Enw Prosiect: 27
Cyfranogwyr: Unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME), neu unrhyw gefndir sy’n cael eu tangynrychioli, ond hefyd yn agored i bawb
Prif Artist: Connor Allen
Platfform Digidol: www.connorallen-27.co.uk
Gwybodaeth am y prosiect
Dychmygwch albwm nad yw ar ffurf cerddoriaeth, ond sydd wedi ei fynegi trwy gyfryngau creadigol eraill. Albwm o wahanol ddarnau o fywyd wedi’w curadu i gyfres o ddarlleniadau. Casgliad o fyfyrdodau. Y siwrne y buodd arni hi, a’r siwrne bresennol.
Trwy weithio mewn partneriaeth ag arlunwyr a ffotograffwyr, fe ddatblygodd Connor gyfres o ddarlleniadau a oedd yn cynnwys ystadegau, barddoniaeth a darluniau, oll wedi eu casglu o atgofion am ei fywyd, o wersi wedi eu dysgu, ac o’i daith bywyd hyd yma.
Gwybodaeth am Connor
Ers graddio o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant fel actor, mae Connor wedi gweithio gyda chwmnïau fel Theatr Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a National Theatre Wales. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain ac fe enillodd rownd Caerdydd o’r Triforces MonologueSlam, gan gynrychioli Cymru yn Llundain ar gyfer rownd yr enillwyr. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu ar gyfer Dirty Protest, Y Sherman, a BBC Cymru. Derbyniodd nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei ddrama gyntaf, a chomisiwn gan Llenyddiaeth Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r BBC Wales Welsh Voices 19/20 a Grŵp Awduron Cymreig y Royal Court.
“Drwy gerdded milltir yn esgidiau rhywun arall, credaf y byddwch yn ennill gwell dealltwriaeth o’u profiadau. Gall hynny effeithio a newid y ffordd y byddwch yn edrych ar bethau. Dyma beth yw’r casgliad hwn – cipolwg ar fy nhaith hyd yma, beth wyf wedi ei ddysgu. Y gobaith yw y bydd yn golygu rywbeth i eraill, ac yn eu helpu.” – Conor Allen
Nôl i #GwaithComisiwnLlC