Dyddiad
Dydd Iau 13 Gorffennaf 2023
6.30 pm – Drysau a’r Bar yn agor
7.00 pm – Y seremoni’n dechrau
Lleoliad
Tramshed
Clare Road
Trelluest
Caerdydd
CF11 6QP
Ceir gwybodaeth am sut i gyrraedd y safle ar wefan y Tramshed yma: https://www.tramshedcardiff.com/venue-information/
Tocynnau
Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael drwy siop Llenyddiaeth Cymru:
https://www.llenyddiaethcymru.org/product/llyfr-y-flwyddyn-2023-tocyn-seremoni/
Pris: £5.00 gan gynnwys diod wrth gyrraedd
Y Wobr
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ei strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.
Cafodd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023 ei gyhoeddi ar BBC Radio Cymru Wales ar y 21 Mai, mae enwau’r holl deitlau i’w gweld ar dudalen prosiect Llyfr y Flwyddyn.
Y Seremoni
Edrychwn ymlaen at wobrwyo awduron gorau Cymru yn y byw am y tro cyntaf ers 2019. Y cyflwynydd Ffion Dafis, enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022 (Mori, Y Lolfa) fydd yn arwain y noson ac fe fydd cyfle i glywed perfformiad gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa. Bydd y digwyddiad yn gyfle i ni ddathlu enillwyr mewn pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg, prif enillwyr, ac enillwyr gwobr Barn y Bobl Golwg360 a People’s Choice Wales Arts Review.
Bydd y seremoni i gyd yn ddwyieithog. Bydd cyfieithydd ar y pryd Cymraeg – Saesneg ar gael, a dehonglydd BSL. Mae’r Tramshed yn adeilad hygyrch – os oes gennych chi unrhyw ofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni o flaen llaw os gwelwch yn dda
Bydd criw siop lyfrau Griffin Books yn cynnal stondin ar y noson fydd yn cynnwys yr holl lyfrau sydd ar y rhestr fer Cymraeg a Saesneg, a bydd modd eu prynu o’r stondin. Efallai cewch gyfle i holi’r awduron am eu llofnod hefyd.
Nid oes lle parcio swyddogol yn y safle, ond mae’n hynod gyfleus o orsaf trenau Caerdydd Canolog, ac mae nifer helaeth o fysiau’r ddinas yn rhedeg yn agos. Mae safle bws hefyd ar draws y ffordd ar Clare Road. Cysylltwch â ni o flaen llaw os fydd angen safle parcio anabl.
Am ragor o wybodaeth am y safle, hygyrchedd, a thrafnidiaeth, ewch draw i wefan y Tramshed.