Y Wobr Farddoniaeth
Mae’r cywaith hwn rhwng y bardd Guto Dafydd a’r ffotograffydd Dafydd Nant yn ddathliad dau ffrind o’u cynefin yn Llŷn. Yn y cerddi a’r lluniau gwelir harddwch y fro, ac eir i’r afael â’i threftadaeth amrywiol – y morwrol a’r diwydiannol, y crefyddol a’r diwylliannol, y cymunedol a’r teuluol. Mae’r cyfanwaith yn dangos bod modd gwerthfawrogi holl gyfoeth cymhleth bywyd yn Llŷn.
***
Mae Guto Dafydd yn fardd ac yn nofelydd. Yn wreiddiol o Drefor, mae bellach yn magu Casi a Nedw ym Mhwllheli gyda Lisa. Enillodd y Goron yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2014 a 2019, a chyhoeddi Ni Bia’r Awyr (Cyhoeddiadau Barddas), cyfrol o gerddi, yn 2014. Mae ei farddoniaeth yn sôn am berthynas pobl, eu hunaniaeth a’u straeon, a’r tir. Ar ôl cyhoeddi’r nofel Stad yn 2015, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am Ymbelydredd yn 2016 a Carafanio yn 2019. Mae ei nofelau (oll wedi eu cyhoeddi gan Y Lolfa) yn sôn am Gymry yn Lloegr, a chreaduriaid sy’n cael trafferth dygymod â’u hamgylchiadau yn y byd.
Mae Mae Bywyd Yma yn gywaith barddoniaeth a ffotograffiaeth. Lluniau gan Dafydd Nant.
Darllenwch ragor am Guto Dafydd a’r gyfrol Mae Bywyd Yma ar ein blog.
‘A ninnau’n blino awn yn ein blaenau…’
Dyma gyfrol sy’n pendilio rhwng y dwys a’r digri, rhwng sinigiaeth a thaerineb, ac sy’n plethu angst ieithyddol trwy gerddi am deulu, bod yn dad a bod yn Gymro. Mae tynfa barhaus rhwng magwrfa bardd ym Mhwllheli a’i fywyd yng Nghaerdydd yn ogystal â’r ‘bwlch siâp Duw’ sy’n waddol i’r fagwraeth honno. Er gwaethaf hyn, mae gwreichion o hiwmor a gobaith drwy’r cyfan; y gobaith anodd hwnnw o wybod – er bod pethau’n anodd – bod yn rhaid parhau.
***
Mae Gruffudd Owen yn fardd, dramodydd a sgriptiwr teledu o Bwllheli. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 ac ef oedd Bardd Plant Cymru 2019-2021. Mymryn Rhyddid yw ei ail gyfrol o gerddi ar gyfer oedolion. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i feibion.
Darllenwch ragor am Gruffudd Owen a’r gyfrol Mymryn Rhyddid ar ein blog.
Yn y casgliad newydd hwn gan y Prifardd Hywel Griffiths, mae’r bardd o Aberystwyth yn cyffwrdd â sawl thema sy’n agos iawn at ei galon – o’r argyfwng newid hinsawdd a chenedlgarwch, i’r profiad o fod yn dad a threigl amser.
***
Mae Hywel Griffiths yn fardd ac yn ddaearyddwr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yn 2008 a’r Gadair yn 2015. Mae’n cyfrannu at y Talwrn fel aelod o dîm y Glêr ac yn ymrysona gyda thîm yr Ymryson. Afonydd a llifogydd yw ei arbenigedd fel daearyddwr ac mae hynny’n ysbrydoliaeth i’w waith creadigol yn aml. Mae’n byw yn Llanbadarn Fawr gyda’i wraig, Alaw, a’i blant, Lleucu a Morgan. Y Traeth o Dan y Stryd yw ei bedwaredd gyfrol o farddoniaeth.
Darllenwch ragor am Hywel Griffiths a’r gyfrol Y Traeth o Dan y Stryd ar ein blog.
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig ac ysbrydolwraig to newydd o awduron a merched cyhoeddus. Nod y gyfrol hon yw dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd benyw ddibriod o gefndir gwerinol i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry’i hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.
Cyhoeddwyd dwy gyfrol fywgraffiadol arni’n flaenorol, yn 1932 ac yn 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth – ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol, er enghraifft – sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.
***
Athro Emerita yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru yw Jane Aaron; enillodd ddwy wobr am ei chyfrolau blaenorol ar lên menywod Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef Gwobr Goffa Ellis Griffith (1999) a Gwobr Roland Mathias (2009), ac mae hefyd wedi cyhoeddi sawl erthygl ar y pwnc.
Darllenwch ragor am Jane Aaron a’r gyfrol Cranogwen ar ein blog.
“Mae hunaniaeth yn gwestiwn.
Perthyn yn emosiwn.
A chenedl yn stori rydym yn ei rhannu’n gyffredin.”
Dyma gofiant unigryw yn y Gymraeg gan awdur ifanc sy’n ein tywys ar daith ddadlennol a phersonol. Mae Malachy Edwards yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth iddo olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados.
Yn gefndir i’r gyfrol mae ein hanes diweddar ni, yn cynnwys Brecsit a Covid-19.
Mae’r awdur yn ysgrifennu’n onest am brofiadau mawr ei fywyd fel geni ei blant a cholli aelodau teulu agos, ceisio am ddinasyddiaeth Ewropeaidd a’i brofiadau fel Cymro Du Cymraeg.
Bydd y gyfrol arbennig hon yn eich annog i feddwl.
***
Yn enedigol o Lundain ac wedi ei fagu yn Ffynnon Taf mae Malachy bellach yn byw ar Ynys Môn. Cafodd cofiant ffeithiol creadigol yr awdur, Y Delyn Aur ei gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd 2023. Ynddo mae Malachy yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilio i’r dilyniant yn ei gyfres gofiannol ffeithiol creadigol, Paradwys Goll a gyhoeddir yn 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.
Darllenwch ragor am Malachy Edwards a’r gyfrol Y Delyn Aur ar ein blog.
Myfyrdodau cynnes y bardd ac awdur, Iwan Rhys, wrth iddo groesi sawl trothwy mewn bywyd ywTrothwy. Mae’r gyfrol yn trafod perthyn ac adnabyddiaeth gyda ffraethineb wrth i’r prif gymeriad geisio cael ei dderbyn yn niwylliant y dafarn leol yng Nghaernarfon ac ym Merlin, yn ogystal ag ym mywydau meibion ei bartner newydd. Mae’r gyfrol yn plethu cynhesrwydd bywyd teuluol gydag agweddau rhyngwladol, wrth iddo gynnwys golwg Cymro ar Berlin, a phrofiadau teulu teirieithog ac aml genedl.
***
Magwyd Iwan Rhys ym Mhorthyrhyd, Cwm Gwendraeth. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith; yn 2001 ac yn 2008. Mae’n aelod o dîm talwrn Dros yr Aber a thîm Y Deheubarth yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw awdur y gyfrol Eleni Mewn Englynion (Gwasg Carreg Gwalch) a’r nofel Y Bwrdd (Y Lolfa).
Darllenwch ragor am Iwan Rhys a’r gyfrol Trothwy ar ein blog.
Gwobr Ffuglen
Stori Muriel sydd yma, a’i thaith arwrol i geisio cael gwellhad i’w gŵr, Ken. Maen nhw’n bâr priod yn eu pedwardegau pan gaiff Ken wybod ei fod yn marw o ganser. Ond dechrau’r daith yw’r Muriel ifanc, tair ar ddeg oed, pan ddaw hi o hyd i’r llyfr hynafol, Llyfr Corynnod y Mwmbwls… Bydd y nofel hon yn mynd â chi ar daith anturus wrth i Muriel geisio dod o hyd i atebion. Ond mae rhaid iddi wynebu ei phryderon a’i hofnau mwyaf yn gyntaf, ac i wneud hynny, mae’n rhaid iddi dorri’n rhydd oddi wrth y gweoedd hynny sy’n ei chlymu’n saff.
***
Bardd, awdur a chyfieithydd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw Mari George. Mae hi wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi – Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt (2004) a Siarad Siafins (2014) – ac mae hi’n aelod o dîm Talwrn Aberhafren. Mae hi hefyd wedi golygu sawl casgliad o farddoniaeth ac wedi ysgrifennu ac addasu nifer o lyfrau i blant. Sut i Ddofi Corryn yw ei nofel gyntaf i oedolion.
Darllenwch ragor am Mari George a’r gyfrol Sut i Ddofi Corryn ar ein blog.
Nofel ffantasi dywyll sy’n plethu dirgelwch, trosedd a byd llawn dychymyg.
Cyfraith a threfn ydi pwrpas y Gwigiaid byth ers i’r Derwyddon eu tynnu i’r byd ac er bod y rheiny’n hen hanes erbyn hyn, mae rhai o’r Gwigiaid yn dal i grwydro’r teyrnasoedd yn chwilio am droseddwyr. Er bod Ithel wedi gweld pob math o bethau rhyfedd ac ofnadwy, mae eu hachos diweddaraf y tu hwnt i hynny i gyd ac mae rhywrai, neu rywbeth, wrthi’n cynllwynio yn y cysgodion.
All Ithel ac Adwen ddod at wraidd pethau cyn ei bod hi’n rhy hwyr? Ar daith beryglus mae’r Gwigyn a’r porthmon yn dod i ddeall ei gilydd yn well ac yn dysgu bod mwy mag un math o anfadwaith ar ben y daith.
***
Un o Frynmawr ger Sarn ym Mhen Llŷn ydi Llŷr Titus. Mae’n awdur a dramodydd, yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Cymunedol y Tebot, cylchgrawn Y Stamp a gwasg Cyhoeddiadau’r Stamp. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia (Gomer@Atebol), Wobr Tir na n-Og yn 2016. Enillodd ei nofel, Pridd (Gwasg y Bwthyn) Brif Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2023.
Darllenwch ragor am Llŷr Titus a’r gyfrol Anfadwaith ar ein blog.
Yn Hydref 2021 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol o straeon byrion gan Aled: Tynnu. Ymestyn i’r un cyfeiriad yw’r nod yn y gyfrol hon.
Meddai’r awdur: “Nid wyf erioed wedi bod yn or hoff o realaeth. Ac o ddydd i ddydd rhowch i mi’n wastad y rafin o flaen y ddynes dda neu’r dyn da. Os oes gennyf bwnc, amwysedd moesol yw hwnnw. Rhywle ymhlith hyn y bydd y storïau newydd hyn yn tindroi.
Mae pethau eraill. Ers tro’n byd rwy’n ymwybodol fod rhai pethau a fu’n bwysig i mi yn dyfod i ben. Ni welaf yng Nghymru unrhyw ddyfodol i Gristnogaeth, er enghraifft. Fy arswyd nad yw’r iaith Gymraeg mor ddiogel ag a fynn rhai.
Gwynt teg ar ôl ambell beth: byddwn wrth fy modd medru dweud fod cyfalafiaeth ar fin diflannu gyda’r chwaer hyll Torïaeth ar ei hôl. Ond nid felly mae hi. Teimlaf fod egin rhyw newydd-deb ar ddod. Nid o angenrheidrwydd yn ddaionus. Wedi’r cyfan, mae’r newid hinsawdd yma’n barod. Mae pethau’n chwalu. O’r ymdeimlad yma o chwalfa y daw’r storïau hyn. Bydoedd gwyrgam sydd yma. A pobl sy’n dyllau i gyd heb ruddin.”
Magwyd Aled Jones Williams ger Caernarfon ac astudiodd ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n offeiriad gyda’r Eglwys yng Nghymru, yn Brifardd, yn awdur ac yn ddramodydd y mae amryw o’i ddramâu wedi eu llwyfannu. Roedd ei lyfr, Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun (Gwasg Pantycelyn), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2002, ac enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn. Mae ei bryddest fuddugol, ‘Awelon’, wedi ei chynnwys yn Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn), ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, sy’n ymdrin â cholli ffydd ac alcoholiaeth. Dewiswyd ei nofel Eneidiau (Gwasg Carreg Gwalch) ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru yn Hydref 2013, ac roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2014. Dewiswyd ei nofel, Nostos (Gwasg Carreg Gwalch), hefyd i Silff Lyfrau 2018.
Darllenwch ragor am Aled Jones Williams a’r gyfrol Raffl ar ein blog.
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Nofel wedi’i lleoli mewn dyfodol dychmygol, ond nid mor annhebygol â hynny, yw Y Nendyrau. Yn sgil cynhesu byd eang, mae’r byd wedi newid a Daniel, bachgen yn ei arddegau, a’i gymuned yn byw mewn nendwr ar gyrion dinas a aeth dan y môr rywle yn Asia. Yna un diwrnod mae’n gweld wyneb merch yn y tŵr gyferbyn; Rani yw hon, ac mae popeth yn newid o hynny ymlaen.
Diddordeb mawr Daniel yw darlunio comics, ac mae comic go iawn, yn adrodd stori Aqualung, wedi ei gynnwys o fewn y nofel ei hun.
Enillodd Y Nendyrau gystadleuaeth nofel i bobl ifanc Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Mae’n ddyfeisgar, yn wahanol ac yn sicr o apelio at ystod eang o ddarllenwyr. Gyda llaw gelfydd artist mae Seran Dolma yn ymdrin â themâu pwysig newid hinsawdd, brawdgarwch, y reddf i oroesi, a’r berthynas rhwng y tlawd a’r pwerus.
Dyma nofel i’ch swyno a gyrru ias i lawr eich asgwrn cefn.
***
Mae Seran Dolma yn byw ym Mhenrhyndeudraeth gyda’i phartner a’u dau fab ac yn gweithio fel Curadur Profiadau ym Mhlas Brondanw, Llanfrothen. Yn ei bywyd blaenorol, bu’n gweithio ym maes yr amgylchedd, ac mae’r diddordeb hwn yn parhau yn ei gwaith ysgrifennu. Hon yw ei nofel gyntaf.
Darllenwch ragor am Seran Dolma a’r gyfrol Y Nendyrau ar ein blog.
Mae Rosie Alaw, 11 oed, yn dod ar draws llong ofod ar y llwybr ar ei ffordd adref o’r ysgol. Mae hi’n methu credu ei lwc, oherwydd mae hi wedi gwirioni ar bopeth sy’n ymwneud â’r gofod a’r sêr a’r galaethau a’r planedau sydd y tu hwnt i ddychymyg!
Pan mae Astronot a Ffred yn gofyn am help Rosie, mae hi’n mynd ar daith arallfydol anhygoel! Ond mae’n mynd ar daith i’w darganfod hi ei hun hefyd, a rhaid iddi fod yn ddewr a goresgyn nifer o broblemau.
Nofel annwyl, sy’n llawn antur, am bwysigrwydd teulu a ffrindiau ac am dyfu i fyny mewn byd heriol.
***
Mae Megan Angharad Hunter yn awdur a sgriptiwr o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ers graddio yn 2022, mae hi wedi bod yn gweithio fel awdur a golygydd llyfrau plant. Cyhoeddwyd tu ôl i’r awyr (Y Lolfa) – ei nofel gyntaf yn 2020 – aeth ymlaen i ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a chyhoeddwyd Cat (Y Lolfa) fel rhan o gyfres arobryn Y Pump yn 2021. Yn 2023 cafodd gyfle i gymryd rhan mewn gŵyl lenyddol yn India ac yn Ffair Lyfrau Llundain. Astronot yn yr Atig yw ei nofel gyntaf i blant.
Darllenwch ragor am Megan Angharad Hunter a’r gyfrol Astronot yn yr Atig ar ein blog.
Mae Jac yn byw ym mhentref bach Bethlehem gyda’i dad-cu, ond mae’r Nadolig wedi ei ganslo ar yr aelwyd eleni. Felly pan ffrwydra angel allan o galendr adfent ei fam, a chynnig dymuniad iddo, mae’n edrych fel petai’r rhod yn troi. Ei ddymuniad? Cael chwarae rhan Mair yn sioe Nadolig yr ysgol.
Ond pan mae’r Nadolig yn dechrau diflannu o’i gwmpas, a theulu’r Heroniaid yn chwalu ei gynlluniau, mae Jac yn gwneud darganfyddiad a fydd yn newid ei fyd – a’r Nadolig – am byth.
***
Mae Daf James yn un o ddramodwyr, sgriptwyr, cyfansoddwyr a pherfformwyr amlycaf Cymru. Yn ogystal â phortreadu’r cymeriad cerddorol ‘Sue’, Daf yw awdur y dramâu arloesol Llwyth aTylwyth. Bydd ei gyfres ddrama Lost Boys & Fairies yn cael ei darlledu ar BBC1 yn 2024. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i ŵr a’u tri phlentyn. Jac a’r Angel yw ei nofel gyntaf.
Mae Jac a’r Angel yn cynnwys darluniau gan Bethan Mai.
Darllenwch ragor am Daf James a’r gyfrol Jac a’r Angel ar ein blog.
Y Rhestr Fer Saesneg
In Orbit – Glyn Edwards (Seren)
Stori am golled a hiraeth mewn casgliad o gerddi a geir yn In Orbit. Wedi iddo dderbyn newyddion am farwolaeth athro hoff, mae’r prif gymeriad yn ymgodymu â cholli’r berthynas â’i athro, a feithrinwyd gan edmygedd dwfn a chariad.
Mae Glyn Edwards yn ymchwilydd PhD mewn ecofarddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor. Cyhoeddwyd ei gasgliad barddoniaeth cyntaf, Vertebrae, gan Lonely Press. Mae’n golygu Modron, cyfnodolyn ar gyfer ysgrifennu amgylcheddol, a’r erthygl nodwedd Wild Words ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’n gyn-enillydd ac yn ymddiriedolwr Gwobr Terry Hetherington ar gyfer llenorion ifanc Cymreig, ac mae’n gweithio fel athro yng Ngogledd Cymru.
***
I Think We’re Alone Now, Abigail Parry (Bloodaxe Books)
Mae ail gasgliad o gerddi Abigail Parry yn gyfrol am agosatrwydd, am fod mewn unigedd, am fod mewn partneriaeth ac am gyfrifoldeb torfol. Cyrhaeddodd ei chyfrol gyntaf, Jinx, restrau byrion am gyfrolau cyntaf y Forward Prize yn 2018 a Gwobr Canolfan Seamus Heaney yn 2019.
Treuliodd Abigail Parry sawl blwyddyn fel gwneuthurwr teganau cyn cwblhau PhD ar eiriau. Ar hyn o bryd mae hi’n ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei cherddi wedi’u gosod i gerddoriaeth, wedi’u cyfieithu i Sbaeneg, Serbeg a Japaneaidd, a’u cyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion a blodeugerddi. Mae hi wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Ballymaloe a Gwobr Eric Gregory. Enwyd ei chasgliad cyntaf, Jinx (Bloodaxe Books), yn Llyfr y Flwyddyn yn The New Statesman, The Telegraph a Morning Star. Mae I Think We’re Alone Now hefyd ar restr fer Gwobr T.S. Eliot 2023.
***
Cowboy, Kandace Siobhan Walker (CHEERIO Publishing)
Casgliad o farddoniaeth sy’n symud rhwng y Gymru wledig, Llundain a de’r Unol Daleithiau, rhwng gofodau ar y rhyngrwyd, rhwng diniweidrwydd plentyndod a glasoed a’r trawsffurfiad anesboniadwy i anesmwythder oedolyn.
Mae Kandace Siobhan Walker yn awdur ac artist o dras Jamaican-Canada, Saltwater Geechee a Chymreig. Hi hefyd yw awdur Kaleido (Bad Betty Press). Yn 2021, derbyniodd Wobr Eric Gregory ac enillodd Gwobr Bardd y White Review. Yn 2019, enillodd Gwobr Stori Fer 4th Estate BAME y Guardian.
Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
Cyfrol yn dilyn taith ffeithiol, swynol trwy Gymru ar hyd Sarn Helen, sef yr hen ffordd Rufeinig a redai o dde i ogledd Cymru. Wrth i Bullough droedio’r llwybr, mae’n archwilio hanes gwleidyddol, diwylliannol a chwedlonol y wlad fach hon sydd wedi’i rhannu gan iaith a daearyddiaeth. Wedi’u plethu i’r daith hon mae sgyrsiau gyda gwyddonwyr hinsawdd a hanes ymwneud Tom â mater brys yr argyfwng hinsawdd, gan ddangos i ni ei effaith debygol ar Gymru, sydd – ar raddfa llai – yn weledigaeth o’r hyn sydd o’n blaenau ni i gyd.
Dyma bortread myfyriol a swynol o Gymru gan un o lenorion ifanc gorau’r wlad, ynghyd ag arlunwaith gan Jackie Morris.
Magwyd Tom Bullough ar fferm fynydd yn Sir Faesyfed, Cymru, ac mae’n byw ym Bannau Brycheiniog gyda’i blant. Mae’n awdur pedair nofel – A (Sort Of Books), The Claude Glass (Sort Of Books), Konstantin (Penguin Books Ltd), ac Addlands (Granta). Sarn Helen yw ei waith ffeithiol greadigol cyntaf. Mae Tom yn actifydd hinsawdd ac yn diwtor llawrydd mewn ysgrifennu creadigol, ac mae’n cynnal cyrsiau rheolaidd ar hinsawdd ac ysgrifennu ar gyfer Coleg y Mynyddoedd Duon, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a Sefydliad Arvon.
***
Birdsplaining: A Natural History, Jasmine Donahaye (New Welsh Rarebyte)
Heb ymddiheurio dim, mae Birdslaining yn canolbwyntio ar brofiadau unigryw merched o fyd natur ac ar y cyfyngiadau a osodir arno. Eir ar drywydd munudau o deimlo’n fyw â gwir awch, wynebu ofn bradychiad y corff, a theithio ar draws Cymru, yr Alban, Califfornia a’r Dwyrain Canol. Weithiau’n gyffro i gyd ond bob amser yn foesegol, dyma ddrycholwg newydd ar fyd natur.
Mae gwaith Jasmine Donahaye wedi ymddangos yn y New York Times a The Guardian, a darlledwyd ei rhaglen ddogfen, ‘Statue No 1’, ar BBC Radio 4. Mae ei llyfrau yn cynnwys y cofiant, Losing Israel (Seren), enillydd y categori Ffeithiol Greadigol yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn; cofiant i’r awdures Lily Tobias, The Greatest Need (Honno), sail ‘O Ystalyfera i Israel’, a ddarlledwyd gan S4C; yr astudiaeth ddiwylliannol Whose People? Wales, Israel, Palestine (Gwasg Prifysgol Cymru), a dau gasgliad o farddoniaeth: Misappropriations (Parthian Books) a Self-Portrait as Ruth (Parthian Books). Mae’n Athro Ysgrifennu Creadigol rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
***
Spring Rain, Marc Hamer (Harvill Secker)
Stori am blentyndod anodd a drawsffurfiwyd i oedolaeth hapus trwy rym natur a gerddi. Dyma gyfrol fechan ag iddi galon fawr a mewnwelediadau eirias, llawn bywyd fel gwely blodau. Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth, neu wedi colli eich ymddiriedaeth yn y byd hwn, dyma’r llyfr i chi.
Yn fachgen ifanc mewn cartref treisgar, daeth Marc o hyd i loches yn ei ardd gefn fach. Yma bu’n ennyn cariad oes at fyd natur a dysg trwy sylwi ar y planhigion a’r trychfilod yn ei deyrnas breifat a darllen yr hen wyddoniaduron a ddarganfu yn y sied. Mae Marc bob amser wedi dod o hyd i’r atebion i gwestiynau bywyd yn y byd naturiol, boed fel plentyn yn gwylio morgrug, fel dyn ifanc yn byw ar y stryd yng nghefn gwlad, neu fel garddwr proffesiynol yn creu mannau tawelu ac adfer i eraill. Bellach yn ei chwedegau, mae o’r diwedd yn creu gardd iddo’i hun, yn ei gartref yng Nghaerdydd.
Ganed Marc Hamer yng ngogledd Lloegr a symudodd i Gymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Ar ôl treulio cyfnod yn ddigartref, ac yna’n gweithio ar y rheilffordd, dychwelodd i addysg ac astudio celfyddyd gain ym Manceinion a Stoke-on-Trent. Mae wedi gweithio mewn orielau celf, marchnata, dylunio graffeg a dysgu ysgrifennu creadigol mewn carchar cyn dod yn arddwr. Mae ei ddau lyfr, A Life in Nature; neu How to Catch a Mole (Vintage) a Seed to Dust (Harvill Secker) wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Wainwright.
