Dewislen
English
Cysylltwch

Gwaith Comisiwn i Awduron #4

Ym mis Mawrth 2022, gwahoddodd Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, ddatganiadau o ddiddordeb gan awduron a hwyluswyr creadigol i ddyfeisio a chyflwyno prosiect ysgrifennu creadigol a oedd yn archwilio’r cysylltiad rhwng llenyddiaeth, llesiant, a’r amgylchedd naturiol. 

Rydym ni’n credu fod gan lenyddiaeth y grym i wella a thrawsnewid bywydau. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod treulio amser ym myd natur yn dda i’n lles meddyliol a gall ymgolli ein hunain yn yr awyr agored ac ysgrifennu am ei ryfeddodau ein helpu ni’n emosiynol hefyd. Wrth i’n pryderon am yr argyfwng hinsawdd a’r pandemig dyfu, mae llawer ohonom wedi bod yn mwynhau ein hamgylchedd naturiol yn fwy nag erioed o’r blaen. 

Rydym wedi dyfarnu £4,000 yr un i brosiectau sydd yn: 

  • darparu gweithgaredd ysgrifennu creadigol arloesol a newydd i bobl ar incwm isel sy’n cefnogi iechyd meddwl a llesiant 
  • darparu cyfleoedd i awduron sydd ar gychwyn eu gyrfa a chynulleidfaoedd creadigol ddatblygu neu ddysgu sgiliau newydd 
  • creu prosiectau peilot y gellir eu defnyddio fel arfer da ar gyfer prosiectau yn y dyfodol mewn ardaloedd eraill yng Nghymru 
  • gweithio pan yn bosib mewn partneriaeth â sefydliad lleol (gwirfoddol / trydydd sector) sydd â phrofiad o gefnogi pobl i fwynhau eu hamgylchedd naturiol a sefydlu mentrau hir dymor yn y gymuned 
  • diddanu cleientiaid a chynulleidfaoedd gyda chynnwys llenyddol cyffrous, difyr a gafaelgar 
  • defnyddio llwyfannau digidol, ac o bosib gweithgaredd wyneb yn wyneb o bell, i ddod â chynulleidfaoedd a chymunedau creadigol ynghyd trwy lenyddiaeth 

Gallwch ddarllen rhagor am y prosiectau a’r artistiaid llwyddiannus isod: