Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Meddyginiaethau ar gyfer yr enaid: archwilio gallu ysgrifennu creadigol fel celfyddyd iachaol

Cyfranogwyr: Pobl sy’n byw gyda phoen cronig

Prif artist: Deborah Llewelyn

Platfform Digidol: Zoom

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Y mae astudiaethau diweddar wedi dangos sut y gall ysgrifennu creadigol fod yn llesol i bobl sy’n byw gyda phoen cronig. Mae’n gallu lleihau iselder ysbryd a straen; cynyddu emosiynau cadarnhaol; arwain at system imiwnedd gwell; a gwell rheolaeth dros boen. Bydd y cwrs hwn yn darparu gofod diogel i drafod syniadau a theimladau wrth i ni archwilio arddulliau a lleisiau ysgrifennu amrywiol. Bydd y cwrs hefyd yn cynnig ymdeimlad o bwrpas, cyfle i gysylltu ag eraill a chyfle i ymuno â chymuned o bobl o’r un anian sydd â phrofiadau tebyg. Mae’r cwrs wedi’i lunio ar gyfer pob lefel sgiliau, p’un ai yw’r cyfranogwyr yn ysgrifennu creadigol am y tro cyntaf neu wedi bod yn ymarfer yn rheolaidd ers blynyddoedd.

 

Bywgraffiad Deborah:

Magwyd yr awdur, bardd a’r golygydd Deborah Llewelyn yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin ac mae bellach yn byw ym Mhontardawe yn Nyffryn Abertawe. Mae ganddi radd MA gyda rhagoriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae hi’n arwain gweithdai ar gyfer grwpiau bregus megis pobl hŷn, troseddwyr ifanc, a phobl sy’n byw â dementia. Mae hi hefyd wedi gweithio ar brosiectau barddoniaeth cyfranogol gan gynnwys prosiect cARTrefu Age Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Deborah yn Aelod Proffesiynol o LAPIDUS a NAWE, ac mae hi’n angerddol am y rôl y gall ysgrifennu creadigol ei chwarae mewn myfyrio personol, iachâd a datblygiad.

 

“Mae fy ngweithdai wedi’u strwythuro o amgylch ymarferion ysgrifennu sy’n annog y dychymyg i ymffrwythlonni. Byddant yn darparu cyswllt cymdeithasol a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda phoen cronig. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu grymuso ac yn darganfod persbectif sy’n cynnig ystyr a gobaith i’w cyflwr.”- Deborah Llewelyn

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru