Dewislen
English
Cysylltwch
Teitl y prosiect: Writing Tree/Coeden Ysgrifennu 
Cyfranogwyr: Roedd y prosiect yn cefnogi llesiant rhieni newydd, a datblygu eu cysylltiad â byd natur. 

Gwybodaeth am y prosiect: 

Roedd y prosiect yn cymryd ei enw o’r goeden ffawydd (‘beech’ neu goeden ysgrifennu), y mae ei henw Hen Saesneg bōc wedi rhoi’r gair ‘book’ (llyfr) i ni yn y Saesneg. Roedd y prosiect yn gweithio gyda rhieni newydd i wella eu lles a datblygu cysylltiad agosach â byd natur. Mi wnaeth y cyfranogwyr gymryd rhan mewn sesiynau ymdrochi yn y goedwig (amser ymdrochol, ystyriol, ym myd natur) a gweithdai ysgrifennu creadigol myfyriol. Cafodd casgliad o waith y cyfranogwyr ei gynhyrchu a’u rhoi iddynt fel rhywbeth iddynt gadw a myfyrio ymhellach arno. Cafodd y prosiect hwn ei ddatblygu mewn partneriaeth â gwasanaeth amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Darllen yr adroddiad.

Adborth Cyfranogwyr

Mae’r agwedd ysgrifennu creadigol wedi bod yn rhyfeddol o bleserus, gan ganiatáu inni gael mynediad at y rhan honno ohonom ein hunain sy’n aml yn cael ei hanwybyddu neu’n cael ei gwthio i waelod y rhestr. Mae wedi bod yn arf gwych ar gyfer prosesu’r hyn a brofwyd gennym ar hyd y daith gerdded a hefyd ar gyfer manteisio ar atgofion y gorffennol, y cysyniad o barchedig ofn a sut y gallwn drosglwyddo’r rhain i’n plentyn. Mae’r profiad wedi fy ngalluogi i ailgysylltu â byd natur a rhyddhau fy ochr greadigol! Yr uchafbwyntiau oedd cerdded yn droednoeth, anadlu’r goedwig a’r farddoniaeth. Roedd yn ffordd bwysig o’n hatgoffa ni, fel rhieni newydd, i gymryd ein hamser a mwynhau bywyd fel y mae ar hyn o bryd.

Bywgraffiadau yr artistiaid: 

Mae Gwyn Lewis yn fyfyriwr PhD Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn gweithio ar nofel sy’n archwilio trawma a’r corff, wedi’i gosod mewn gwladfa Gymreig ffuglennol yn Nwyrain Ewrop. Cyn hyn, bu’n gweithio mewn rolau polisi ac ymchwil yn Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Ewropeaidd, a Senedd Cymru. 

Mae Sarah Douglass wedi bod yn Brif Seicolegydd Clinigol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers ei sefydlu yn 2016. Mae gan Sarah brofiad helaeth o weithio’n therapiwtig gydag oedolion a’u teuluoedd i wella eu hiechyd meddwl. Mae Sarah yn arwain ar ddatblygu y gwasanaeth ac mae ganddi lawer o brofiad o hyfforddi a goruchwylio eraill. 

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron #4