliannol a chymdeithasol.

Noddir ymweliad Tina Perić â Chymru gan Lysgenhadaeth Gweriniaeth Slofenia yn Llundain.

Cau
Ligija Purinaša
Aelod EUNIC (Latfia)

Bardd a newyddiadurwr sy'n ysgrifennu yn Latgaleg a Latfieg yw Ligija Purinaša. Mae hi wedi cyhoeddi dau gasgliad o farddoniaeth a gafodd ganmoliaeth mawr: Sīvīte (Woman, 2019), a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori Casgliad Cyntaf Gorau yng Ngwobrau Blynyddol Llenyddiaeth Latfia yn 2020, a Pierobežas (Borderlands, 2022), a gyrhaeddodd rhestr hir y Casgliad Barddoniaeth Gorau. Mae ei cherddi wedi’u cyfieithu i’r Saesneg, Almaeneg a Tsieceg, ac mae ei thrydydd llyfr, sef casgliad o ryddiaith o’r enw Magnificat i’w gyhoeddi yn 2025.

Ar hyn o bryd mae Ligija yn gweithio ar ei nofel gyntaf sy'n archwilio perthnasoedd menywod â'r amgylchedd. Mae ei diddordebau’n cynnwys hanes cymdeithasol a hawliau merched, a gaiff ei archwilio ganddi yn aml drwy dull athronyddol sy’n ystyried celf fel modd o ryddid mewnol. Mae ei gwaith llenyddol yn dangos ymrwymiad i archwilio themâu cymdeithasol cymhleth trwy ffurfiau llenyddol amrywiol.

Noddir ymweliad Ligija Purinaša â Chymru gan Platform Latvian Literature.

Cau
Mónika Rusvai
Aelod EUNIC (Hwngari)

Mae Mónika Rusvai yn awdur ac ymchwilydd sydd wedi ysgrifennu dwy nofel a sawl stori fer. Enillodd ei hail nofel, Kígyók országa (Gwlad Nadroedd), Wobr Zsoldos Péter yn 2024. Yn ei gwaith ffuglen, mae'n ymdrechu i danseilio'r rhaniad natur-diwylliant, i ddangos rhyng-gysylltedd pob bod - dynol ac annynol, byw a difywyd - trwy ddulliau adrodd straeon arloesol sy'n cyfuno chwedlau llenyddol, hanes Ewrop, a chwedloniaeth Hwngari a Slofenia.

Mae Mónika Rusvai yn gweithio fel cydymaith ymchwil yn Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Academi Gwyddorau Hwngari. Mae ganddi PhD yn y Dyniaethau amgylcheddol, gyda'i hymchwil yn canolbwyntio ar astudiaethau planhigion hanfodol a chysylltiadau rhwng planhigion a phobl. Mae ei gwaith academaidd, yn enwedig ei thraethawd hir, yn ymchwilio i goedwigoedd hudolus mewn llenyddiaeth ffantasi, yn ategu archwiliad ei hysgrifennu creadigol o themâu ecolegol a rhyngddisgyblaethol.

Enwebwyd Mónika Rusvai ar gyfer yr encil hon gan y Liszt Institute yn Llundain.

Cau
Kim Simonsen
Aelod EUNIC (Ynysoedd Ffaröe)

Mae Kim Simonsen yn awdur saith llyfr, sydd wedi'u cyhoeddi a'u cyfieithu'n eang, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Enwebwyd ei gasgliad barddoniaeth 2024, The Biological Composition in a Drop of Seawater Resembles the Blood in My Veins, ar gyfer Gwobr Lenyddiaeth y Cyngor Nordig. Mae’r gwaith hwn yn archwilio’r môr fel elfen sy’n uno, gan gasglu bodau byw amrywiol i archwilio dŵr, tarddiad, a marwolaeth trwy lens eco feirniadol ac ecoffeminyddol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y berthynas rhwng mab a’i dad a fu farw’n ddiweddar.

Mae Kim Simonsen yn meddu ar ddoethuriaeth ac yn dysgu yn achlysurol, gan gynnwys cyrsiau ysgrifennu creadigol. Mae'n berchen ar y cwmni cyhoeddi Eksil a gaiff ei redeg gan awduron ac yn cyfarwyddo’r Ŵyl Lenyddiaeth Ffaroaidd. Mae ei gyflawniadau llenyddol yn cynnwys ennill Gwobr Llenyddiaeth Ffaroaidd yn 2014, ac mae ei weithiau wedi’u cyfieithu i’r Saesneg, Y Ddaneg, yr Eidaleg, y Facedoneg, a’r Hwngareg.

Noddir ymweliad Kim Simonsen â Chymru gan FarLit.

Cau
Syds Wiersma
Aelod EUNIC (Ffrisia, Yr Iseldiroedd)

Bardd, cyfieithydd, ac archifydd ffilm yw Syds Wiersma sy'n ysgrifennu'n bennaf mewn Ffriseg, ail iaith genedlaethol yr Iseldiroedd a siaredir gan fwyafrif poblogaeth Ffrisia. Mae wedi cyhoeddi chwe chasgliad o farddoniaeth, gyda themâu pwysig gan gynnwys materion ysbrydol, iaith, ac ecoleg. Mae ei waith yn aml yn canolbwyntio ar bryderon amgylcheddol, yn enwedig cerddi am yr ardaloedd dolydd mawn sydd dan fygythiad yn ei fro enedigol, sydd wedi profi colledion bioamrywiaeth dramatig.

Mae naws Ewropeaidd nodedig iawn i waith Syds, wedi'i ysbrydoli gan deithiau trwy Wlad Pwyl, Ffrainc, Iwerddon a Slofenia. Mae ei gasgliad diweddaraf - Fiere Wake / A Far Wake - yn gofnod o dair taith hir trwy Iwerddon. Yn 2018, cydsefydlodd y Frisian Poetry Collective RIXT, sydd bellach yn cynnwys dros hanner cant o feirdd a sy’n trefnu digwyddiadau barddoniaeth yn rheolaidd. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud â phrosiect cyfieithu, gan gydweithio â bardd o Gatalaneg i gyfieithu barddoniaeth Gatalaneg fodern i Ffriseg, a bwriedir cyhoeddi blodeugerdd tua 2027.

Noddir ymweliad Syds Wiersma â Chymru gan Lysgenhadaeth Brenhiniaeth yr Iseldiroedd yn y DU.

Cau