Neon Roses, Rachel Dawson (John Murray)
Mae Eluned Hughes yn teimlo caethiwed byw yn un o gymoedd de Cymru yn 1984. Mae streic y glowyr yn anrheithio ei chymuned, mae ei chwaer wedi dianc gyda phlismon Thatcheraidd ac mae ei chariad Lloyd yn mynnu sôn am briodi o hyd. O’r Cymoedd i glybiau nos Caerdydd, dyma stori gynnes, ddoniol ac ychydig yn fras-gwiar am ddod i oed yn sain cyffrous caneuon yr 80au.
Mae Rachel Dawson yn awdur Cymraeg lesbiaidd, dosbarth gweithiol. Neon Roses yw ei nofel gyntaf. Dyfarnwyd bwrsariaeth iddi gan Llenyddiaeth Cymru yn 2020, a’i galluogodd i’w hysgrifennu. Cafodd ei geni yn Abertawe ac mae wedi gwneud amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys gwerthu rholiau selsig a dirgrynwyr (ddim ar yr un pryd), a gwirfoddoli i AS. Mae hi bellach yn gweithio yn y trydydd sector ac yn byw gyda’i gwraig yng Nghaerdydd.
***
The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)
Yn nythu’n glyd mewn cwm Cymreig ac wedi’i amgylchynu gan goed bedw arian a phîn, ymddengys pentref Cwmcysgod yn fan tawel a chysglyd. Ond yno mae tensiynau’n berwi, mae calonnau’n brifo ac mae gwirioneddau poenus yn bygwth dod i’r wyneb.
Yn y nofela dyner, slei, gywrain hon, mae cast unigryw o gymeriadau yn rhoi llais i’w fersiynau nhw o’r gwirionedd. Ond stori Rosalind Bone, am ei chryfder a’r cyfan y mae wedi’i ddioddef, sy’n codi uwchlaw’r gweddill, yn symudliw â gobaith a phosibilrwydd…
Ganed Alex McCarthy yng Nghaerdydd a chafodd ei magu yn ne Cymru. Yn gyn-fyfyriwr o London Contemporary Dance School, bu’n gweithio fel dawnsiwr a choreograffydd am nifer o flynyddoedd ar lwyfan, teledu a ffilm. Yn 2017, yn dilyn newid gyrfa a sawl blwyddyn o ysgrifennu, dechreuodd Alex ysgrifennu’r nofel hon. Mae ganddi ferch a llysferch, ac mae’n byw yng Nghymru.
***
Stray Dogs, Richard John Parfitt (Third Man Books)
Mae Turner yn gadael ysgol uwchradd sydd newydd gyrraedd Toronto. Ar ôl cymryd swydd yn gwerthu geiriaduron i grifiwr lleol o’r enw Romeo Silva, mae’r diwrnod yn mynd o chwith, ac mae Turner yn ymladd â beiciwr. Ar ffo o Romeo a Phlant y Diafol, mae Turner a’i gyfeillion yn dod o hyd i hafdy segur i guddio ynddo. Ond mae tensiynau o fewn y grŵp yn niweidio perthnasoedd personol wrth i fygythiadau allanol ddod at ei gilydd i ddinistrio’r bywydau oedd ganddyn nhw.
Wedi’i eni, ei addysgu, ac yn byw yn ne Cymru, roedd Richard John Parfitt yn un o sylfaenwyr grŵp roc Cymraeg y 90au 60ft Dolls. Fel awdur roedd ar restr fer Gwobr Rheidol New Welsh Review ac mae hefyd wedi cyhoeddi gwaith gan Planet: The Welsh Internationalist, The Conversation, The Portland Review, Bloomsbury Academic, a Red Pepper Magazine. Mae ganddo BA [Anrh] mewn Saesneg ac MA mewn Addysg.
Brilliant Black British History, Atinuke (Bloomsbury Children’s Books)
Stori sy’n agor llygaid am Brydain, yn canolbwyntio ar ran o’n gorffennol sydd wedi’i gadael allan yn bennaf o’r llyfrau hanes: hanes Du gwych Lloegr, yr Alban, Cymru ac Iwerddon. Stori i’n denu am hanes a fu’n gudd mewn llyfrau hanes, i’w hennill, sef hanes pobl ddu ym Mhrydain. Wyddech chi fod y Prydeinwyr cyntaf yn ddu, a bod y masnachwyr a weinyddodd Brydain yn ddu, hefyd? Dyma daith llif a swynol drwy’r oesau i gyfarfod â’r Prydeinwyr cyntaf.
Ganed Atinuke yn Nigeria a symudodd i’r DU pan oedd hi’n blentyn. Perfformio straeon oedd ei chariad cyntaf, ac mae hi bellach yn arllwys ei doniau creadigol i mewn i ysgrifennu llyfrau plant. Mae llawer o’i llyfrau, fel Affrica, Amazing Africa (Walker), a enillodd Wobr Llyfr Gwybodaeth Cymdeithas Llyfrgelloedd Ysgol 2020, wedi’u hysbrydoli gan gyfandir hardd Affrica.
Darlunnir Brilliant Black British History gan Kingsley Nebechi.
***
Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)
Skrimsli gan Nicola Davies yw’r ail antur ffantasi wedi’i gosod mewn byd lle gall yr hil ddynol ac anifeiliaid rannu eu meddyliau ar adegau. Mae’r stori yn olrhain bywyd cynnar Skrimsli, y môr deigr o gapten sydd, ynghyd â’i ffrindiau, Owl a Kal, yn gorfod dianc rhag crafangau perchennog syrcas gormesol, rhoi terfyn ar ryfel ac achub coedwig hynafol…
Mae Nicola Davies yn ysgrifennu llyfrau ffeithiol greadigol a ffuglen i blant am y byd naturiol a’n perthynas ag ef. Hefyd yn swolegydd, roedd Nicola yn un o gyflwynwyr gwreiddiol y rhaglen bywyd gwyllt i blant The Really Wild Show ar y BBC. Mae hi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Llyfrau Branford Boase a Blue Peter. Mae Nicola yn byw yng ngorllewin Cymru.
Darlunnir Skrimsli gan Jackie Morris.
***
Where the River Takes Us, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)
Mae Jason yn byw gyda’i frawd mawr, Richie, yn ceisio eu gorau i gael dau ben llinyn ynghyd fel y gallant aros gyda’i gilydd. Mae ganddyn nhw gymdogion cefnogol a rhai ffrindiau gwych, ond mae yna fygythiad bob amser y bydd rhywun yn meddwl na allan nhw ymdopi ar eu pen eu hunain ers i’w rhieni farw. Gan awdur The Valley of Lost Secrets, dyma antur gyffrous, hanesyddol, wedi’i gosod ar gefnlen streiciau’r glowyr yn y 1970au, sy’n berffaith ar gyfer darllenwyr oedran 9+. Gydag adleisiau o Stand By Me, ceir yma antur o’r radd flaenaf, yn cynnwys portreadau cywrain a llinyn storïol gafaelgar ar themâu perthnasol. Ffuglen hanesyddol oesol a gwych.
Mae Lesley Parr wedi ysgrifennu tair nofel i blant. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, The Valley of Lost Secrets (Bloomsbury), yn 2021 ac roedd yn Llyfr y Mis Waterstones ac ar restr hir Medal Carnegie CILIP. Enillodd Wobr Tir na n-Og, Gwobr Llyfrau Ysgol Caer y Brenin a Gwobr Llyfr Athrawon Gogledd Gwlad yr Haf, yn ogystal â bod ar restr fer llawer o wobrau eraill. Magwyd Lesley yn ne Cymru ac mae bellach yn byw yn Lloegr gyda’i gŵr. Mae’n rhannu ei hamser rhwng ysgrifennu straeon, addysgu mewn ysgol gynradd a thiwtora oedolion. Ar wahân i lyfrau, rygbi’r undeb yw ei hoff beth yn y byd, yn enwedig os mai Cymru sy’n ennill.