Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: ‘Sgwennu’r byd: canolbwyntio ar eich ysgrifennu naratif ac emosiynol

Cyfranogwyr: Agored i bawb

Prif artist: David Thorpe

Platfform Digidol: Gweminar Zoom

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Eisiau dianc o grafangau’r cyfnod clo? Gallwch wneud hynny gyda’ch dychymyg, hiwmor a’ch teimladau er mwyn cynyddu eich hyder. Drwy gyfres o bedwar gweminar awr a hanner o hyd, yn defnyddio iaith syml, gemau ac enghreifftiau, byddwn yn eich helpu i gynhyrchu rhywbeth sy’n apelio at eich darllenwyr drwyddi draw. Dysgwch sut i greu cymeriadau go iawn gydag ymddygiad rhyfedd, a sut i ychwanegu drama a dal sylw eich darllenydd. Byddwn yn trafod mai dim ond pedwar diweddglo i stori sydd yn bodoli. Byddwn yn cynllunio teithiau eich cymeriadau, boed yn emosiynol neu’n gorfforol – a byddwn yn chwarae gyda geiriau. Erbyn y diwedd, byddwch yn gallu cwblhau eich gwaith, p’un ai yw’n rhyddiaith, barddoniaeth, sgript, nofel graffeg, neu adrodd straeon.

 

Bywgraffiad David:

Mae David Thorpe yn awdur sydd wedi cyhoeddi sawl nofel i oedolion ifanc, yn ogystal â chomics, sgriptiau ffilm a teledu, gweithiau ffeithiol, straeon byrion, barddoniaeth a newyddiaduraeth. Mae ganddo brofiad eang o redeg gweithdai yn seiliedig ar ei lyfr Making Readers Care. Bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar agwedd gadarnhaol ac adeiladol fel bod pawb yn teimlo’n ddiogel ynglŷn â rhannu a chyfranu’n agored, ac yn dysgu i fyfyrio’n wrthrychol ar eu gwaith eu hunain.

 

“Mae’r cyfnod clo wedi bod yn emosiynol ac yn drawsnewidiol tu hwnt. Rydym wedi dysgu gwerth cymuned yn ogystal â phoen ynysu. Hoffwn i’r gweithdai hyn fod yn hwyl ac o gymorth i awduron wrth iddynt geisio mynegi eu teimladau mewn geiriau, a throi’r geiriau hynny yn weithiau ysgrifennedig. Yn anad dim, hoffwn roi brwdfrydedd a hyder iddynt.” – David Thorpe

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru