Enw’r Prosiect: Ysgrifennu Adref
Cyfranogwyr: Addas ar gyfer pob oedran (efallai bydd angen cymorth ar blant ifanc)
Arweinydd Artistig: Claire Boot
Platfform Digidol: Twitter, Instagram, Facebook a Youtube
Gwybodaeth am y prosiect
Mae Ysgrifennu Adref yn gyfres o 15 fideo byr sy’n cynnwys gweithgareddau ysgrifennu creadigol gan ddefnyddio nwyddau o amgylch y tŷ. O gyllell a ffyrc i wisgoedd ffansi, bydd y fideos yma’n eich ysbrydoli yn eich cartref eich hun. Bydd pob fideo yn dangos gweithgaredd creadigol i danio’ch ysgrifennu ac yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer datblygu eich syniadau ymhellach. Rhannwch yr hyn yr ydych yn ei greu drwy ‘Ysgrifennu Adref’ gan ddefnyddio’r hashnod #GwaithComisiwnLlC – byddwn wrth ein boddau’n gweld yr hyn yr ydych yn ei greu!
Gwybodaeth am Claire:
Mae Claire Boot yn byw ym Mhenarth. Mae hi’n awdur sydd â brwdfrydedd tuag at brosiectau cymunedol. Mae hi’n hwyluso gweithdai mewn ysgolion ar gyfer ail-sefydlu Ffordd Pererindod Penrhys, sef llwybr hynafol rhwng Caerdydd a Phenrhys yn y Rhondda. Ar hyn o bryd mae hi’n dyfeisio taith gerdded â stori ar Ynys y Bari fel rhan o’r Barry-Making Waves, a’r prosiect Heritage Lottery Fund Great Place. Cyhoeddwyd gwaith diweddaraf Claire ym mlodeugerddi Diwrnod Cenedlaethol Ffuglen Fflach a Gwobr Ffuglen Fflach Bath, a berfformiwyd ar nosweithiau ysgrifennu yn The Other Room yng Nghaerdydd. Recordiwyd tri animeiddiad gan Big Start Assemblies.
“Hyd yn oed os ydych yn sownd adref, does dim angen i chi fod yn sownd am syniadau ysgrifennu! Ydych chi erioed wedi ysgrifennu ar fanana? Beth am ofyn i gadair lle hoffai fynd? Gallwch ddarganfod syniadau i danio’ch dychymyg yn y byd o’ch cwmpas, ac i archwilio gwahanol ffyrdd o fynegi’r ysbrydoliaeth honno mewn geiriau rhyfeddol.” – Claire Boot