Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Write Where You Are / Ysgrifennu am y Byd o’ch Cwmpas

Cyfranogwyr: Plant oedran cynradd

Prif artist: Claire Fayers

Platfform Digidol: www.clairefayers.com

 

Gwybodaeth am y prosiect

Cyfres o fideos oedd Ysgrifennu am y Byd o’ch Cwmpas oedd yn cyflwyno gweithgareddau a heriau ysgrifennu creadigol ar gyfer plant oedran cynradd. Does dim angen teithio ymhell i ddod o hyd i syniadau ar gyfer straeon. Mae syniadau’n aros amdanoch yn bob man. Gyda chymorth cyfeillion sy’n awduron, aeth Claire Fayers ar helfa i geisio darganfod syniadau ar gyfer straeon o amgylch y tŷ. Pam fod stori fel rysáit? Beth os byddai’r ystafell ymolchi ar blaned arall? Beth mae’n hanifeiliaid anwes yn gwneud pan nad ydym o gwmpas?

 

Gwybodaeth am Claire

Claire Fayers yw awdur y gyfres Accidental Pirates a llyfrau ffantasi eraill ar gyfer darllenwyr ifanc. Cyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf, Storm Hound, Restr Fer Gwobrau Tir na n-Og Cyngor Llyfrau Cymru eleni, ac fe fydd ar restr Sialens Ddarllen yr Haf llyfrgelloedd yr haf hwn. Mae Claire yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i dwy gath sy’n eistedd ar ei chyfrifiadur a’i hatal rhag ysgrifennu (ei chathod, nid ei gŵr – mae o‘n ymddwyn yn weddol.)

“Mae pobl yn gofyn imi drwy’r amser o ble ydw i’n cael syniadau, fel petai syniadau’n dod o ryw le arbennig ym mhell i ffwrdd. Ond mae straeon o’n hamgylch ym mhob man. Nid ble’r ydym yn edrych sy’n bwysig, ond y ffordd yr ydym yn edrych ar bethau, a gall yr eitemau mwyaf cyffredin fod yn fflach o ysbrydoliaeth ar gyfer straeon. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at lansio’r prosiect hwn, ac at hel straeon o amgylch y tŷ.” – Claire Fayers

Nôl i #GwaithComisiwnLlC

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru